Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol
Ymchwiliad Pwyllgor: Cynllunio Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Galw am Dystiolaeth
Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i gynllunio gweithlu ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru ac yn galw ar y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.
Cefndir
Ym maes gofal iechyd, bydd yr ymchwiliad yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru fel prinder meddygon teulu mewn rhai ardaloedd, lefel y swyddi nyrsio gwag sydd wedi’u llenwi gan staff cronfa ac asiantaeth, lleoliadau hyfforddi ar gyfer meddygon iau a faint o swyddi sydd ar gael i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sydd newydd gymhwyso e.e. ffisiotherapyddion. Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod yr amrywiaeth amlwg yn nifer y gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd bob blwyddyn, sy’n arwain naill ai at ormod o weithwyr neu brinder gweithwyr.
Mae’r sector gofal cymdeithasol yn cyflogi 70,000 o bobl yng Nghymru, gyda’r sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat yn darparu gwasanaethau. Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn debygol o gynyddu’r galw am wasanaethau gofal hyd y gellir rhagweld. Mynegwyd pryder yn y sector plant ynghylch prinder gweithwyr cymdeithasol i gyflawni gwaith ym maes amddiffyn plant. Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar anawsterau staff gofal cymdeithasol o ran recriwtio a chadw ac effaith polisïau’r Llywodraeth yn y meysydd hyn.
Yn ôl i'r brig
Cylch Gorchwyl
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad:
"Ymchwilio i effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer cynllunio gweithlu yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac i wneud argymhellion ar gyfer y trefniadau yn y dyfodol, gan gyfeirio at:
- Y ffordd y mae cyfrifoldeb wedi’i rannu ymhlith cyrff sy’n gyfrifol am gynllunio’r gweithlu a’r dulliau a ddefnyddiant;
- Y wybodaeth sydd ar gael a all gyfrannu at gynllunio’r gweithlu a safon y wybodaeth honno;
- Rhan yr holl randdeiliaid perthnasol yn y broses gynllunio;
- Newidiadau ym mhatrwm y galw am wasanaethau (gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio) a’r ddarpariaeth sydd ar gael yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys ailgyflunio gwasanaethau, defnyddio technoleg newydd, trefniadau newydd ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus);
- Trefniadau trawsffiniol â’r GIG yn Lloegr;
- Newidiadau mewn swyddogaethau proffesiynol a rhaglenni hyfforddi;
- Y cydweithio rhwng asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol;
- Anghenion gweithlu’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat;
- Recriwtio gweithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru, gan gynnwys staff sy’n siarad Cymraeg a’r rheini o grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig;
- Enghreifftiau o arfer da ac arloesol.”
Yn ôl i'r brig
Cwestiynau i'w hystyried wrth baratoi tystiolaeth
- A yw'r gwaith o gynllunio'r gweithlu yn cael ei wneud gan yr asiantaethau priodol ac mewn ffordd sy'n ystyried ffactorau allweddol eraill megis cyllid, cynllunio gwasanaethau a'r gallu i hyfforddi? I ba raddau y dylid ei ganoli?
- A oes digon o wybodaeth ar gael i’r rhai sy’n cynllunio’r gweithlu ac a yw o ansawdd digon da i sicrhau bod modd cynllunio’n effeithiol?
- A yw patrymau’r galw am wasanaethau yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn ddigonol wrth gynllunio'r gweithlu?
- A yw pob rhanddeiliad yn cael ei gynnwys yn y broses hon e.e. rhanddeiliaid o'r sectorau statudol, gwirfoddol a phreifat?
- I ba raddau y mae'r trefniadau presennol yn annog neu'n atal cydweithio effeithiol rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac ar draws y sectorau statudol, gwirfoddol a phreifat?
- Beth yw'r trefniadau ar gyfer cynllunio'r gweithlu mewn ardaloedd lle y ddefnyddir gwasanaethau ar draws ffiniau (e.e. gwasanaethau iechyd y Gogledd)?
- I ba raddau y mae'r trefniadau presennol ar gyfer cynllunio'r gweithlu yn dylanwadu ar ddefnyddio staff asiantaethau a pha effaith y mae hyn yn ei chael ar gyllidebau?
- A yw'r drefn bresennol yn diwallu'r angen am staff sy'n siarad Cymraeg ac am staff o grwpiau duon a lleiafrifoedd ethnig?
- I ba raddau y mae cynllunio'r gweithlu yn rhagweld patrymau'n newid o ran comisiynu a darparu gwasanaethau, ynghyd â newid neu amwysedd o ran rolau staff proffesiynol?
- A yw’r gwaith o gynllunio'r gweithlu yn ystyried yn ddigonol yr angen am reolwyr hyfforddedig ac effeithiol?
- I ba raddau y mae'r Gyfarwyddeb Amser Gweithio Ewropeaidd a'r farchnad lafur gynyddol ryngwladol wedi effeithio ar gynllunio'r gweithle, ac yn cael eu cydnabod ynddo?
Yn ôl i'r brig