Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i Waith Craffu Llywodraeth Leol

Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad i’r cynnydd a wnaed ym maes trosolwg a chraffu llywodraeth leol yng Nghymru.

Yn 2004 cyhoeddodd y cyn Bwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yr adroddiad Gweithredu Strwythurau Rheoli Gwleidyddol Newydd  o fewn Llywodraeth Leol a oedd yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Leol ynghylch cryfhau rôl graffu cynghorwyr anweithredol.

Adolygodd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y cynnydd a wnaed wrth weithredu argymhellion adroddiad 2004, ac asesodd pa ddatblygiadau pellach oedd eu hangen er mwyn gwella ansawdd gwaith trosolwg a chraffu o fewn llywodraeth leol.

Ymgynghori

Cyhoeddodd y Pwyllgor ymgynghoriad ysgrifenedig ar 21 Hydref 2008. Caeodd hwn ar 5 Rhagfyr 2008.

Llythyr Ymgynghori

Cyhoeddir yr ymatebion a gafwyd yma

Tystiolaeth

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Mawrth 2009.(PDF)

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help