Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd

Cofnodion (SC(3)-21-08)

Dyddiad: 23 Hydref 2008
Amser: 9.00am – 11.15am
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd

Aelodau’r Cynulliad yn bresennol

Mick Bates (Cadeirydd), Sir Drefaldwyn

Lorraine Barrett, De Caerdydd a Phenarth

Alun Davies, Canolbarth a Gorllewin Cymru

Lesley Griffiths, Wrecsam

Darren Millar, Gorllewin Clwyd

Rhodri Glyn Thomas, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Leanne Wood, Canol De Cymru

Gwasanaeth y pwyllgorau

Virginia Hawkins, Clerc

Meriel Singleton, Dirprwy glerc

Eraill yn bresennol
William Baker, Llais Defnyddwyr Cymru

Lindsey Kearton, Llais Defnyddwyr Cymru

Zoe Keeton, RWE NPower

Richard Westoby, Scottish and Southern

Philip Arend, Nwy Prydain

Graham Kirby, E.ON

Ann Loughrey, Scottish Power

Valentine Mulholland, EDF

Eitem 1: Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Brynle Williams a Karen Sinclair.

Eitem 2 : Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar gynigion cyllidebol
SC(3)-21-08 (p1)

2.1Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar y gyllideb ddrafft.

2.2Cytunodd y pwyllgor ar yr adroddiad.

Eitem 3: Trafod adroddiad drafft yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig ar gynigion cyllidebol
SC(3)-21-08 (p2)

3.1Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad yr Is-bwllgor Datblygu Gwledig ar y gyllideb ddrafft.

3.2Cytunodd y pwyllgor i ddiwygio’r adroddiad i gynnwys pryderon ynghylch effaith ailstrwythuro arian ar gyfer y cynllun ffermio organig ar Tir Gofal a Tir Cynnal. Cytunodd y pwyllgor ar yr adroddiad hwn ar yr amod ei fod yn cael ei ddiwygio yn unol â’r pwynt uchod.

Eitem 4: Sesiwn dystiolaeth ar dlodi tanwydd
SC(3)-21-08 (p3)

4.1Croesawodd y Cadeirydd William Baker a Lindsey Kearton o Llais Defnyddwyr Cymru i’r cyfarfod gan eu gwahodd i roi sylwadau agoriadol ar dlodi tanwydd. Holodd yr Aelodau’r tystion.

Eitem 5: Sesiwn dystiolaeth ar dlodi tanwydd
SC(3)-21-08 (p4) (p5) (p6) (p7) (p8) (p9)

5.1Croesawodd y Cadeirydd Zoe Keeton, RWE NPower; Richard Westoby, Scottish and Southern; Philip Arend, Nwy Prydain; Graham Kirby, E.ON; Ann Loughrey, Scottish Power; a Valentine Mulholland, EDF i’r cyfarfod gan eu gwahodd i roi sylwadau agoriadol ar dlodi tanwydd. Holodd yr Aelodau’r tystion.

5.2Cytunodd Ann Loughrey i roi rhagor o dystiolaeth ysgrifenedig ar y dull a ddefnyddir gan Scottish Power i bennu ei brisiau ac i roi rhestr o’r sefydliadau di-elw y mae Scottish Power yn gweithio gyda hwy drwy’r Energy People Trust.

5.3Cytunodd Philip Arend i esbonio’r rheswm pam bod mesurau tlodi tanwydd Nwy Prydain yng Nghymru a restrir yn ei bapur yn cynnwys grant ar gyfer canolfan cyngor ar ddyledion Bryste.

5.4Cytunodd yr holl gwmnïau i ddarparu gwybodaeth am faint a gaiff ei wario ganddynt ar dlodi tanwydd yng Nghymru, gan gynnwys rhagor o fanylion ar eu strwythurau prisio.