SC(3) CR-I&PB13
Ydy’r targed i ostwng o 3 y cant yn flynyddol erbyn 2011 'mewn ardaloedd o allu datganoledig’ yn ddigonol i alluogi Cymru i gyfrannu’n llawn at gyflawni targedau ledled y DU? Os na, pa dargedau dylid ei sefydlu?
Mae’r Targed i ostwng o 3% yn flynyddol erbyn 2011 mewn ardaloedd o allu datganoledig yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy. Drwy gydweithio mewn dull cydweithredol, gall sefydliadau ar draws Cymru helpu i gyflawni arbedion mawr.
Gellid cyflawni’r targed drwy weithredu arfer gorau effeithiolrwydd ynni, datblygu technolegau carbon isel a defnyddio ffynonellau ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy fydd yn symud Cymru tuag at economi carbon isel.
A ddylai’r targed gostwng allyriadau fod wedi’i seilio ar y treuliant neu ar y cynhyrchiant yng Nghymru neu’r ddau (h.y. a ddylai ystyried y carbon deuocsid sy’n cael ei greu yng Nghymru (cynhyrchiant) neu’r allyriadau carbon deuocsid y mae trigolion Cymru’n gyfrifol amdanynt, heb ystyried ei ffynhonnell (treuliant)?
Mae’n rhaid i unrhyw darged a osodir ddelio â’r maes y mae gan Gymru ddylanwad drosto. Rhaid i ni edrych ar y sefyllfa bresennol ac yna gosod mesurau realistig i gyflawni ein golau.
Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi cynnal Astudiaeth Ynni ac Allyriadau Carbon dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae’r astudiaeth hon yn ystyried allyriadau o bersbectif defnyddwyr. Drwy’r ymagwedd hwn, mae’n bosibl brasamcanu allyriadau carbon deuocsid sy’n esgor o’r defnydd o ynni adeg treuliant. Mae diwydiant yng Nghymru’n fawr ac mae gennym dros ddwywaith allyriadau carbon per capita y DU. Yng Nghymru mae ychydig dros 6 y cant o boblogaeth y DU ond mae ein hallyriadau carbon diwydiannol dros 12 y cant y DU. Mae hyn oherwydd ein diwydiannau ynni uchel dwys a etifeddwyd. Mae gennym ddiwydiannau alwminiwm, dur, glo, bwyd, diod, papur, sment, gwydr a chemegau ynghyd ag 17.5 y cant o waith puro olew'r DU yn Sir Benfro.
Mae tystiolaeth o wefan Llywodraeth y Cynulliad yn awgrymu bod y trosiant o ddiwydiannau ynni dwys mawr fel dur a haearn wedi cynyddu ers 2003-04. Roedd ein hastudiaeth o ynni ac allyriadau carbon yng Nghymru’n rhoi’r un darlun.
Rydym yn edrych ar allyriadau carbon y mae Cymru’n benodol yn gyfrifol amdanynt fel ffynhonnell pwynt treuliant ynni. Felly, rydym yn ystyried yr holl allyriadau amaethyddol, cludiant, domestig, sector cyhoeddus a diwydiannol o fewn Cymru. Lluniwyd y fformat hwnnw ar y cyd gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a theimlwn ei bod yn deg gwneud hynny - i ddarparu gwybodaeth ar bob sector fel ei bod o fudd i’r holl sefydliadau o fewn Cymru ac er mwyn iddo ein helpu i symud ymlaen, i weithio gyda’n gilydd mewn dull strwythurol i ostwng allyriadau carbon.
Pa heriau arbennig mae Cymru’n eu hwynebu wrth ostwng allyriadau carbon deuocsid o ddiwydiant a chyrff cyhoeddus a sut gellir goresgyn yr heriau hyn?
Ateb
Mae diwydiant yng Nghymru’n fawr ac mae gennym dros ddwywaith allyriadau carbon per capita y DU. Yng Nghymru mae ychydig dros 6 y cant o boblogaeth y DU ond mae ein hallyriadau carbon diwydiannol dros 12 y cant y DU. Mae hyn oherwydd ein diwydiannau ynni uchel dwys a etifeddwyd. Mae gennym ddiwydiannau alwminiwm, dur, glo, bwyd, diod, papur, sment, gwydr a chemegau ynghyd ag 17.5 y cant o waith puro olew'r DU yn Sir Benfro.
Mae ein 22 awdurdod lleol hefyd yn amrywio o rai metropolitan i rai gwledig.
Drwy weithio gyda’n gilydd mewn ymagwedd cydweithredol gallwn wneud llawer yn y maes newid hinsawdd.
Gwneir y cynnydd mwyaf dim ond pan fydd unrhyw sefydliad yn prynu i mewn ar y lefel uchaf fel y gellir datblygu newid drwy’r cwmni’n gyfan gwbl.
Mae angen cymorth parhaus i sicrhau bod y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau o fewn sefydliadau’n cael y wybodaeth gywir am yr amrediad cyflawn o gynnyrch sydd ar gael o fewn Cymru, fel asesu ôl-troed Carbon, rheoli carbon ac effeithiolrwydd ynni. Nid i helpu i ganfod cyfleoedd a gosod targedau yn unig mae hyn ond hefyd mae’n helpu i gynorthwyo gyda gweithredu mesurau llwyddiannus i ostwng allyriadau.
Hefyd, mae cymorth ym maes datblygu technoleg yn hynod bwysig i gynorthwyo yn y symudiad tuag at yr economi carbon isel. Er bod camau breision wedi’u cymryd yn y maes effeithiolrwydd, ni ddylai Cymru gael ei gadael ar ôl ym maes datblygu technolegau carbon isel drwy ddiffyg buddsoddi.
Ydy polisïau datblygu economaidd Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi digon o bwyslais ar ostwng carbon?
Llywodraeth Cynulliad Cymru oedd un, os nad y llywodraeth gyntaf i gynnwys cynaladwyedd o fewn ei holl feysydd dylanwad. Yn y ddogfen Cymru’n Un y cytunwyd arni gan y llywodraeth glymblaid, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio cyflawni gostyngiadau carbon o 3% y flwyddyn erbyn 2011 mewn maes o allu datganoledig. Mae polisïau datblygiad economaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn targedu i hyrwyddo’r nod hwn wrth ddelio ag anghenion cymdeithasol ac economaidd eraill Cymru.
I ba raddau mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi llwyddo i ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi er mwyn gostwng allyriadau carbon deuocsid o ddiwydiant a chyrff cyhoeddus?
Llwyddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i godi ymwybyddiaeth ym mhob sector o fusnes, y sector cyhoeddus a’r sectorau domestig drwy nodi cyrff cyflenwi.
Cafwyd llwyddiant wrth weithredu mesurau gwir archwiliadwy gostwng allyriadau’n gyson fel y dangoswyd yn atodiad 1.
A allai targedu adnoddau ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru’n wahanol arwain at ostwng allyriadau o ddiwydiant a chyrff cyhoeddus yn fwy nag sy’n digwydd ar hyn o bryd? Os felly, lle allai adnoddau ychwanegol arwain at yr effaith mwyaf? (A fyddech chi cystal â rhoi manylion i gefnogi eich tystiolaeth).
Mae gweithgarwch Atebion yr Ymddiriedolaeth Garbon yn sicrhau gostyngiadau ymarferol mewn allyriadau carbon ac arbedion costau i fusnesau Cymru a’r sector cyhoeddus. Yn 2006/7, o ganlyniad i’n cymorth, gostyngwyd allyriadau yng Nghymru o 126 mil tunnell fetrig o CO2. Mae hyn yn cyfateb i arbedion costau i fusnesau a sefydliadau’r sector cyhoeddus rydyn ni wedi gweithio gyda hwy o £14m i £22m y flwyddyn. Adolygwyd ein harbedion gan KPMG a chawsom sicrwydd o’r canlyniadau a gofnodwyd ar gyfer 2006/7. Rydym yn parhau i ddatblygu ein gweithgareddau yn y maes hwn a byddwn yn aros mewn cysylltiad agos gyda eich swyddogion am ddatblygiadau yn ein cynigion i fusnesau bach a chanolig a chynllun achredu fydd yn cydnabod gwaith cwmnïau a chyrff cyhoeddus i ostwng eu hallyriadau carbon.
Mae datblygu technolegau carbon isel newydd yn faes hanfodol i ddatblygiad economaidd ac amcanion lleddfu newid hinsawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Yn ddiweddar, cadarnhaodd yr NAO bod ein gweithgareddau yn y maes hwn yn cynnig cefnogaeth gost-effeithiol a bod ein hysgogiadau ymchwil a thechnoleg wedi’u cynllunio’n arbennig o dda i oresgyn rhwystrau. Mae ein gweithgareddau yn y maes hwn yn cyflenwi cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ei hun ac yn gwneud cyfraniad materol i’ch amcanion. Mae enghreifftiau diweddar o’r gwaith hwn sy’n cynnig buddion sylweddol i Gymru’n cynnwys:
Wrth i ymwybyddiaeth o oblygiadau newid hinsawdd fel mater busnes gynyddu a chwmnïau preifat a sefydliadau’r sector cyhoeddus gofleidio’n gynyddol dechnolegau gostwng allyriadau sydd ar gael yn fasnachol, mae angen mwy o gymorth i weithredu mesurau sydd ar gael ar hyn o bryd i ddefnyddio technoleg heddiw ynghyd â buddsoddi yn natblygiad technolegau carbon isel yfory.
Pa enghreifftiau o weinyddiaethau eraill (datganoledig, DU a thramor) lle mae dulliau eraill wedi’u defnyddio i sicrhau gostyngiadau mewn allyriadau carbon deuocsid o ddiwydiant a chyrff cyhoeddus, y gellid eu mabwysiadu yng Nghymru o dan y pwerau presennol?
Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon yn gwmni preifat a sefydlwyd gan y llywodraeth mewn ymateb i’r bygythiad o newid hinsawdd, i gyflymu’r symudiad at economi carbon isel drwy ddatblygu technolegau carbon isel masnachol a helpu sefydliadau i ostwng eu hallyriadau carbon. Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon yn gweithio gyda busnes a sector cyhoeddus y DU drwy ei gwaith mewn pum maes cyflenwol: mewnwelediadau, atebion, newyddbethau, mentrau a buddsoddiadau. Gyda’i gilydd mae’r rhain yn helpu i egluro, cyflenwi, datblygu, creu ac ariannu mentrau carbon isel.
Ariennir yr Ymddiriedolaeth Garbon gan yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), yr Adran Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR), Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Invest Gogledd Iwerddon.
I gael mwy o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth Garbon, ewch i www.carbontrust.co.uk <http://www.carbontrust.co.uk/> neu ffoniwch Linell Gyngor yr Ymddiriedolaeth Garbon ar 0800 085 2005.
Yng nghyd-destun Deddf Llywodraeth Cymru 2006, pa ddulliau o ostwng allyriadau carbon deuocsid o ddiwydiant a chyrff cyhoeddus y gellid eu cyflawni dim ond wrth gyflwyno deddfwriaeth bellach ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru?
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio cyflawni gostyngiadau carbon blynyddol o 3% y flwyddyn erbyn 2011 mewn meysydd o allu datganoledig.
Un elfen o’r nod hwn yw bod yr holl adeiladau newydd y mae gan Lywodraeth Cymru ddylanwad drostyn nhw, â sero carbon erbyn 2011. Byddai’n fuddiol petai meysydd gallu datganoledig sy’n angenrheidiol i gyflawni hyn, yn gwneud hynny.
Os ydy targedau allyriadau carbon deuocsid penodol i’w gosod yng Nghymru, a ddylai’r targedau hynny gael eu hisadrannu yn gyfrannau fesul sector? Os felly pa gyfran o’r cyfanswm ddylai gostyngiadau gan ddiwydiant a chyrff cyhoeddus gynnwys?
Cyn gosod unrhyw dargedau penodol, rhaid cael gwerthusiad clir o’r sefyllfa bresennol a llunio gwaelodlin derfynol. Bydd yn rhaid ystyried golau datblygiad economaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn unrhyw werthusiad yn y dyfodol er mwyn sicrhau gwerthusiad cywir o allyriadau i bob uned dwf ym mhob sector. Mae nifer o’n diwydiannau mwy yn gweithredu mewn marchnad fyd-eang a bydd y lefelau cynhyrchiant yn amrywio yn ôl y galw byd-eang. Rhaid ymgorffori’r holl ffactorau hyn cyn gosod unrhyw dargedau manwl.
Sut bydd yr Ymrwymiad Gostwng Carbon yn effeithio ar eich busnes? A ddylid diwygio’r Ymrwymiad arfaethedig mewn unrhyw fodd?
Yn effeithlon, mae’r cynllun hwn yn cadarnhau’r cymhelliant i wella effeithiolrwydd ynni a sgiliau rheoli carbon, yn arbennig o safbwynt metru a chofnodi. Bydd hefyd yn gymorth i ganolbwyntio sylw uwch reolwyr ar y materion. Bydd y cynllun yn cadarnhau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) cwmniau i ostwng allyriadau carbon a gwella eglurder perfformiad cwmniau.