Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad Pwyllgor: Byrddau Gwasanaethau Lleol

Galw am Dystiolaeth

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i’r cynnydd a wnaethpwyd gan chwe Bwrdd Gwasanaethau Lleol peilot yng Nghymru a sut y bydd y Byrddau’n datblygu yn y dyfodol ac yn galw ar y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes hwn i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Cylch Gorchwyl

Cwestiynau i'w hystyried wrth baratoi tystiolaeth

Tystiolaeth Ysgrifenedig

Cefndir

Gwnaeth Adroddiad Adolygiad Beecham, Ar Draws Ffiniau: Gwasanaethau Lleol sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd nifer o argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff eraill yng Nghymru. Dau argymhelliad i Lywodraeth y Cynulliad oedd:

  • Profi set realistig ac uchelgeisiol o Gontractau Gweithredu mewn Partneriaeth (PACts) gyda’r canlyniadau yn cael eu trafod ar y cyd â sefydliadau darparu lleol.
  • Ystyried profi model o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus lleol wedi i ganlyniad y PACts gael ei werthuso.

Yn Cyflawni ar Draws Ffiniau, ei ymateb i Adroddiad Beecham, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad sefydlu Byrddau Gwasanaethau Lleol (LSBs) yn 2007-08. Mae’n rhagweld y bydd y rhain yn tyfu o’r partneriaethau strategaeth cymunedol sy’n bodoli’n awr. Eu swyddogaeth yw dilyn llwybr gweithredu ar y cyd lle bydd yn golygu gwell canlyniadau i ddinasyddion, yn seiliedig ar gyd-gynllunio uchelgeisiol a darparu gwasanaethau yn integredig.

Yn dilyn hyn cyhoeddwyd chwe phrosiect datblygu yng Nghaerffili, Caerdydd, Caerfyrddin, Gwynedd, Castell Nedd Port Talbot a Wrecsam.

Yn ôl i'r brig

Cylch Gorchwyl

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr ymchwiliad:

Archwilio cynnydd cynnar y chwe Bwrdd Gwasanaethau Lleol peilot yng Nghymru a gwneud argymhellion gyda golwg ar ddatblygu Byrddau Gwasanaethau Lleol yn y dyfodol, gan gyfeirio at:

  • Y broses o ddwyn ynghyd "dimau arwain lleol” yn yr ardaloedd peilot ac effeithiolrwydd cyd-weithio rhwng y cyrff craidd a deiliaid diddordeb.
  • Monitro a gwerthuso’r cynnydd a wnaethpwyd wrth sefydlu Byrddau Gwasanaethau Lleol hyd yma a’r broses "ddysgu gweithredol” wrth iddynt ddatblygu.
  • Cytundeb Cytundebau Darparu’n Lleol (LDAs) yn yr ardaloedd peilot, yn cynnwys edrych i ba raddau y mae pobl leol wedi ymwneud yn y broses.
  • Y berthynas rhwng Byrddau Gwasanaethau Lleol a strwythurau partneriaeth presennol, yn benodol y partneriaethau strategaeth cymunedol a’r strwythurau isranbarthol megis Byrddau Rhanbarthol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
  • Y craffu ar ac atebolrwydd Byrddau Gwasanaethau Lleol.
  • Sut mae partneriaid sy’n cynnwys sawl awdurdod unedol yn ymgysylltu â Byrddau Gwasanaethau Lleol niferus.
  • Rôl Awdurdodau Lleol mewn perthynas â’r Byrddau.
  • Rôl swyddogion Llywodraeth y Cynulliad gyda golwg ar y Byrddau.
  • Rôl y "Cynllun Gofodol” a Gweinidogion â Byrddau Gwasanaethau Lleol yn eu hardaloedd.      
  • I ba raddau y mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lleol a Chytundebau Ardaloedd Lleol yn Lloegr wedi bod yn sail i ddatblygu’r model yng Nghymru?

Yn ôl i'r brig

Cwestiynau i'w hystyried wrth baratoi tystiolaeth

Y materion isod yw’r rhai yr hoffem i chi roi sylw arbennig iddynt:

  • Cynnydd cyffredinol y Byrddau Gwasanaethau Lleol peilot a’r cynnydd wrth eu cyflwyno i ardaloedd awdurdodau lleol eraill;
  • Rôl a chyfansoddiad y "timau arwain lleol” a sefydlwyd yn yr ardaloedd peilot a pha mor effeithiol fu’r cydweithredu rhwng cyrff craidd a rhanddeiliaid;
  • Sut y mae cynnydd y Byrddau Gwasanaethau Lleol yn cael ei fonitro a’i werthuso a’r hyn a ddysgwyd hyd yn hyn drwy’r broses "dysgu gweithredol”;
  • Sut y lluniwyd Cytundebau Cyflenwi Lleol yn yr ardaloedd peilot a sut y nodwyd y blaenoriaethau, gan gynnwys y graddau y cafodd dinasyddion lleol eu cynnwys;
  • Y berthynas rhwng y Byrddau Gwasanaethau Lleol a’r strwythurau partneriaeth presennol, yn enwedig y partneriaethau strategaeth cymunedol a’r strwythurau is-ranbarthol fel Byrddau Rhanbarthol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
  • Craffu ar y Byrddau Gwasanaethau Lleol a’u hatebolrwydd - sut y creffir arnynt ac i bwy y maent yn atebol?
  • Sut y mae partneriaid, fel yr awdurdodau tân a heddlu, sy’n cynnwys sawl awdurdod unedol, yn ymwneud â’r Byrddau Gwasanaethau Lleol amryfal;
  • Rôl yr awdurdodau lleol mewn perthynas â’r Byrddau Gwasanaethau Lleol;
  • Rôl swyddogion Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas â’r Byrddau Gwasanaethau Lleol;
  • Y graddau y mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lleol a Chytundebau Ardal Lleol yn Lloegr wedi bod yn sail i ddatblygiad y model Cymreig.

Yn ôl i'r brig