Ymgynghoriad Cyhoeddus – TB yng Nghymru
Mae’r Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig yn cynnal ymchwiliad i TB yng Nghymru. Bydd yr Is-Bwyllgor yn canolbwyntio'n arbennig ar y camau i weithredu argymhellion yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad yn 2004 ac adroddiad y Grwp Gwyddonol Annibynnol ar TB mewn Gwartheg a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2007.
Mae’r Is-Bwyllgor yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig ac am gael sylwadau’r rheiny sydd â diddordeb yn y canlynol:
- Adroddiad y Grwp Gwyddonol Annibynnol;
- Y camau i weithredu argymhellion Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.
I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gyfrannu, clicciwch yma.