1. Rhoddodd Llywodraeth y DU gyfyngiadau ar symud anifeiliaid ledled y DU mewn ymateb i’r achosion o glwy’r traed a’r genau, a ddigwyddodd yn Surrey yn ystod Awst a Medi. Ers yr achosion, mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig wedi monitro’r datblygiadau ac, yn benodol, effaith yr achosion ar amaethyddiaeth a’r diwydiannau cysylltiedig.
2. Cytunodd yr Is-bwyllgor y byddai’n briodol gwahodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig i gael ei chraffu mewn perthynas â’r ffordd yr ymdriniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru â’r achosion o glwy’r traed a’r genau, unwaith ei bod yn glir bod yr achosion wedi dod i ben. Roedd y Pwyllgor Cyllid eisoes wedi cytuno i ymchwilio i effaith ariannol yr achosion ar Gymru ac, fel rhan o’r craffu hwn, wedi casglu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar gan Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Hybu Cig Cymru a Chymdeithas Arwerthwyr Da Byw Cymru. Er mwyn osgoi dyblygu gwaith, cytunodd yr Is-bwyllgor i ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd eisoes i’r Pwyllgor Cyllid, yn hytrach na gwahodd y tystion i ddarparu tystiolaeth ar wahân.
3. Cynhaliwyd un sesiwn dystiolaeth yn unig er mwyn i’r Is-bwyllgor graffu ar ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r achosion o glwy’r traed a’r genau, ar 29 Tachwedd 2007. Mynychodd Elin Jones AC, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, y sesiwn dystiolaeth, ynghyd â Dr Christianne Glossop, y Prif Swyddog Milfeddygol, a Huw Brodie, Cyfarwyddwr yr Adran dros Faterion Gwledig.
4. Agorodd y Gweinidog y sesiwn dystiolaeth trwy egluro, pan gadarnhawyd yr achosion, ei bod wedi gosod dau nod ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru. Y nod cyntaf oedd sicrhau na fyddai’r clwy yn cyrraedd Cymru a’r ail nod oedd caniatáu symud anifeiliaid unwaith eto cyn gynted ag y byddai hyn yn ddiogel a thrwy hyn leihau’r effaith economaidd ar amaethyddiaeth a’r diwydiannau cysylltiedig.
5. Wrth dderbyn tystiolaeth gan y Gweinidog, ceisiodd yr Is-bwyllgor eglurhad a manylion pellach ar y materion canlynol:
6. Ni cheisiodd y Pwyllgor unrhyw eglurhad ysgrifenedig gan y Gweinidog yn ystod y sesiwn dystiolaeth.
7. At ei gilydd, mae’r Pwyllgor yn fodlon ar y modd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gweinidog dros Faterion Gwledig wedi trin yr achosion o glwy’r traed a’r genau a’r cyfyngiadau ar symud anifeiliaid a ddaeth yn eu sgil. Yn wir, mae’r Aelodau wedi cofnodi eu gwerthfawrogiad o "ymdrech gymeradwy” y staff a’r profiadau
cadarnhaol a gawsant hwy ac eraill wrth ymwneud â hwy. Roedd y Pwyllgor hefyd yn fodlon yn gyffredinol ar natur trafodaethau cyfredol rhwng Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig a pha mor aml y’u cynhelir.
8. Fodd bynnag, mae gan y Pwyllgor nifer o argymhellion sy’n ceisio cefnogi’r diwydiant yn y tymor byr a’r hirdymor ac mae’n annog Llywodraeth y Cynulliad i’w hystyried yn llawn. Mae hefyd yn awgrymu y dylid darllen yr argymhellion isod, sy’n anelu at wella’r ffordd y caiff clefydau anifeiliaid eu rheoli, ar y cyd â’r argymhellion yn adroddiad diweddar y Pwyllgor ar dwbercwlosis mewn gwartheg.
Argymhelliad 1: Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’n llawn ymdrechion Llywodraeth y Cynulliad i ddatrys yr anghydfod presennol â Llywodraeth y DU ynghylch pwy sy’n gyfrifol am ddarparu cymorth ychwanegol i’r diwydiant amaeth. Mae’r Pwyllgor felly yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad barhau yn ei hymdrechion i geisio cael Llywodraeth y DU i gyllido taliadau iawndal i ffermwyr Cymru ac y dylid datrys y mater cyn gynted ag y bo modd.
Argymhelliad 2: Er bod y Pwyllgor yn cyfaddef mai Llywodraeth y DU sy’n bennaf gyfrifol am ddarparu pecyn cymorth i’r diwydiant amaeth, mae’n argymell, wrth i drafodaethau ar y mater hwn barhau, y dylai Llywodraeth y Cynulliad ystyried darparu pecyn cefnogaeth interim i sicrhau y gwireddir y nod o "leihau’r effaith economaidd ar amaeth” a’r diwydiannau cysylltiedig. Mae’r Pwyllgor yn awgrymu y gellid ariannu pecyn cefnogaeth interim o’r fath trwy’r cronfeydd wrth gefn ac unrhyw ddiffyg yn y gwariant ar gymorth ar gyfer ŵyn ysgafn.
Argymhelliad 3: Mae’r Pwyllgor yn mynegi ei bryder bod diwydiant amaeth Cymru fel petai’n ddibynnol iawn ar y farchnad allforio. Mae’r Pwyllgor yn argymell felly y dylai Llywodraeth y Cynulliad hyrwyddo galw hirdymor yn y farchnad gartref trwy annog manwerthwyr i werthu mwy o gynnyrch o Gymru; gwella’r gwaith o hyrwyddo a marchnata cynnyrch Cymru i ddefnyddwyr; annog y sector cyhoeddus, fel ysgolion ac ysbytai, i ddefnyddio cynnyrch o Gymru; a chefnogi ffermwyr unigol er mwyn iddynt allu dod â’u cynnyrch i’r farchnad gartref.
Argymhelliad 4: Mae’r Pwyllgor yn nodi’r toriadau arfaethedig yn y cyllid ar gyfer swyddogion safonau masnach o hyd at 12 y cant ac mae’n pryderu ynghylch yr effaith y gallai hyn ei chael ar roi ar waith fesurau i reoli clefydau mewn ardaloedd llywodraeth leol. Mae’r Pwyllgor yn argymell felly y dylai Llywodraeth y Cynulliad gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau na fydd unrhyw doriadau yn y cyllid ar gyfer swyddogion safonau masnach yn gwanhau ymdrechion i ddiogelu da byw Cymru rhag cael eu heintio yn y dyfodol.
Argymhelliad 5: Mae’r Pwyllgor yn pryderu nad yw’n ymddangos bod gan Lywodraeth y Cynulliad amcangyfrif cyfredol o gost yr achosion o glwy’r traed a’r genau i’r diwydiant amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig ac efallai had yw’r ffaith ei bod yn dibynnu ar amcangyfrifon Hybu Cig Cymru, sy’n benodol i’r diwydiant defaid, yn ystyried holl faint y broblem. Mae’r Pwyllgor yn argymell felly y dylai Llywodraeth y Cynulliad wneud ei hasesiad llawn ac ystyrlon ei hun o’r sefyllfa bresennol, gyda’r bwriad o gychwyn trafodaethau pellach â Llywodraeth y DU ar becyn ariannu.
Argymhelliad 6: Mae’r Pwyllgor yn croesawu bwriad y Gweinidog i drafod ag elusennau amaethyddol a gwasanaethau eiriolaeth faint o waith ychwanegol yr oedd angen iddynt ei wneud o ganlyniad i glwy’r traed a’r genau, er mwyn asesu a ddylid darparu rhagor o gymorth ariannol. Mae’r Pwyllgor yn cefnogi ymagwedd y Gweinidog ac yn annog Llywodraeth y Cynulliad i gynnal cyfarfodydd ag elusennau amaethyddol a gwasanaethau eiriolaeth, fel cronfa ARC-Addington, y Sefydliad Lles Amaethyddol Brenhinol a’r Rhwydwaith Argyfwng Ffermio, fel mater o frys, gyda golwg ar ddarparu cyllid ychwanegol.
Argymhelliad 7: Mae’r Pwyllgor yn nodi bod y Gweinidog yn rhoi sicrwydd na fydd effaith yr achosion o glwy’r traed a’r genau ar y staff yn gwanhau gallu Llywodraeth y Cynulliad i gyflawni prosiectau eraill, megis talu’r taliad sengl i ffermwyr, Tir Gofal a Thir Cynnal. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad fonitro cyflawniad prosiectau o’r fath i sicrhau nad oes unrhyw oedi, a fyddai’n amharu ymhellach ar ddiwydiant sydd eisoes dan bwysau.