Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig

Ymchwiliad Craffu - Ad-drefnu Ysgolion yng nghefn gwlad Cymru

Galwad am dystiolaeth

Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn cynnal ymchwiliad byr i’r addysg a ddarperir yng Nghymru nghefn gwlad Cymru a’r broses o ad-drefnu ysgolion yng nghefn gwlad ac mae’n galw ar y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd yn y maes i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.

Cefndir

Cyfrifoldeb Awdurdodau Addysg Lleol yw ad-drefnu darpariaeth addysgol.  Rôl Llywodraeth Cynulliad Cymru yw cynnig fframwaith ac arweiniad o ran rheoli’r ddarpariaeth honno, a gall roi cyfarwyddyd i Awdurdodau Addysg Lleol gyflwyno cynigion ar gyfer ad-drefnu ysgolion os penderfynir naill ai fod gormod o leoedd gwag mewn ysgolion neu fod y ddarpariaeth addysgol yn annigonol. Lleoedd gwag, cyflwr adeiladau ysgolion a chyfrifoldebau cwricwlaidd trwm ar nifer fechan o athrawon sydd, fel arfer, yn ysgogi cynigion i gau ysgolion.

Cwmpas yr Ymchwiliad

Bydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn cynnal ymchwiliad byr i weld a yw arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddigonol ac i weld sut y caiff ei ddehongli gan y rheini sy’n rheoli addysg mewn ardaloedd gwledig. Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio’n benodol ar ad-drefnu ysgolion, sy’n bwnc llosg cymdeithasol a gwleidyddol mewn cymunedau ar hyd a lled cefn gwlad Cymru.

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y meysydd a ganlyn yn arbennig:

  • Cyd-destun addysgol ysgolion gwledig ;
  • A oes unrhyw faterion cymdeithasol ac addysgol ehangach ynghlwm wrth ad-drefnu ysgolion gwledig, e.e. yr effaith ar gymunedau gwledig, teuluoedd a phlant a sut y caiff hyn ei ystyried fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau;
  • Enghreifftiau o ad-drefnu ysgolion yng nghefn gwlad Cymru a mannau eraill i ddeall y profiadau ac i ddysgu oddi wrth ddulliau arloesol;
  • Polisi a chyfarwyddyd presennol Llywodraeth Cynulliad Cymru ac a ydynt yn delio’n foddhaol ag unrhyw broblemau ehangach a all fod yn gysylltiedig ag ad-drefnu ysgolion gwledig;
  • Rôl Estyn o ran arolygu ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol.

Anfonwch eich sylwadau at Claire Morris, Clerc yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig i sustainability.comm@wales.gsi.gov.uk erbyn dydd Llun 30 Mehefin.