Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig
Adroddiad ar y Gyllideb
1. Mae’r pwyllgor wedi ystyried y cynlluniau gwario ar gyfer blaenoriaethau materion gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel y’u nodir yn y Cynigion Drafft ar gyfer Cyllideb 2009/10 a’r dogfennau cysylltiedig.
2. Craffodd y pwyllgor ar y Cynigion Drafft ar gyfer Cyllideb 2009/10 ar 20 Hydref 2008, pan glywodd dystiolaeth gan Elin Jones AC, y Gweinidog dros Faterion Gwledig; Huw Brodie, Pennaeth yr Adran Materion Gwledig a Threftadaeth; Huw Davies, Pennaeth Uned Fusnes yr Adran Materion Gwledig a Threftadaeth; a Rory O’Sullivan, Pennaeth yr Is-adran Polisi Cefn Gwlad.
3. Gofynnodd y pwyllgor am eglurhad a manylion pellach ar y pwyntiau a ganlyn yn ystod ei sesiwn graffu gyda’r Gweinidog:
- cysoni cyllideb 2008/09 gyda chyllideb ddrafft 2009/10
- yr ymrwymiadau Cymru’n Un yr oedd cyllid ar eu cyfer yn y gyllideb
- gwahanu’r llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer y cynllun lles anifeiliaid anwes a rhannu cyfrifoldebau a chostau o’r maes rhaglenni gwariant ar gyfer rheoli clefydau anifeiliaid a lles
- y darpariaethau yn y gyllideb ar gyfer y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol ynghylch cig coch
- y trefniadau cyllido ar gyfer y cynllun trosi ffermydd organig
- y cyllid y bwriedir ei wario ar gyfer dileu TB mewn gwartheg ac a yw’r dyraniad yn ddigonol
- a ddyrannwyd unrhyw gyllid i gyflwyno profion Gamma Interferon ar gyfer TB mewn gwartheg
- y gwariant ar TB mewn gwartheg yr oedd DEFRA yn gyfrifol amdano a’r gwariant oedd o fewn cylch gwaith Llywodraeth y Cynulliad
- y darpariaethau cyllidebol o ran y cynllun datblygu gwledig ar gyfer y gwahaniaethau yn y raddfa gyfnewid rhwng yr ewro a sterling
- a fydd unrhyw oblygiadau cyllidebol o ganlyniad i’r adolygiad o Echel 2 y cynllun datblygu gwledig
- y canlyniadau cyllido a allai ddeillio o’r Mesurau Morol arfaethedig.
- y cyllid ar gyfer y cynllun newydd-ddyfodiaid
- y cynnydd yng nghostau cyfalaf y Comisiwn Coedwigaeth
4. Addawodd y Gweinidog y byddai’n darparu gwybodaeth bellach ar y pwyntiau a ganlyn:
- yr arian yn weddill nas gwariwyd o’r cyllid ar gyfer modiwleiddio gwirfoddol.
5. Yn dilyn y sesiwn, mynegodd y pwyllgor bryder ynghylch y pwyntiau a ganlyn:
- bu’n anodd cysoni’r cynigion yn y gyllideb ddrafft ar gyfer eleni gyda’r ffigurau a gyflwynwyd yng nghyllideb derfynol 2007 oherwydd i’r prif grŵp gwariant gael ei ailstrwythuro. Er bod y pwyllgor yn croesawu’r ffaith y bydd yr ailstrwythuro hwn yn arwain at eglurder wrth graffu ar gyllidebau yn y dyfodol, roedd y broses ar gyfer eleni yn fwy cymhleth. Cyflwynwyd ffigurau oedd yn gwrthddweud ei gilydd yn nhablau dyrannu’r prif grŵp gwariant ac yn yr Adroddiad Drafft ar Gyllideb 2009-10. Achosodd hyn broblemau mawr o ran craffu ar y newidiadau yn y gwariant rhwng 2008-09 a 2009-10.
- y cyllid ar gyfer y cynllun iawndal ar gyfer TB mewn gwartheg. Er bod y pwyllgor yn deall bod iawndal yn cael ei dalu yn ôl y galw, yr oedd yn pryderu bod y gyllideb wedi aros yn £11 miliwn, er bod cyfanswm y taliadau ar gyfer 2008-09 yn uwch na £16 miliwn; ac o gofio y byddai cyflwyno’r profion iechyd ar gyfer TB mewn gwartheg ym mis Hydref 2008 o bosibl yn golygu y byddai llawer mwy o alw am daliadau yn ystod 2009-10, teimlai y byddai’r ddarpariaeth yn annigonol. Yn ogystal, mynegodd y pwyllgor bryder mawr nad oedd ffynhonnell sicr i gwrdd â’r taliadau hyn oherwydd byddai’n rhaid i’r cyllid ychwanegol cychwynnol ar gyfer taliadau iawndal ddod o’r gyllideb materion gwledig, a byddai’n rhaid cael trafodaeth gyda’r Gweinidog cyllid er mwyn codi arian ychwanegol.
- arian ar gyfer y cynllun trosi ffermydd organig. Cydnabu’r pwyllgor fod hwn yn gynllun sy’n dibynnu ar y galw hefyd, ond roedd yn pryderu nad oedd rheolaethau o ran y ceisiadau ac nad oedd darpariaeth ar gyfer arian ychwanegol os oedd cynnydd sylweddol yn y ffermydd sy’n gymwys. Yr oedd y pwyllgor yn pryderu y byddai sut mae’r Gweinidog wedi ailstrwythuro’r cyllid o fewn ei chyllideb ar gyfer y cynllun hwn yn cael effaith ddifrifol ar newydd-ddyfodiaid i Tir Cynnal a Tir Gofal.
Argymhellion
6. Felly, mae’r pwyllgor yn argymell:
- y dylai’r Gweinidog dros Faterion Gwledig adolygu’r cyllid ar gyfer taliadau iawndal ar gyfer TB mewn gwartheg a darparu cynllun i ddangos lle gellir canfod arian ychwanegol yn y gyllideb materion gwledig.
- y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried yr effaith y gallai ailstrwythuro unrhyw gyllidebau yn y dyfodol ei gael ar gysoni cyllidebau a darparu gwybodaeth ddigonol i hyrwyddo eglurder a thryloywder.
- y dylai’r Gweinidog dros Faterion Gwledig adolygu’r arian ar gyfer y cynllun trosi ffermydd organig a nodi lle gellir canfod arian ychwanegol o fewn y gyllideb materion gwledig.