RDC(3) RRSWA11

Yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig

Ymchwiliad Craffu – Ad-drefnu Ysgolion yng nghefn gwlad Cymru

1.  Ylwadau Cyngor Gwynedd

Diolchwn i’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig am y cyfle i ymateb i’w ymchwiliad i ad-drefnu ysgolion yng nghefn gwlad Cymru.  Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn gosod cwestiynau pendant a cheisiwn strwythuro ein hymateb o amgylch y penawdau hynny.

Cyd-destun addysgol ysgolion gwledig

Poblogaeth

i)  Dros y ganrif ddiwethaf, mae cefn gwlad wedi wynebu newidiadau sylweddol.  Tra bod poblogaeth Cymru wedi tyfu o +85% rhwng 1881 a 2001, (+163% yn y dinasoedd a +101% yn y Cymoedd) twf o 25% yn unig sydd wedi’i brofi yng nghefn gwlad.  Yn fwy lleol, mae Gwynedd wedi profi lleihad poblogaeth o 16% dros yr un cyfnod.

ii)  Mae poblogaeth plant ardaloedd gwledig wedi gweld lleihad mwy sylweddol byth.  Tra bod nifer plant oed 0-14 Cymru wedi tyfu o +6% rhwng 1881 a 2001, a +33% yn y dinasoedd, mae ardaloedd gwledig wedi profi lleihad yn niferoedd plant o’r oedran hwn o -37%.  Eto, mae’r sefyllfa yn fwy trawiadol fyth yng Ngwynedd, gyda lleihad o -57%.

iii)  Mae niferoedd disgyblion cynradd sir Gwynedd wedi lleihau yn sylweddol dros y 30 mlynedd diwethaf.  Mae dros 2000 yn llai o ddisgyblion oed 5-11 yn ysgolion cynradd y sir heddiw o’i gymharu â 1975 (lleihad o 21%).  Mae’r effaith yn amrywio o fewn y sir – yn ardal Arfon yng ngogledd y sir, bu lleihad o 15%, tra yn Nwyfor a Meirionydd mae’r lleihad wedi bod yn amlycach fyth (-27% a -28%).  Mae rhai dalgylchoedd gwledig wedi profi lleihad yn niferoedd disgyblion o dros 35% yn ystod y cyfnod.

iv)  Roedd 118 o ysgolion cynradd yng Ngwynedd yn 1975.  Mae 106 o ysgolion yn y sir heddiw.

v)  Mae dros 2400 o lefydd gweigion yn ysgolion cynradd y sir.  Mae fformiwla gydnabyddedig y Comisiwn Archwilio – fformiwla sydd ers hynny wedi ei gymeradwyo gan Swyddfa Archwilio Cymru – yn awgrymu mai cost un lle gwag ar gyfartaledd yw isafswm o tua £350 y pen.  Ar sail y fformiwla hon cyfrifir bod y llefydd gweigion yn arwain at gost o £835,000 yn flynyddol i Wynedd.

vi)  Gwelwyd lleihad o dros 9% yn niferoedd ysgolion cynradd y sir rhwng 1996-2005, ac mae rhagolygon yn darogan lleihad tebyg rhwng 2005-2016.

Cyflwr adeiladau

i)  Crëwyd y gyfundrefn addysg gyfredol – a’r rhwydwaith o adeiladau ysgolion – er mwyn gwasanaethu cymunedau’r cyfnod.  Mae dros hanner adeiladau ysgolion Gwynedd yn ganrif oed a mwy.  Roedd lleoliad, natur, maint a chyfleusterau’r adeiladau hynny yn addas ar gyfer anghenion cymunedau ganrif yn ôl, ond mae angen cwestiynu i ba raddau maent o hyd yn darparu’r gwasanaeth orau posib.

ii)  Mae Cynllun Rheoli Asedau drafft y Cyngor yn awgrymu bod angen gwariant o £32m er mwyn atgyweirio, cynnal a chadw adeiladau ysgolion cynradd y sir a’u gwneud yn addas ar gyfer anghenion y cwricwlwm cyfredol a datblygiadau’r dyfodol agos.

Materion staffio

i)  Mae cynnal nifer uchel o ysgolion yn golygu bod angen nifer uwch o benaethiaid.  Mae 512 o athrawon llawn-amser yng Ngwynedd, ac mae 106 o swyddi Pennaeth.  Golyga hyn canran uchel o staff dysgu’r Sir  hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am arwain ysgol.

ii)  Mae pwysau gwaith sylweddol ar benaethiaid ysgolion mewn siroedd gwledig.  Mae canran uchel o benaethiaid ysgolion cynradd Gwynedd am addysgu dosbarth yn rheolaidd.  Yr adborth gan athrawon yw bod y pwysau o orfod cyflawni – i bob pwrpas – dwy swydd llawn amser yn golygu nad yw swydd Pennaeth ysgol yn ddeniadol i lawer.

iii)  Mae effaith yr uchod yn eang, ac nid yw wedi’i gyfyngu i ardaloedd gwledig y sir.  Mae nifer cynyddol o benaethiaid ysgolion canolig a mwy y sir yn gorfod cymryd cyfrifoldeb am ddosbarth oherwydd cyfyngiadau staffio a cyllidol.

iv)  Mae datblygiad y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CC) yn milwriaethu yn erbyn siroedd gwledig. Gan fod y broses o ddewis ymgeiswyr ar gyfer yr hyfforddiant yn broses genedlaethol, a gan fod pwyslais sylweddol o fewn y broses ar brofiadau ffurfiol o reolaeth o fewn ysgol, nid oes digon o ymgeiswyr gwledig yn ennill lle ar y cwrs.

v)  Bydd hanner Penaethiaid Gwynedd yn gymwys i ymddeol o fewn y 5 mlynedd nesaf.  Mae’n annhebyg iawn y bydd digon o athrawon wedi cael y cyfle i ennill cymhwyster CPCP mewn amser i lenwi’r swyddi gweigion hynny.  

vi)  Mae 16 o ysgolion y sir (allan o 106) eisoes dan reolaeth Pennaeth dros-dro.  Mae’r ysgolion hynny sydd wedi llwyddo i benodi Pennaeth dros y blynyddoedd diwethaf yn aml yn derbyn dim ond un neu ddau o ymgeiswyr.  Pryder Gwynedd yw mai ond gwaethygu bydd y sefyllfa.yn gorfod cymryd cyfrifoldeb

Maint dosbarthiadau

i)  Maint dosbarthiadau cynradd Gwynedd ar gyfartaledd yw 21.6 disgybl, sef y 3ydd isaf yng Nghymru.  Serch hynny, mae amrediad sylweddol ym maint dosbarthiadau’r sir, o lai nag 8 mewn rhai ysgolion i 30 mewn ysgolion eraill.

ii)  Mae pryder sylweddol bod dosbarthiadau o 30 yn rhoi pwysau annerbyniol ar yr athro ac yn golygu nad yw disgyblion mewn dosbarthiadau felly yn gallu derbyn sylw digonol.

ii)  Mae’r broblem yn arbennig o amlwg yn ardaloedd difreintiedig y sir.  Mae 23% o blant oed cynradd y sir yn mynychu’r 17 o ysgolion sydd mewn wardiau difreintiedig (sef wardiau sydd wedi’u hadnabod fel wardiau Cymunedau’n Gyntaf).  Mae dosbarthiadau yn nifer o’r ysgolion hynny – yn enwedig y wardiau trefol – yn sylweddol fwy na chyfartaledd y sir.

Gwasgfa gyllidol

i)  Mae Gwynedd wedi derbyn setliad sydd ymysg y gwaethaf yng Nghymru dros y 4 mlynedd diwethaf, ac mae rhagolygon y Trysorlys a chynlluniau cyllido tair blynedd Llywodraeth y Cynulliad yn rhagweld mai parhau bydd y sefyllfa dros y blynyddoedd nesaf.

ii)  Mae’r wasgfa ariannol ar y Cyngor felly yn cynyddu, gan olygu bod pob gwasanaeth – yn cynnwys Ysgolion – yn gorfod gwneud arbedion a wynebu toriadau.

iii)  Mae cynnal nifer uchel o ysgolion sy’n heneiddio ar gyllidebau sy’n lleihau yn gynyddol anodd.

Yr iaith Gymraeg yn addysgol ac yn gymunedol

i)  Mae polisi iaith Cyngor Gwynedd o ran ysgolion y sir yn sicr wedi cyfrannu’n helaeth at warchod dyfodol yr iaith fel iaith addysg ac ymhellach fel iaith gymunedol.  Serch hynny, mae’r her yn parhau.  Mae darlun Gwynedd yn gymysg.  Mae canfyddiad clir y gall presenoldeb ysgol sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg gyfrannu’n sylweddol at gynnal yr iaith o fewn y gymuned, boed hynny’n gymuned fach wledig neu’n gymuned drefol.  Mewn rhannau eraill o’r sir, ymddengys nad yw presenoldeb yr ysgol wedi llwyddo i gynnal yr iaith fel iaith gymunedol yng nghwir ystyr y gair.

ii)  Er mwyn profi’r damcaniaethau a’r canfyddiadau hyn, mae Cyngor Gwynedd wedi comisiynu Prifysgol Bangor i gynnal Arolwg Ardrawiad Iaith.  Tra bod y gwaith yn delio i raddau â chynllun ymgynghorol y sir ar gyfer trefniadaeth ysgolion, mae ynddo waith gwerthfawr ar rôl yr ysgol o fewn y gymuned o safbwynt ieithyddol. Mae’r Arolwg yn ystyried llwyddiant ysgolion Gwynedd wrth ddefnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu rhwng athrawon a phlant; yn ychwanegol mae’n nodi graddfa defnydd y Gymraeg ymhlith plant a’u cyfoedion fel maen prawf allweddol o safbwynt cynnal ac adfywio iaith gymunedol

iii)  Mae cyflawni gwaith yr Arolwg wedi agor cwestiynau ehangach, yn benodol y cyfraniad y gall y llywodraeth – yn lleol ac yn genedlaethol – ei wneud i gynnal ac i hyrwyddo’r iaith Gymraeg.  Byddwn yn awyddus i weld Llywodraeth y Cynulliad Cymru yn arwain yn y maes a rhoi sylw priodol i rôl ysgolion wrth feithrin siaradwyr Cymraeg o’r newydd ymhlith plant sy’n dod o gefndir lle na ddefnyddir y Gymraeg fel cyfrwng cartref, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae canran y boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg yn dangos lleihad rhwng y ddau Gyfrifiad diwethaf . Mae dwy agwedd i ddylanwad ysgolion yn y cyd-destun hwn: yn gyntaf llwyddiant yng nghyd-destun defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng addysgol, yn benodol, defnydd iaith rhwng athrawon a phlant, a chyflawniadau addysgol disgyblion; yn ail sut rôl sydd gan ysgolion wrth feithrin a chynnal defnydd y Gymraeg rhwng plant, ee ar y buarth. Tybir bod yr ail swyddogaeth yn arwyddocaol mewn rhai ardaloedd yng Ngwynedd wrth ddiogelu defnydd y Gymraeg fel cyfrwng cymunedol.

Byddwn yn falch i rannu adroddiad yr Arolwg gyda’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig petai’r is-bwyllgor yn dymuno hynny.

2.  A oes unrhyw faterion cymdeithasol ac addysgol ehangach ynghlwm wrth ad-drefnu ysgolion gwledig e.e. yr effaith ar gymunedau gwledig, teuluoedd a phlant a sut y caiff hyn ei ystyried fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau

Wrth drafod dogfen ymgynghorol Gwynedd Ad-drefnu Ysgolion y Sir er Lles Addysg Holl Blant Gwynedd daeth yn amlwg fod gan yr ysgol arwyddocâd eang iawn i hunanddelwedd cymunedau o’u hyfywdra i’r dyfodol.  

Mae natur cymunedau wedi newid dros y ganrif ddiwethaf, ac mae’r boblogaeth yn gyffredinol yn dibynnu ar wasanaethau y tu allan i’w cymunedau traddodiadol.  Wrth i siopau, tafarndai a chapeli gau, mae ystyr “cymuned” wedi ehangu ac wedi newid.Mewn ardal fel Gwynedd, sydd yn parhau i gynnal nifer o gymunedau sydd â’r Gymraeg fel prif iaith, mae gan yr ysgol gyfraniad wrth ddiogelu a lledaenu’r defnydd o’r Gymraeg.

Wrth ystyried newidiadau posib i drefniadaeth ysgolion siroedd gwledig, mae angen ceisio canfod datrysiad sydd yn sicrhau gwell cyfleusterau a strwythur rheolaethol addas a theg tra hefyd diogelu dyfodol cymunedau a’r iaith Gymraeg.  Yr her i awdurdodau lleol yw canfod ffordd ganol sydd yn cwrdd â’r holl ofynion hyn.

3.  Enghreifftiau o ad-drefnu ysgolion yng nghefn gwlad Cymru a mannau eraill i ddeall y profiadau ac i ddysgu oddi wrth ddulliau arloesol

Mae siroedd Cymru wedi ymateb i’r ffactorau rhestrwyd uchod mewn nifer o ffyrdd:

i)  Dim newid

Mae ystyr hwn yn amlwg, sef bod ysgol unigol yn parhau fel endid gwbwl annibynnol gyda phennaeth, corff llywodraethol a chyllid ei hun.

ii)  Cyd-weithio anffurfiol

Mae rhai ysgolion yng Ngwynedd wedi bod yn rhan o drefniant “clwstwr”, sef cydweithio anffurfiol sy’n golygu bod (fel arfer) dwy ysgol yn parhau fel endidau ar wahân ond gydag un pennaeth.  Mae hon yn ateb byrdymor gall ddiogelu safonau addysg a bodolaeth ysgolion.  Serch hynny, mae profiad Gwynedd yn awgrymu mai ateb tymor byr yn unig gall hyn fod.  Mae rhai o’r clystyrau sydd wedi’u sefydlu yng Ngwynedd wedi methu.  Mae’r rhesymau am hyn yn amrywio, ond un ffactor cyson yw’r pwysau ychwanegol sylweddol sydd yn deillio o ofyn i unigolyn gymryd cyfrifoldeb pennaeth dros ddwy ysgol, gan redeg y ddwy ysgol fel endidau ar wahân yn rheolaethol, yn arweinyddol, yn gyllidol ac yn weinyddol.

Mae’r rhai sydd wedi parhau wedi gwneud hynny o ganlyniad i ymroddiad llwyr gan y Pennaeth.  Mae adborth gan y Penaethiaid hynny yn awgrymu bod y pwysau gwaith o reoli dwy ysgol yn afresymol.

iii)  Cyd-weithio ffurfiol

Roedd cyd-weithio ffurfiol – neu ffederaleiddio – yn rhan ganolog o ddogfen ymgynghorol Gwynedd.  Byddai’r model hwn wedi golygu cau nifer o ysgolion fel endidau ar wahân, eu hail-hagor yn syth fel safleoedd o fewn un ysgol newydd, a phenodi un pennaeth, un corff llywodraethol ac un cyllid i reoli’r holl safleoedd.  Mae Llywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd yn gweithio ar reoliadau newydd gallai, o bosib, ganiatáu holl fanteision y model ffederal heb orfod cau ysgolion unigol – hynny yw, byddai dal i fod angen mynd trwy’r broses statudol er mwyn cau safle o fewn ysgol ffederal.  

iv)  Cau ysgolion

Golyga hyn gau ysgol a symud disgyblion i safle newydd.  Gall hyn fod yn ysgol sy’n bodoli eisoes ac sydd â chapasiti i gymryd mwy o ysgolion, neu adeilad newydd sbon.  Mae’n anodd cyfiawnhau adeiladu ysgolion newydd i wasanaethu nifer fechan o ddisgyblion, felly mae adeiladau newydd fel arfer yn gwasanaethu ardal ehangach.

4.  Polisi a chyfarwyddyd presennol Llywodraeth Cynulliad Cymru ac a ydynt yn delio’n foddhaol ag unrhyw broblemau ehangach a all fod yn gysylltiedig ag ad-drefnu ysgolion gwledig

Mae fformiwla cyllido Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cosbi siroedd gwledig.  Mae’r pwyslais ar ddefnyddio Dangosydd Amddifadedd Lluosog Cymru fel sail i ddyrannu cyllid yn golygu nad oes sylw digonol i anghenion cymunedau gwasgaredig.  Nid oes sylw digonol chwaith i lefelau cyflog mewn ardaloedd gwledig wrth bennu anghenion y cymunedau hynny.

Mae dryswch am farn Llywodraeth y Cynulliad o faint delfrydol ysgolion.  Mae’r Comisiwn Archwilio wedi awgrymu y dylai fod o leiaf 90 o ddisgyblion mewn ysgol, mae grantiau – er enghraifft RAISE – yn awgrymu mai 50 disgybl yw’r nifer.  Eto mae datganiadau gan weision sifil yn achlysurol yn awgrymu bod angen tua 180 o ddisgyblion a chwe dosbarth i sicrhau ysgol safonol, hyfyw.  Mae’r neges gan y llywodraeth yn gymysglyd

Mae pryder bydd y newid pwyslais parthed grantiau SBIG yn anfanteisiol i ardaloedd gwledig.  Os gwireddir yr awgrym y bydd siroedd sydd yn gwaredu llefydd gweigion ac yn datblygu cynllun sirol manwl i sicrhau hyn, mae risg y gellir cosbi ardaloedd gwasgaredig.

5.  Rôl ESTYN o ran arolygu ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol

Nid yw arolygiadau ESTYN o ysgolion unigol a’u harolwg o awdurdodau addysg yn gyson.  Beirniadwyd Cyngor Gwyned yn llym gan ESTYN yn ei arolwg o Drefniadaeth a Mynediad at Ysgolion yn Rhagfyr 2006 am beidio a gweithredu er mwyn gwaredu llefydd gweigion.  Nodwyd hefyd bod pryder am gyflwr nifer o adeiladau ysgolion y sir. Y neges glir oedd bod ESTYN o’r farn nad oedd Cyngor Gwynedd yn llwyddo i gael gwerth llawn am ei buddsoddiad mewn addysg.

Ar yr un pryd, mae arolygiadau ysgolion unigol bron yn ddi ffael yn nodi bod ysgolion o bob maint yn rhoi gwerth am arian.  Mae hyn yn gwbwl groes i’r neges sydd yn cyrraedd yr awdurdod, ac yn arwain at ddryswch sylweddol.  Mae’r pwynt wedi ei wneud gan nifer o bobl wrth ymateb i gynllun sirol Gwynedd – mae ESTYN yn adrodd fod ysgolion bach yn rhoi gwerth am arian felly pam fod y Cyngor o’r farn bod angen rhesymoli’r nifer ysgolion?  Mae angen eglurdeb yn y maes..

6.  Cloi

Sylwadau cychwynnol sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn.  Mae tystiolaeth sylweddol wedi’i gasglu gan y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf wrth ystyried trefniadaeth ysgolion cynradd y sir.  Mae llawer o’r dystiolaeth yma ynghyd a nifer o adroddiadau perthnasol a gynhyrchwyd ar wefan y Cyngor ar www.gwynedd.gov.uk <http://www.gwynedd.gov.uk>

Byddwn yn falch iawn i gyflwyno tystiolaeth ychwanegol petai’r Pwyllgor yn dymuno hynny

Cyflwynwyd y dystiolaeth uchod yn enw:
Y Cyng. Liz Saville Roberts (Deilydd Portffolio Ysgolion)
Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr Strategol Datblygu)

Yn yr adran hon

Partneriaid a Help