1. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn diffinio cartref fel un sydd mewn tlodi tanwydd os, er mwyn cynnal trefn gynhesu foddhaol yn y tŷ, y byddai’n ofynnol gwario mwy na 10 y cant o’i incwm (gan gynnwys budd-daliadau) ar holl ddefnydd tanwydd y cartref hwnnw. Yn ôl adroddiad Llywodraeth y Cynulliad 'Ymrwymiad Tlodi Tanwydd’, a gyhoeddwyd yn 2003, "cost tanwydd yw un o’r tri phrif ffactor sy’n dylanwadu ar dlodi tanwydd yng Nghymru (y rhai eraill yw incwm ac arbed ynni yn y cartref)”.
2. Fel rhan o’i ymchwiliad i ostwng carbon yng Nghymru, clywodd y Pwyllgor Cynaliadwyedd dystiolaeth gan 'Golwg ar Ynni’ Cymru oedd yn awgrymu bod oddeutu 20 y cant o gartrefi Cymru gyfan yn dioddef tlodi tanwydd a bod cwsmeriaid yng Nghymru yn talu mwy na’r pris cyfartalog ym Mhrydain Fawr am eu trydan. Mae’r Pwyllgor wedi monitor datblygiadau yn hyn o beth, gan fwriadu edrych ar y materion hyn eto pan oedd amser yn caniatáu.
3. Ym mis Mawrth 2008, cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn dystiolaeth ar dlodi tanwydd yng Nghymru yn ei gyfarfod nesaf ar 10 Ebrill. Gwahoddodd y Pwyllgor Golwg ar Ynni Cymru i gyflwyno ei ddarganfyddiadau diweddaraf ar brisio ynni yng Nghymru a gofyn i’r chwe chwmni cyflenwi ynni mwyaf i roi tystiolaeth ar natur ac effeithiolrwydd eu polisïau a phrosiectau a oedd wedi’u hanelu at drechu tlodi tanwydd yng Nghymru. Daeth Golwg ar Ynni Cymru, Nwy Prydain, Scottish Power, Scottish and Southern Energy, e-on UK a RWE n-power i’r sesiwn dystiolaeth. Nid oedd EDF Energy yn gallu mynychu ond darparwyd adroddiad ysgrifenedig ganddynt.
4. Ar 4 Mehefin 2008, bu’r Pwyllgor yn craffu ar y dystiolaeth yr oedd Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai wedi’i chasglu ar dlodi tanwydd yng Nghymru. Gyda’r Gweinidog yr oedd Claire Bennett, y Pennaeth Newid Hinsawdd a Dyraniad Dŵr a Julia Williams, y Pennaeth Effeithlonrwydd Ynni ac Adeiladau Cynaliadwy.
5. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r materion a godwyd yn ystod pob sesiwn dystiolaeth ac mae’n cyflwyno nifer o argymhellion i’w hystyried o fewn cyd-destun ymchwiliad Ofgem i’r marchnadoedd trydan a nwy ar gyfer cartrefi a busnesau bychain. Mae Ofgem wedi cadarnhau ei fod yn fodlon ystyried cyflwyniad hwyr gan y Pwyllgor, er mwyn rhoi amser i fwy o ystyriaeth gael ei roi o’r safbwynt Cymreig.
6. Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 10 Ebrill, agorodd Wendy Davies, Cyfarwyddwr Golwg ar Ynni Cymru, ei sesiwn dystiolaeth drwy gyflwyno rhai o’r darganfyddiadau diweddaraf sy’n deillio o ymchwil a gomisiynwyd ar y strwythur prisio ynni yng Nghymru. Mae pwyntiau a godwyd gan Golwg ar Ynni Cymru yn ystod y sesiwn dystiolaeth wedi’u crynhoi isod:
7. Yn yr ail sesiwn dystiolaeth ar 10 Ebrill, darparodd y pum cwmni ynni fanylion am eu polisïau a’u prosiectau oedd wedi’u hanelu at fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.
Isod gwelir crynodeb o’r materion a godwyd gan y cwmnïau ynni yn ystod y sesiwn dystiolaeth:
8. Mae’r chwe chwmni ynni 'mawr’ ers hynny wedi cytuno i dreblu’n wirfoddol eu gwariant blynyddol cyfunol ar 'gymorth cymdeithasol’ i £150 miliwn erbyn 2011(1).
9. Yn y sesiwn dystiolaeth ar 4 Mehefin, rhoddodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y pedair thema a gytunwyd arnynt yn yr Uwchgynhadledd Tanwydd ar 23 Ebrill 2008, a fynychwyd gan Weinidogion y llywodraeth o’r gweinyddiaethau datganoledig, y sector gwirfoddol, Golwg ar Ynni Cymru, a’r cwmnïau ynni:
10. Hefyd wedi’u crynhoi isod mae’r materion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth:
11. Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru a’r pedair thema sy’n deillio o’r Uwchgynhadledd Tlodi Tanwydd ym mis Ebrill. Wrth wneud hynny, mae’r Pwyllgor yn cynnig nifer o argymhellion sy’n ceisio cydategu gweithredoedd y llywodraeth, Ofgem, a chyflenwyr ynni yn yr ardal hon.
Yr oedd y Pwyllgor yn bryderus iawn fod oddeutu 22 y cant o gartrefi yng Nghymru mewn tlodi tanwydd ac yr ystyrid fod 40 y cant o gartrefi oedd yn defnyddio trydan fel eu prif danwydd yn dioddef 'tlodi tanwydd’. Wrth groesawu’r cyhoeddiad y byddai’r chwe chwmni ynni 'mawr’ yn treblu’n wirfoddol eu gwariant blynyddol cyfun ar 'gymorth cymdeithasol’ i £150 miliwn erbyn 2011, yr oedd y Pwyllgor yn bryderus iawn y gallai hyn gael ychydig iawn o effaith os oedd cwmnïau ynni yn parhau i wthio prisiau’n uwch o symiau annerbyniol o fawr.
Mynegodd y Pwyllgor bryder ei bod yn ymddangos fod cwsmeriaid yng Nghymru yn talu hyd at 10 y cant yn fwy na’r pris cyfartalog ym Mhrydain Fawr am eu trydan. Yr oedd tystiolaeth hefyd oedd yn awgrymu fod cartrefi yn Ne Cymru yn talu £20 y flwyddyn yn fwy na’r prisiau grid, ac yng Ngogledd Cymru £4 yn fwy. Sylweddola’r Pwyllgor y gall gwahaniaethau cymhleth o ran costau trawsyriant a dosbarthu ar draws Prydain Fawr fod yn un o’r rhesymau am yr anghysondeb hwn, ond mae’n bryderus ei bod yn ymddangos bod defnyddwyr yng Nghymru yn talu cost pellach nad yw’n cael ei esbonio gan gostau uwch cyflenwi. Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gynnal trafodaethau gyda gwerthwyr ynni ar y prisiau gwahaniaethol yng Nghymru a byddai’n croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ganlyniadau trafodaethau o’r fath. Mae’r Pwyllgor yn deall bod gan Ofgem rôl i osod taliadau dosbarthu a thrawsyrru ac ar hyn o bryd mae’n ymgynghori ar yr Adolygiad Rheoli Prisiau Dosbarthu am y cyfnod 2010-2015.
Cefnoga’r Pwyllgor awgrym y cwmnïau ynni gyda golwg ar yr angen am ymchwil pellach ar y mater hwn ac mae’n argymell fod corff annibynnol yn cynnal ymchwiliad llawn i brisiau dosbarthu a thrawsyrru er mwyn penderfynu a oes gan y Deyrnas Unedig gyfan strwythur prisio teg.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am bwysigrwydd mesuryddion 'call’ i symleiddio prosesau bilio a galluogi cwsmeriaid i ostwng y defnydd o ynni yn eu cartrefi. Mae’r Pwyllgor yn rhannu siom tystion nad oedd y Mesur Ynni’r DU yn cynnwys darpariaethau ehangu mesuryddion call yn gyffredinol trwy’r wlad. Tra bod gwelliannau i’r Mesur yn darparu pwerau galluogi i fandad mesuryddion call cyffredinol gael ei ddwyn ymlaen yn ddiweddarach a nodi’r angen am ymgynghori cyn i’r pwerau hyn ddod yn ddeddf, mae’r Pwyllgor yn bryderus nad oes gwarant o hyd y bydd mesuryddion call byth yn cael eu cyflwyno.
Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, yr oedd y cwmniau ynni’n pwysleisio’n barhaus yr angen am rannu data gydag adrannau’r llywodraeth, i’w galluogi i adnabod a thargedu’u cwsmeriaid bregus. Mae’r Pwyllgor yn deall bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi comisiynu ymchwil ar wardiau etholiadol penodol sy’n dioddef tlodi, a fydd ar gael yn yr haf. Mae’r Pwyllgor hefyd yn deall bod llywodraeth y DU yn bwriadu ystyried deddfwriaeth i sicrhau y gellir rhannu data cwsmeriaid yn fwy effeithiol "i ddarparu cymorth wedi’i dargedu i ostwng costau tanwydd ar gyfer pensiynwyr tlawd sy’n fwyaf tebygol o fod mewn tlodi tanwydd”.
Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth bod cwsmeriaid yng Nghymru yn llai tebygol o newid cyflenwr ynni ac felly eu bod yn aml yn methu cyfleoedd posibl i wneud arbedion ar brisiau ynni. Yr oedd tariffau cyflenwyr ynni yn ymddangos yn gymhleth a bron yn amhosibl eu cymharu â’u cystadleuwyr, gan felly wneud y broses o newid cyflenwr yn fwy cymhleth byth i’r cwsmer.
Yr oedd y Pwyllgor yn synnu o glywed fod rhai cyflenwyr ynni yn cynnig tariffau cymdeithasol - oedd wedi’u cynllunio i helpu rhai mewn tlodi - ar gyfradd uwch na’u tariffau isaf sydd ar gael.
Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, trafododd y Gweinidog ei phenderfyniad i wrthod argymhelliad o fewn adroddiad gostwng carbon yn y cartref y Pwyllgor, oedd yn annog Llywodraeth y Cynulliad i ariannu rhaglen i ôl-osod pob cartref presennol sy’n anodd ei gynhesu. Nododd y Gweinidog "byddem wedi derbyn y cynnig pe byddai wedi canolbwyntio ar y rhai sy’n dlawd o ran tanwydd oherwydd credwn fod angen i gartrefi’r bobl hynny mewn tlodi tanwydd gael eu hôl-osod”. Tra mae’r Pwyllgor yn deyrngar i’w argymhelliad gwreiddiol, mae’n credu y gall gwneud gwelliannau i effeithlonrwydd tai o ran ynni chwarae rhan bwysig i atal tlodi tanwydd yn y tymor hirach ac mae’n awgrymu y byddai cartrefi sy’n dioddef tlodi tanwydd yn fan cychwyn priodol i’r broses.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth bod dyfodol y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref yn ansicr yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ffrwyno gwariant. Yr oedd hefyd bryderon, er gwaethaf mwy o achosion o dlodi tanwydd yng Ngogledd Cymru, fod y mwyafrif o wariant Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref yn ymddangos i fod wedi’i ganoli ar dde’r wlad. Croesawodd y Pwyllgor ymrwymiad y Gweinidog i ystyried rheoliadau newydd a fyddai’n galluogi hyblygrwydd deddfwriaethol Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref, fel rhan o’r ymgynghoriad ar y cynllun effeithlonrwydd ynni ac arbedion cenedlaethol.
Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor bod adolygiad o’r "ystod lawn o bolisïau a rhaglenni a all gyfrannu at wella effeithlonrwydd ynni” yn cael ei gynnal. Yn ogystal â’r adolygiad o’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref, yr oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i yrru gwelliant trwy raglenni adfywio, megis y rhaglen Blaenau’r Cymoedd a Chymunedau Nesaf. Yr oedd y Pwyllgor yn bryderus na fyddai pwyslais ar y rhaglenni hyn yn dwyn budd i nifer helaeth o gartrefi sydd mewn tlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig. Yr oedd y Pwyllgor yn bryderus hefyd, ar hyn o bryd, nad oedd y rhaglen Effeithlonrwydd Ynni Cartref yn cael ei dargedu i ganolbarth a gogledd Cymru, ble y mae ei angen fwyaf. Felly mae’r Pwyllgor yn argymell, wrth adolygu’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref a rhaglenni eraill a anelwyd at wella effeithlonrwydd ynni, y dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau bod y rhaglenni hyn yn y dyfodol wedi’u targedu at y rhannau hynny o Gymru lle mae’r rhan fwyaf o gartrefi mewn tlodi tanwydd.
12. Yr oedd y Pwyllgor yn bryderus o glywed fod cwsmeriaid oedd ar fesuryddion rhagdaliad a all fod yn dlawd yn aml yn talu mwy na chwsmeriaid oedd yn talu drwy ddull debyd uniongyrchol er enghraifft. Yr oedd tystiolaeth a gyflwynwyd i’r uwchgynhadledd tlodi tanwydd yn dangos bod y gwahaniaeth ar gyfartaledd rhwng mesuryddion rhagdaliad a thalu trwy ddebydau uniongyrchol wedi cynyddu o oddeutu £80 yn 2005 i £125 yn 2008. Mae’r Pwyllgor felly’n croesawu ymrwymiad Ofgem i ymchwilio a oes angen gweithredu pellach i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau mwyaf.
13. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod y boblogaeth oedrannus yn debyg o fod o dan anfantais gyda golwg ar ddefnyddio’r rhyngrwyd i chwilio am y cynigion gorau ar newid cyflenwyr. Felly mae’r Pwyllgor yn croesawu’r ymrwymiad yn y rhaglen weithredu ar dlodi tanwydd gan ddarparwr safle newid cyflenwr amlwg i hyrwyddo ei wasanaeth cyngor dros y ffôn i helpu cwsmeriaid nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd i siopa am well tariff ynni. Mae hefyd yn cefnogi lansio ymgyrch ranbarthol yn y wasg gan Ofgem i dynnu sylw at arbedion y gall cwsmeriaid eu gwneud wrth newid eu cyflenwyr.
14. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth oedd yn awgrymu bod gan sefydliadau gwirfoddol, megis Cyngor ar Bopeth rôl bwysig i’w chwarae fel cyfryngwyr cadarn i godi ymwybyddiaeth a sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau sy’n ddyledus iddynt. Felly mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad cyflenwyr, a welwyd yn y rhaglen weithredu ar dlodi tanwydd, i ystyried sut orau y gallant weithio gydag asiantaethau cynghori ar wella hyfforddiant a gwybodaeth cynghorwyr ar y cymorth sydd ar gael i gwsmeriaid sy’n wynebu dyledion oherwydd talu am ynni a thlodi tanwydd.
Mike German AC
Cadeirydd, Pwyllgor Cynaliadwyedd
Mehefin 2008
(1) Dilynodd y cytundeb hwn gyhoeddiad y Canghellor yn y Gyllideb y byddai’n sicrhau fod cynnydd yn y swm mae cyflenwyr ynni’n ei wario ar eu rhaglenni cymdeithasol.