Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig
Adroddiad drafft ar y Gyllideb Ddrafft Materion Gwledig ar gyfer 2008/09
Mae’r Is-bwyllgor yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyllid fel a ganlyn—
Cyflwyniad
1. Mae’r is-bwyllgor wedi ystyried y cynlluniau gwario ym mhortffolio Materion Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru fel y nodir yng Nghynigion Cyllideb Ddrafft 2008/09 a’r dogfennau cysylltiedig.
2. Cyfyngwyd gwaith craffu’r is-bwyllgor ar Gynigion Cyllideb Ddrafft 2008/09 i un cyfarfod pwyllgor oherwydd y terfynau amser tyn o fewn y broses gyllidebol a’r gofyniad bod yn rhaid i’r rhiant-bwyllgor gymeradwyo adroddiadau’r is-bwyllgor cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Cynhaliwyd y sesiwn graffu ar 8 Tachwedd 2007, pan glywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Elin Jones AC, y Gweinidog dros Faterion Gwledig; Huw Brodie, Cyfarwyddwr yr Adran Materion Gwledig; Rory O’Sullivan, Pennaeth yr Is-adran Polisi Cefn Gwlad; Norma Barry, Pennaeth yr Is-adran Datblygu Bwyd a’r Farchnad; a Sian Andrews, yr Uned Materion Gwledig a Threftadaeth.
Materion a Godwyd yn y Dystiolaeth
3. Wrth gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog, gofynnodd yr is-bwyllgor am eglurhad o’r materion a ganlyn a manylion pellach yn eu cylch:
dyfodol Cynllun Genoteipio Mamogiaid Cymru;
a yw lefel y gwariant a nodwyd yn llinell wariant y gyllideb ar gyfer Taliadau, Costau a Derbyniadau Lladd Anifeiliaid sydd â TB yn ddigonol, manylion unrhyw gyfraniadau gan Lywodraeth y DU ac a oes cyllid ar gael mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer y cynnydd mewn galw a ddisgwylir;
a fydd lefel y gwariant a neilltuwyd ar gyfer dileu TB yn ddigonol, o gofio rhaglen dileu TB Llywodraeth y Cynulliad sydd wrthi’n cael ei ddatblygu
gostyngiadau yn y llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer y Refeniw Iawndal Defaid
ffynhonnell yr arian o’r pecynnau iawndal presennol sy’n ymwneud â’r argyfwng clwy’r traed a’r genau ac unrhyw ddarpariaeth ar gyfer mesurau iawndal tebyg yn 2008/09
Gwerthuso sut y gwariwyd y £1 filiwn ychwanegol ar farchnata a hyrwyddo nwyddau Cymreig
statws y Cynllun Datblygu Gwledig Drafft i Gymru a’r dyddiad tebygol ar gyfer ei gymeradwyo
y gweithgareddau a gynhwysir yn y llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer Ymchwil a Gwerthuso, gan gynnwys y gweithgareddau hynny fydd yn cael budd o’r cynnydd yn yr arian a gynllunnir ar gyfer 2008/09
y diffyg tryloywder a chyflwyno clir o fewn ac ar draws y llinell wariant yn y gyllideb sy’n berthnasol i Tir Cymru
y gweddill nas gwariwyd ar Fodiwleiddio Gwirfoddol cronedig - erbyn pryd ac ar beth y mae’n rhaid ei wario
y defnydd o’r cynnydd mewn gwariant o £6.9 miliwn ar gyfer Refeniw Gweinyddu’r Taliad Sengl i uwchraddio’r system technoleg gwybodaeth i sicrhau taliadau amserol a chywir i ffermwyr
gweithredu, cyllido a datblygu’r Cynllun i Newydd-ddyfodiaid yn 2010/11
prosiectau a ariennir o dan y llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer cymunedau gwledig a’r materion sy’n ymwneud â Cyswllt Ffermio
cynlluniau a ariennir o dan y gyllideb Hyrwyddo Bwyd Cymru, y trefniadau rhwng Adran yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Adran Materion Gwledig o ran y Diwydiant Bwyd a Chymorth
cynnydd yn y llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer Comisiwn Coedwigaeth Cymru.
4. Yn ogystal, amlygodd y Gweinidog oblygiadau’r blaenoriaethau materion gwledig yn y cytundeb 'Cymru’n Un’ o ran y gyllideb.
Eglurhad Ysgrifenedig a Geisiwyd
5. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth bellach ganlynol. Fodd bynnag, oherwydd terfynau amser tyn, ni allodd ei ddarparu mewn digon o amser ar gyfer paratoi’r adroddiad hwn:
manylion yr arian a ddarparwyd gan DEFRA ar gyfer iechyd anifeiliaid yng Nghymru
eglurhad ynghylch a gynhwyswyd y profion gamma-interferon presennol o fewn cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru neu gyllideb DEFRA
manylion y mathau o brosiectau a ariannwyd drwy’r llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer ymchwil a gwerthuso
eglurhad a dadansoddiad o’r ffigurau yn y gyllideb Tir Cymru.
Argymhellion
6. Er bod yr is-bwyllgor yn fodlon yn gyffredinol ar gynnwys y Gyllideb Ddrafft Materion Gwledig 2008/09 a sut y gwerir yr arian, mae’n siomedig ynghylch y diffyg eglurder a thryloywder o fewn rhai llinellau gwariant yn y gyllideb. Er mwyn hwyluso craffu effeithiol yn y dyfodol, mae’r is-bwyllgor yn argymell y dylid cyflwyno cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft yn y dyfodol yn fwy eglur ac y dylid darparu nodiadau addas i egluro cynnwys y llinellau gwariant.
7. Amlygodd yr is-bwyllgor y ffaith bod cyfran fawr o’r gyllideb materion gwledig yn deillio o’r Cynllun Datblygu Gwledig, yr ydym yn disgwyl i’r Comisiwn Ewropeaidd ei gymeradwyo ar hyn o bryd. Mae’r Is-bwyllgor yn argymell felly y caiff cynlluniau wrth gefn eu llunio i sicrhau bod unrhyw ddiffyg yn cael ei gwmpasu pe byddai’r CE yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r cynllun yn ei gyfanrwydd.
8. Mae’r is-bwyllgor yn lleisio ei bryder o ran y sail ar gyfer dyrannu’r lefelau gwariant i’r rhaglen i ddileu TB, sy’n ymrwymiad yng nghytundeb Cymru’n Un, oherwydd nad oes strategaeth ar gyfer dileu TB. Mae’r Is-bwyllgor felly’n argymell y dylai’r strategaeth derfynol gynnwys costiadau manwl ac y dylid ailedrych ar y dyraniad yn y gyllideb os gwelir bod y symiau a ddyrennir yn annigonol.
9. Mae’r is-bwyllgor yn nodi nad yw’r arian a ddarparwyd gan DEFRA wedi ei gynnwys yng Nghynigion Cyllideb Ddrafft 2008/09 nac yn y dogfennau cysylltiedig. Mae’r Is-bwyllgor felly yn argymell, er mwyn hwyluso’r craffu, fod nodyn sy’n cynnwys manylion gwariant DEFRA o fewn y portffolio materion gwledig yn cael ei ddarparu yn y cynigion cyllidebau drafft yn y dyfodol.
