Draft Marine Bill Report
1. Cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Mesur Morol Drafft ar 3 Ebrill 2008 ac mae’n destun ymgynghoriad cyhoeddus hyd 26 Mehefin 2008. Diben y Mesur Drafft yw symleiddio a chryfhau rheolaeth strategol yr amgylchedd morol trwy alluogi i effeithiau ac amcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gael eu hystyried ochr yn ochr.
2. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n briodol gwahodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai i sesiwn gyflwyno tystiolaeth ar y Mesur Morol Drafft er mwyn galluogi i Aelodau geisio cael esboniad ar y goblygiadau ar gyfer Cymru. Gwahoddwyd yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd hefyd i fynychu’r Pwyllgor ond methodd â bod yn bresennol. Er mwyn ateb terfynau amser o ran craffu ar y Mesur Drafft yn San Steffan, cyfyngwyd ystyriaeth y Pwyllgor o’r Mesur i un sesiwn dystiolaeth, a gynhaliwyd ddydd Mercher, 4 Mehefin 2008.
3. Dechreuodd y Gweinidog ar ei sesiwn dystiolaeth drwy esbonio ei bod hi a’i swyddogion wedi’u cynnwys yn gyson wrth ddrafftio’r Mesur Drafft a’i bod hi yn gyffredinol fodlon gyda’r cynnydd gyda phob rhan ohono. Nododd y Gweinidog hefyd yn ei phapur ei bod hi’n disgwyl gwelliannau pellach i’r mesur a gyhoeddir yn derfynol, o ganlyniad i gynnwys cymalau nad oedd yn barod i gael eu cynnwys yn y Mesur Drafft.
4. Wrth dderbyn y dystiolaeth gan y Gweinidog, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad a manylion pellach ar y materion canlynol:
5. Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r modd mae’r Mesur Drafft wedi’i ddatblygu gan ymgynghori’n gyson â Llywodraeth Cynulliad Cymru a bod rolau a phwerau penodol wedi’u rhoi i Lywodraeth y Cynulliad yn y Mesur Drafft. Yr ydym yn cynnig yr argymhellion canlynol gan gredu y byddant yn cryfhau ymhellach ac yn egluro cyfrifoldebau Llywodraeth y Cynulliad yn y Mesur Drafft.
6. Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r gydnabyddiaeth yn y Mesur Drafft am yr angen i Gymru sefydlu ei gweithdrefnau a’i pheirianweithiau ei hun ar gyfer rheolaeth morol mewn meysydd datganoledig. Yr ydym fodd bynnag yn bryderus, fod hyn yn amlygu nifer o faterion sy’n creu ansicrwydd yn nhermau gweithredu a dryswch posibl dros gyfrifoldebau yn y pen draw. Felly fe wnawn yr argymhellion canlynol gyda golwg ar wneud yn eglur feysydd yn y Mesur Drafft a ddylai gael eu dwyn ymlaen ar fyrder gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a llywodraeth y DU ar y cyd.
Argymhelliad 1: Bod dulliau ffurfiol a gytunwyd o weithredu, a chyfrifoldeb yn cael eu cyhoeddi, naill ai ar wyneb y Mesur neu mewn canllawiau statudol, ar gyfer y porthladdoedd a’r darnau o dir hynny lle mae cyfrifoldeb ar y cyd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Sefydliad Rheolaeth Morol (MMO) e.e. Harbwr Aberdaugleddau.
Argymhelliad 2: Bod dulliau ffurfiol a gytunwyd o weithredu, a chyfrifoldeb yn cael eu cyhoeddi, naill ai ar wyneb y Mesur neu mewn canllawiau statudol, ar gyflawni swyddogaethau ar ran y Sefydliad Rheolaeth Morol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Argymhelliad 4: Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi canllawiau statudol gyda’r Mesur ar y berthynas rhwng y Datganiad Polisi Morol, Cynlluniau Morol, Cynllun Gofodol Cymru, a pholisïau a chynlluniau eraill yng Nghymru i wneud yn siwr bod materion traethlin yn cael eu hintegreiddio’n llawn i’r broses gynllunio yng Nghymru.
7. Yr oeddem yn bryderus am rôl Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y weithdrefn apeliadau. Yn Lloegr y Sefydliad Rheolaeth Morol fydd yr awdurdod trwyddedu, a Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddarpariaethau yn y Mesur Drafft ar gyfer y weithdrefn apeliadau. Dywed y datganiad polisi sy’n mynd gyda’r Mesur Drafft fod:
"The changes that we propose also introduce the ability for Ministers to establish a new appeals mechanism. We recognise that the process set out in FEPA (Fisheries and Environmental Protection Act) does not meet modern expectations of transparency and accountability. We therefore intend to set up an independent appeals mechanism that will work to a clearly defined and transparent process.”
Ein pryder yw, os daw’r Gweinidog yng Nghymru yn ganolwr terfynol mewn apeliadau, y bydd problemau’n ymwneud â thryloywder ac atebolrwydd yn y broses apeliadau.
Mae’r Pwyllgor yn llwyr gefnogi’r Gweinidog yn sefydlu mynediad i’r arfordir yng Nghymru ar sail gwirfoddol. Ystyriwn, fodd bynnag, fel y mae’r Gweinidog ei hunan wedi nodi, gan y bydd angen offeryn statudol i gyflawni’n llwyr amcanion polisi mynediad i’r arfordir Llywodraeth Cynulliad Cymru, y bydd yn ymddangos bod y Mesur yn gyfrwng priodol i’r llywodraeth gael y pwerau angenrheidiol.
8. Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r cynigion i gynhyrchu Datganiad Polisi Morol ar y cyd. Fe hoffem bwysleisio pwysigrwydd cymryd rhan lawn gan y cyfan o’r tri gweinyddiaeth ac archwilio’n drylwyr unrhyw feysydd ble mae anghydfod o fewn y Polisi.
9. Croesawn y Mesur Drafft hwn a’i ddarpariaethau ar gyfer Cymru a sylweddolwn ei fod yn un o gyfres o ymgynghoriadau sydd wedi’u cyhoeddi ar gynllunio a pholisi ar gyfer yr amgylchedd morol. Gobeithiwn y bydd y Mesur llawn yn cael ei gynnwys yn Araith y Frenhines 2008 ac y gall y broses o gynhyrchu Deddf Forol gychwyn cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl hynny.
Mike
German AC,
Cadeirydd Dros Dro, Y Pwyllgor Cynaliadwyedd
Mehefin 2008