Y Mesur Arfaethedig ynghylch Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)
Mesur Arfaethedig Llywodraeth a gyflwynwyd gan Ieuan Wyn Jones AC, Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Diben y Mesur Arfaethedig yw
Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch teithio gan bersonau sy'n cael addysg gynradd, addysg uwchradd neu addysg bellach neu hyfforddiant i ysgolion neu i fannau eraill lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant, ac oddi yno; ac at ddibenion cysylltiedig.
Cyfnod Presennol y Mesur
Mae'r Mesur yng Nghyfnod 4 ar hyn o bryd. Mae esboniad o beth sy'n digwydd ym mhob cyfnod i'w gael yn yr Arweiniad i Fesurau.
Eitemau newyddion cysylltiedig
Ceir eistemau newyddion a baratowyd gan y Cynulliad mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth hon yn yr adran ar gyfer Dogfennau perthnasol.
Y Mesur Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol
Cyfnod 1
Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig, a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny:
Dadl yn y Cyfarfod LlawnCytunood y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig wedi'r dadl ar y
cam cyntaf yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ebrill 2008.
Cyfnod 2
Pwyllgor yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd yn fanwl:
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 30 Ebrill 2008. Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd ar gael yn:
Gwelliannau Cyfnod 2.
Cyfnod 3
Y Cynulliad yn ystyried y Mesur arfaethedig ac unrhyw welliannau a ddewiswyd yn fanwl:
Cynhelir ystyriaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Medi 2008 pryd y trafodir y gwelliannau i'r Mesur arfaethedig (adrannau 1-25, atodlen 1, adran 26, atodlen 2, adrannau 27-29). Mae’r Memorandwm Esboniadol hefyd wedi’i ddiwygio ar ôl Cyfnod 2.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau wedi mynd heibio.
Mae manylion y gwelliannau a gyflwynwyd a gael yn: Gwellianna Cyfnod 3