Amcangyfrifir bod oddeutu 25% o’n hallyriadau carbon deuocsid yn tarddu o’n dulliau o gynhesu, goleuo a rhedeg ein cartrefi. Rhaid felly, i’r sector preswyl fod yn rhan annatod o unrhyw strategaeth ar gyfer lleihau allyriadau.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Ein nod, , yw lleihad yn yr allyriadau cyfwerth â gostyngiad o 3% yn y carbon a allyrrir erbyn 2011, yn y meysydd lle y datganolwyd pwerau fel a nodir yn Cymru’n Un a hefyd trwy archwilio meysydd o ddatganoli pellach, megis Rheoliadau adeiladu. Mae Cymru’n Un yn ein rhwymo hefyd i sefydlu Cynllun Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni Cenedlaethol. Bydd y sector preswyl yn rhan annatod o’r cynllun hwnnw ac yn cyfrannu’n sylweddol i’r targed o 3%.
Rydym yn cydnabod bod cynnydd gwirioneddol mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd yn dibynnu ar ymgysylltiad a chyfranogiad ymarferol y sector cyhoeddus, busnesau, y sector gwirfoddol, cyrff anllywodraethol, cymunedau ac unigolion; ac yr ydym wedi sefydlu Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddarparu mecanwaith a fydd yn sicrhau’r ymgysylltiad hwnnw a chreu consensws ar y gweithredu sydd ei angen yn wyneb y newid yn yr hinsawdd. Mae’r Comisiwn yn cynnwys cynrychiolwyr o’r pedair prif blaid wleidyddol, busnesau, llywodraeth leol, undebau llafur a chyrff arbenigol; ac ef yw prif sefydliad sy’n cymell gweithredu ac yn darparu arweiniad strategol, cyfeiriad a chonsensws ledled Cymru.
Cefnogir y Comisiwn gan nifer o is-grwpiau thematig, gan gynnwys is-grwp lleihau allyriadau, sy’n ystyried y gweithredu sydd ei angen mewn meysydd penodol.
Gofynnais i Gomisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru nodi ymyriadau polisi allweddol a fydd yn galluogi’r amgylchedd adeiledig i gyfrannu i’n targed o 3% ac i symud ymlaen i wireddu’n dyhead o sicrhau bod adeiladau newydd yn ddi-garbon. Mae’r Comisiwn yn cysylltu â’r rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr diwydiant, a disgwylir i’r Comisiwn gyflwyno ei adroddiad cyntaf, ynghyd ag argymhellion, mewn cyfarfod o Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ym mis Medi
Rwy’n croesawu adroddiad y Comisiwn Cynaliadwyedd; bydd ei ganfyddiadau’n ychwanegu at y gwaith a yrrir ymlaen eisoes gan Lywodraeth y Cynulliad a’i phartneriaid
Nodaf isod fy ymatebion i’r argymhellion unigol yn yr adroddiad.
Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, trwy Ddatganiad Polisi Cynllunio Interim gan y Gweinidog, ei gwneud yn ofynnol bod datblygiadau o fwy na 5 annedd, a phob datblygiad masnachol, yn cynhyrchu o leiaf 10 y cant o’u gofynion ynni trwy ynni adnewyddadwy ar y safle neu o ffynonellau lleol sydd wedi’u datganoli; A
Phrif Argymhelliad 2: Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru, trwy Ddatganiad Polisi Cynllunio Interim gan y Gweinidog, ei gwneud yn ofynnol bod datblygiadau o lai na 5 annedd yn lleihau’r allyriadau CO2 a ragwelir 25 y cant o leiaf, ar sail y rheoliadau adeiladu cyfredol, trwy wneud gwelliannau i berfformiad ynni'r adeiladau, a/neu trwy gyflenwad gwresogi, oeri ac ynni effeithlon.
Mae’r adolygiad o’r polisi a’r canllawiau cynllunio yn parhau, yn dilyn ein hymgynghoriad ar gynllunio ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys ystyried a ddylid gwneud cynhyrchu isafswm o ynni adnewyddadwy (gan gynnwys ynni o ffynonellau carbon isel), a/neu isafswm lleihad mewn allyriadau carbon, yn ofynnol mewn adeiladau/datblygiadau newydd trwy gyfrwng y system gynllunio.
Gallaf sicrhau’r Pwyllgor bod y dadleuon dros gefnogi o leiaf math o ‘reol Merton’ yng Nghymru, ac ymgyrraedd at rywbeth sydd hyd yn oed yn fwy effeithiol na Merton, trwy, er enghraifft, fynnu lleiafswm gostyngiad mewn allyriadau carbon neu well perfformiad o ran effeithlonrwydd ynni, yn cael eu hystyried. Bydd yr argymhellion uchod yn ogystal â chanfyddiadau ehangach yr adroddiad yn cael sylw priodol wrth gyrraedd penderfyniad.
Hoffwn ofyn i’r Pwyllgor, fodd bynnag, ystyried y posibilrwydd bod gwrthdrawiad rhwng Argymhellion 1 a 2 . Gallai’r gostyngiad posibl mewn allyriadau a gynrychiolir gan Argymhelliad 2 fod yn fwy na’r gostyngiad o ganlyniad i Argymhelliad 1, oherwydd nad yw’n dilyn o anghenraid y bydd mynnu cael 10% o ynni adnewyddadwy yn arwain yn awtomatig at ostyngiad o 25% o leiaf yn yr allyriadau. Dylem fod yn annog dull o ymateb fesul gris i’r hierarchaeth ynni, ac aros cyn cynnwys technolegau ynni adnewyddadwy hyd nes byddwn wedi gweithredu’n gydunol i leihau’r galw am ynni a gwella effeithlonrwydd ynni. Gofynnaf i’r Pwyllgor nodi hefyd y mesurir yr elfen effeithlonrwydd ynni o dan y Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy yn nhermau gwelliannau canran mewn effeithlonrwydd ynni gyferbyn â Rhan L o’r Rheoliadau Adeiladu, a bod gwelliant o 25% yn cyfateb i lefel 3 yn y Cod. Mae pwyntiau ar gael hefyd yn y Cod ar gyfer cynnwys technolegau ynni carbon isel neu ddi-garbon
Mae’n bosibl yr achosid costau ychwanegol i ddatblygwyr a chynllunwyr pe derbynnid ac y gweithredid yr argymhellion hyn trwy’r system gynllunio, a bydd angen ystyried y rheini cyn cyrraedd penderfyniad.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Rheoliadau Adeiladu’n cael eu datganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru fel mater o frys.
Rwy’n derbyn yr argymhelliad hwn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo yn Cymru’n Un i annog datganoli, ac y mae’n obeithiol y bydd trafodaethau â Llywodraeth y DU yn cyrraedd penderfyniad boddhaol yn fuan.
Bydd y costau adrannol ychwanegol, a achosir trwy annog datganoli a sicrhau’r sgiliau a’r galluoedd angenrheidiol i weinyddu Rheoliadau Adeiladu datganoledig, yn cael ei diwallu o’r cyllidebau presennol.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn mabwysiadu’r Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy ac y dylai ddod i rym ar unwaith. Rydym hefyd yn argymell, pan ddatganolir y Rheoliadau Adeiladu, mai’r rhai y dylid eu hadolygu gyntaf yw’r rhai a fyddai’n galluogi gorfodi lefel uchaf y Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy.
Rwyf eisoes wedi cyhoeddi y mabwysiedir y Cod yn lle Ecogartrefi BREEAM, ac y cymhwysir y Cod i’r holl dai a gyllidir gan, neu a godir ar dir a waredwyd gan, Lywodraeth y Cynulliad.
Rwyf hefyd wedi cadarnhau yn ddiweddar y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud Lefel 3 o’r Cod, o leiaf, yn ofynnol ar gyfer tai cymdeithasol, ac yn symud i lefelau uwch cyn gynted ag y bo modd. Mae’r Dirprwy Weinidog dros Dai yn ymgynghori ar gynlluniau i gryfhau’r safonau datblygu ac i brif-ffrydio dulliau newydd yn raddol dros y cyfnod Grant Tai Cymdeithasol nesaf; ac y mae’n ystyried clustnodi cyfran o’r rhaglen ar gyfer cyllido adeiladu carbon-isel.
Wrth symud ymlaen byddwn yn ystyried yn ofalus adroddiad y Grwp Adolygu Tai Fforddiadwy, a ddisgwylir tua diwedd Mai/ dechrau Mehefin.
Rydym yn ceisio datganoli’r Rheoliadau Adeiladu er mwyn codi’r safonau effeithlonrwydd ynni i’r lefel ddi-garbon. Bydd agweddau eraill ar y Cod, eu perthynas â’n hamcanion cynaliadwyedd ehangach, a’u goblygiadau i’r Rheoliadau Adeiladu, hefyd yn cael eu hystyried, yn rhan o raglen o waith pellach a ddatblygir yn ystod tymor presennol y Cynulliad.
Dim o ganlyniad i fabwysiadu’r Cod yn lle’r polisi blaenorol (h.y. Ecogartrefi BREEAM) ar gyfer graddio cynaliadwyedd tai newydd a gyllidir gan, neu a godir ar dir a waredwyd gan, Lywodraeth y Cynulliad. Gallai pennu lefelau Cod sy’n uwch na’r gofynion cyfreithiol cyffredinol a pholisi cyfredol Llywodraeth y Cynulliad effeithio ar werth gwarediadau tir, a bydd rhaid ystyried hynny, yn rhan o’r broses cynllunio busnes a chyllidebu. Bydd y costau achosir i ddiwydiant ac i ddefnyddwyr oherwydd safonau uwch yn y Rheoliadau Adeiladu yn cael eu hystyried, yn rhan o’r broses o arfarnu’r newidiadau arfaethedig.
Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gyllido rhaglen ôl-osod ar gyfer yr holl gartrefi presennol sy’n anodd eu gwresogi, i sicrhau eu bod yn cyrraedd un o’r lefelau cytunedig yn y Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy.
Rwy’n cefnogi nod gwaelodol yr argymhelliad, sef hyrwyddo gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y stoc bresennol, yn enwedig cartrefi sy’n anodd i’w gwresogi.
Fodd bynnag, rhaid cadw cydbwysedd rhwng deiliaid tai sydd â’r gallu i dalu a’r rhai sydd, i bob pwrpas, mewn tlodi tanwydd. Rhaid cydnabod hefyd bod lliniaru tlodi tanwydd yn gyfrifoldeb a rennir rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth y Cynulliad a’r cyflenwyr ynni. yn ychwanegol, gan na chynlluniwyd y Cod fel safon ar gyfer y stoc tai presennol, byddai’n anodd ‘darllen ar draws’ yn uniongyrchol.
Mae dwy raglen sylweddol yng Nghymru sydd eisoes yn darparu cyllid yn benodol ar gyfer ôl-osod mesurau effeithlonrwydd ynni yn yr eiddo presennol. Mae Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES) Llywodraeth y Cynulliad yn darparu mesurau gwresogi ac inswleiddio i aelwydydd cymwys. O dan y Targed Lleihau Allyriadau Carbon (sef yr ‘Ymrwymiad Effeithlonrwydd Ynni’ gynt) mae cyflenwyr ynni hefyd yn darparu mesurau arbed carbon yn ddi-dâl neu ar ddisgownt i’w cwsmeriaid.
Cyflawnir mesurau effeithlonrwydd ynni hefyd wrth fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) Llywodraeth y Cynulliad o dan gynlluniau ardaloedd adnewyddu a rhaglenni eraill sy’n adnewyddu tai.
O dan Cymru’n Un mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i ddatblygu Cynllun Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni Cenedlaethol. Bydd y Cynllun yn edrych ar ein Strategaeth Tlodi Ynni, ar rôl yr HEES ac yn ystyried partneriaethau posibl â chyflenwyr ynni er mwyn cyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn ffordd integredig. Goleuir y cynllun mewn perthynas â’r stoc tai bresennol gan y gwaith y gofynnais i’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy ei wneud, ar y ffordd yr dylai’r amgylchedd adeiledig gyfrannu at darged Llywodraeth y Cynulliad o 3% o ostyngiad blynyddol yn yr allyriadau carbon.
Sylweddol. Pe derbynnid a gweithredid yr argymhelliad hwn, ni ellid darparu ar gyfer y goblygiadau ariannol allan o gyllidebau adrannol presennol Llywodraeth y Cynulliad.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn mynd ati’n ddiwyd i hyrwyddo’r rhaglen Adeiladau Carbon Isel yng Nghymru ac yn darparu grantiau ychwanegol ar gyfer cynlluniau microgynhyrchu mewn tai presennol.
Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn hyrwyddo’r Rhaglen Adeiladu Carbon Isel, trwy ei chyfryngau cynghori a gwybodaeth ei hunan, trwy gyllido gwefan porthol Arbed Ynni Cymru sy’n gweithredu fel mynegbost i’r rhaglen, a thrwy gefnogi’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni sydd â chysylltiadau â’r Rhaglen ac yn darparu gwybodaeth a chyngor ynghylch technolegau microgynhyrchu.
Ein bwriad yw manteisio’n llawn ar y Cyllid Cydgyfeirio newydd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a datblygu’r diwydiant microgynhyrchu yng Nghymru.
Mewn perthynas â darparu grantiau newydd gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer cynlluniau microgynhyrchu mewn tai sy’n bod eisoes, blaenoriaeth gyntaf cyllid grant Llywodraeth y Cynulliad, o anghenraid, fydd gwella effeithlonrwydd ynni’r stoc bresennol. Yr wyf, fodd bynnag, yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnig cymhellion ychwanegol ar gyfer microgynhyrchu mewn eiddo incwm-isel sydd wedi cyrraedd ei botensial llawn o safbwynt effeithlonrwydd ynni.
Achosid goblygiadau ariannol i Lywodraeth y Cynulliad pe baem yn cynnig grantiau ychwanegol, na ellid eu darparu allan o’r cyllidebau adrannol presennol.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu Polisi Cynllunio Cymru a’r canllawiau cysylltiol er mwyn cryfhau’r gofynion ar awdurdodau lleol i gynnwys polisïau sy’n anelu’n benodol at leihau allyriadau carbon yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol.
Rydym eisoes wedi ymgynghori ynglyn â diwygiadau ym Mholisi Cynllunio Cymru yng nghyd-destun y newid yn yr hinsawdd. Roedd y diwygiadau arfaethedig hefyd yn cryfhau rôl y cynlluniau datblygu lleol o ran cyfrannu at leihau allyriadau carbon. Adolygir hyn eto er mwyn canfod y ffordd orau i hwyluso’r symudiad i gyfeiriad datblygiadau di-garbon, yn y cyfamser cyn datganoli a diwygio’r Rheoliadau Adeiladu.
Edrychir ar unrhyw oblygiadau ariannol, yn rhan o’r adolygiad.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu’r broses o wneud cais ar gyfer gosod a defnyddio technolegau carbon isel mewn adeiladau preswyl gyda golwg ar symleiddio a chyflymu’r broses.
Rydym eisoes wedi ymgynghori ynghylch estyn yr ‘hawliau datblygu a ganiateir’ i gynnwys technolegau microgynhyrchu, er mwyn helpu preswylwyr yng Nghymru i fanteisio ar ffynonellau unigol o ynni adnewyddadwy. Rydym yn edrych i weld a ellir cysylltu’r diwygiadau a fyddai’n ofynnol yn y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir â Chynllun Ardystio Microgynhyrchu y DU. Daw’r newidiadau’n weithredol yn ddiweddarach eleni.
Ystyriwyd y goblygiadau ariannol yn rhan o Asesiad Effaith Rheoleiddiol y newidiadau arfaethedig. Effaith estyn yr ‘hawliau datblygu a ganiateir’ fydd lleihau costau ceisiadau cynllunio a lleihau biliau tanwydd y preswylwyr.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda’r Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefol (RTPI) i ddatblygu a hyrwyddo hyfforddiant, cyngor a chanllawiau i gynllunwyr ym meysydd dylunio ar sail carbon isel a defnyddio ffynonellau ynni microgynhyrchu.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymwybodol bod hwn yn faes polisi lleol sy’n esblygu’n gyflym, ac y bydd angen hyfforddiant, cyngor a chanllawiau pellach ar leihau allyriadau carbon mewn datblygiadau newydd er mwyn cyflawni’r polisi cynllunio cenedlaethol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi bwriad RTPI Cymru o wneud y newid yn yr hinsawdd yn nodwedd allweddol ei Gynhadledd ym mis Gorffennaf 2008. Rydym hefyd yn comisiynu ymchwil i’r rhwystrau sy’n atal awdurdodau lleol rhag cyflawni datblygiadau di-garbon. Dilynir hyn gan nifer o ddigwyddiadau hyfforddi a chanllawiau ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol.
Darparwyd ar gyfer costau’r ymchwil a’r hyfforddiant yn y cyllidebau presennol. Bydd unrhyw waith pellach a wneir ar y cyd â’r RTPI yn cael ei ystyried yn ystod y broses cynllunio busnes a chyllidebu.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a’r Cyngor Sgiliau Sector ym Maes Adeiladu i ddatblygu a hyrwyddo hyfforddiant, cyngor a chymorth i’r diwydiant adeiladu ym maes adeiladu carbon isel. AC
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a’r Cyngor Sgiliau Sector ym Maes Adeiladu i ddatblygu a hyrwyddo hyfforddiant, cyngor a chymorth i’r diwydiant adeiladu ym maes gosod a defnyddio ffynonellau microgynhyrchu ynni.
Rydym eisoes wedi ymrwymo i gydweithio â’r diwydiant er mwyn cyflenwi’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer adeiladu carbon isel/ di-garbon. Rydym yn ystyried microgynhyrchu yn benodol, wrth yrru ymlaen â’n Cynllun Gweithredu Microgynhyrchu. Cydgysylltir y gwaith hwn â’n strategaeth ar gyfer sgiliau adeiladu - ‘Adeiladu Cwmnïau /Meithrin Sgiliau’ .
Edrychir ar unrhyw oblygiadau ariannol yng nghyd-destun y gwaith hwn, sy’n parhau.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn archwilio mecanweithiau ar gyfer creu marchnad i’r ynni a gynhyrchir dros ben gan gyfarpar microgynhyrchu unigol, er enghraifft trwy greu cwmnïau cyflenwi ynni lleol gyda phrisiau bwydo-i-mewn y cytunir arnynt.
Rydym eisoes yn ymchwilio i’r posibilrwydd o greu cwmnïau cyflenwi ynni lleol, yn benodol yn rhan o’n cynlluniau i ddefnyddio tir ym mherchnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i yrru ymlaen â phrosiectau braenaru ar gyfer datblygiadau carbon isel/ di-garbon. Byddwn hefyd yn cydweithio â Llywodraeth y DU ar y tariffau bwydo-i-mewn, sy’n fater nad yw wedi ei ddatganoli. Roeddwn yn croesawu’r cyhoeddiad yn y Gyllideb, y bydd Llywodraeth y DU yn ymchwilio i’r posibilrwydd o dariff bwydo-i-mewn ar gyfer ynni adnewyddadwy a microgynhyrchu, yng nghyd-destun ymgynghori ar y mecanwaith cymorth mwyaf addas ar gyfer microgynhyrchu ar y lefelau unigol a chymunedol. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU hefyd y bydd yn ystyried sut i oresgyn rhwystrau megis cynllunio a mynediad i’r grid.
Nodir unrhyw oblygiadau ariannol yng nghwrs y gwaith hwn, sy’n parhau.
Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ennyn trafodaeth gyda datblygwyr cyn gynted ag y bo modd, er mwyn canfod y manteision iddynt hwy o arloesi gyda thechnegau adeiladu tai di-garbon yng Nghymru.
Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddynodi arferion da yn y sector tai cymdeithasol a sefydlu cynllun cyfnewid gwybodaeth gyda datblygwyr ac adeiladwyr sector preifat.
Rwyf wedi comisiynu’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru i nodi pa ymyriadau polisi allweddol sydd eu hangen i gefnogi dyhead Llywodraeth y Cynulliad o sicrhau bod pob adeilad newydd yn ddi-garbon erbyn 2011, a’r cyfraniad y gall yr amgylchedd adeiledig ei wneud i’n targed o dan i Cymru’n Un, sef gostyngiad o 3% yn yr allyriadau blynyddol.
Ar y cyd â Chomisiwn Dylunio Cymru, mae’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yn sefydlu panel o arbenigwyr, a fydd yn cynnwys y cyrff allweddol yn y meysydd effeithlonrwydd ynni, adeiladu ac ynni adnewyddadwy. Y bwriad yw sefydlu ‘cynghrair o’r ewyllysgar’ ar fater yr adeiladau newydd di-garbon, ia fydd yn rhannu syniadau ac arferion da, ac yn pennu amserlen ar gyfer datblygu a’r dyhead pellach o ostwng allyriadau 3% erbyn 2011.
Yr allwedd i’r broses honno fydd ymgysylltu â’r sector adeiladu tai, er mwyn datblygu dealltwriaeth o ddulliau adeiladu di-garbon. Bydd y prosiectau braenaru mawr ym Mhont Elái, Glyn Ebwy a mannau eraill, lle y bydd lefelau uchaf y Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy yn ofynnol, ynghyd â’r rhaglen tai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn rhoi cyfle i Lywodraeth y Cynulliad, y Landlordiaid Cymdeithasol a’r sector adeiladu brofi’r hyn sydd i’w ddisgwyl wrth symud i’r cyfeiriad di-garbon.
Dim ar hyn o bryd. Darperir ar gyfer unrhyw wariant a fydd yn ofynnol yn y dyfodol allan o’r cyllidebau adrannol presennol.
Pan fo tir sydd ym mherchenogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i gael ei ryddhau ar gyfer datblygiad preswyl, mae’r Pwyllgor yn argymell y dylid gwneud hynny am gyfradd is pan fo ar gyfer codi tai di-garbon.
Mae protocol gwaredu tir Llywodraeth y Cynulliad eisoes yn darparu ar gyfer gwneud safonau cynaliadwyedd amgylcheddol yn ofynnol. Ar hyn o bryd y safonau yw ‘Rhagorol’ Ecogartrefi BREEAM (ond gweler fy ymateb i Argymhelliad 4). Bydd y polisi ar waredu tir yn y dyfodol yn cael ei oleuo gan waith y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, ac yn amcanu i gefnogi’r gwaith hwnnw a’n huchelgais ar gyfer 2011 (gweler fy ymateb i Argymhellion 13 a 14). Gallai pennu safonau uwch effeithio ar werth y tir a waredir ar y farchnad, a fyddai’n dibynnu ar y safbwynt masnachol a arddelid gan ddarpar ddatblygwyr. Byddai’n rhaid penderfynu a ddylid caniatáu disgownt pellach yn ôl cyflwr y farchnad ar y pryd, gan gydymffurfio â rheoliadau ariannol Llywodraeth y Cynulliad.
Gallai pennu gofynion effeithlonrwydd ynni sy’n uwch na’r gofynion cyfreithiol cyfredol, effeithio ar werth y tir a waredir; a byddai’n rhaid ystyried hynny yn ystod y broses cynllunio busnes a chyllidebu.
Pan fo tir sydd ym mherchenogaeth awdurdodau lleol Cymru i gael ei ryddhau ar gyfer datblygiad preswyl, dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru annog a chynorthwyo awdurdodau lleol i wneud hynny am gyfradd is pan fo ar gyfer codi tai di-garbon.
Byddai Llywodraeth y Cynulliad yn annog ac yn cefnogi unrhyw weithredu gan awdurdodau lleoli i ddefnyddio’u daliadau tir i hyrwyddo lefelau cynaliadwyedd uwch wrth ddatblygu; ac y mae hwn yn fater yr hoffwn ei ddilyn ymhellach, yn gyntaf oll trwy gyfrwng CLlLC
Ggallai pennu gofynion effeithlonrwydd ynni gan awdurdod lleol, dros ben y gofynion cyfreithiol cyfredol, effeithio ar werth y tir a waredir. Byddai’n rhaid dadansoddi y costau a’r buddio, a’u hystyried yng nghyd-destun polisïau, blaenoriaethau, rheoliadau ariannol a rhwymedigaethau statudol yr awdurdod lleol unigol.
Mae’r Pwyllgor yn argymell felly bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ag awdurdodau lleol Cymru ynglyn â’r ffordd fwyaf effeithiol o fesur yr allyriadau CO2 o’r eiddo preswyl yn eu hardal, er mwyn sefydlu gwaelodlin ddilys y gall pob awdurdod lleol fesur gwelliant gyferbyn â hi;
Mae’r Pwyllgor yn argymell felly y dylai’r dangosyddion perfformiad gynnwys targedau ynghyd â cherrig milltir ar gyfer gwella, ac y dylent nodi’n eglur pa beth a fesurir (e.e. gostyngiadau CO2, effeithlonrwydd ynni cyfartalog y stoc tai, y nifer o gartrefi y rhoddwyd cyngor/grantiau iddynt, gostyngiad yn y ganran o gartrefi sy’n anodd eu gwresogi). Dylai’r targedau hefyd adlewyrchu cyflwr cyfredol y stoc tai yn ardaloedd yr awdurdodau lleol a dylid addasu’r targedau yn unol â hynny;
Mae’r Pwyllgor yn argymell hefyd bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu canllawiau i’r awdurdodau lleol ar ffyrdd o gyrraedd eu targedau e.e. staff pwrpasol amser llawn i roi polisïau ar leihau allyriadau carbon aelwydydd ar waith, sut y gellir gwneud gostyngiadau mewn tai preifat, rhannu arferion da.
Deallaf fod yr argymhellion hyn yn tarddu o adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn 2007 ar y modd y mae’r awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithredu’r Ddeddf Arbed Ynni yn y Cartref (HECA).
Rwyf eisoes wedi rhoi gwybod i’r Pwyllgor fy mod yn ystyried diddymu HECA mor bell ag y mae’n gymwys o ran Cymru. Fodd bynnag, pa un a ddiddymir HECA ai peidio, byddaf yn ystyried argymhellion SAC yn unol â’r ymrwymiad penodol yn Cymru’n Un i sefydlu cynllun effeithlonrwydd ac arbedion ynni cenedlaethol, a’r ymrwymiad ehangach yn Cymru’n Un i leihau’r allyriadau blynyddol 3%
O ran y canllawiau a argymhellir, o dan y Mesur Newid yn yr Hinsawdd, rydym yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am baratoi’r Adroddiad Mesurau Ynni (a elwir bellach yn Adroddiad Mesurau Newid yn yr Hinsawdd), sy’n darparu canllawiau o’r fath, i Weinidogion Cymru.
Dim ar hyn o bryd. Bydd rhaid ystyried unrhyw oblygiadau a ganfyddir yn y dyfodol yng nghyd-destun polisïau a blaenoriaethau awdurdodau lleol unigol. Bydd unrhyw gynigion gan Lywodraeth y Cynulliad a fydd yn effeithio ar awdurdodau lleol, ynglyn ag effeithlonrwydd ynni aelwydydd a lleihau allyriadau carbon, yn destun ymgynghori.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal ymgyrch farchnata eang ei chwmpas, dros gyfnod estynedig , gyda’r nod o annog pobl i leihau eu defnydd o ynni a rhoi gwybod iddynt am y manteision a ddaw iddynt o wneud hynny.
Rwy’n llwyr ymwybodol o bwysigrwydd gwybodaeth gyhoeddus a chyfathrebu effeithiol ynglyn â’r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys yr angen i ddefnyddio llai o ynni. Cynhaliodd Llywodraeth y Cynulliad ymgyrch gyhoeddusrwydd benodol agoriadol yn 2007, a oedd yn canolbwyntio ar gyfathrebu â chymunedau lleol trwy’r wasg leol a’r radio. Ar hyn o bryd rydym wrthi’n paratoi ar gyfer lansio ymgyrch gyfathrebu fawr arall, yn ddiweddarach eleni.
Bydd Is-grwp Cyfathrebu y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd yn helpu i oleuo datblygiad yr ymgyrch hon, ac i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar gysylltiadau â chyrff eraill sy’n cenhadu yn yr un maes, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (EST).
Yn ogystal â darparu cyngor a gwybodaeth yn rheolaidd i aelwydydd, cymunedau a microfusnesau yng Nghymru, mae EST yn marchnata ledled y DU trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys trefnu Wythnos Arbed Ynni flynyddol er mwyn rhoi gwybod i bobl sut i ddefnyddio llai o ynni; a bydd yn lansio ymgyrch newydd eto yn y dyfodol agos.
Canolfan Cyngor ar Ynni EST (ESTac) – a adwaenid gynt fel y Rhwydwaith Ynni Cynaliadwy – yw’r mecanwaith sy’n cyflwyno’r negeseuon hyn i gwsmeriaid yng Nghymru, ynghyd â chyngor ymarferol i aelwydydd ar sut i arbed ynni. Darparwyd cyllid gan Lywodraeth y Cynulliad i sefydlu’r gwasanaeth ESTac estynedig yng Nghymru.
Telir costau ymgyrch Llywodraeth y Cynulliad allan o’r cyllidebau adrannol presennol.
Mae’r Pwyllgor felly yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddal i gyllido’r Rhwydwaith Ynni Cynaliadwy. fodd bynnag, dylai’r rhwydwaith gael ei ehangu a’i wella, gan ymgorffori’r holl gyrff hynny sy’n darparu cyngor (gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Garbon) mewn Siop Un Stop i gynnig help a chyngor o bob math ar leihau allyriadau carbon, gyda chyllid ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Daw’r rhan fwyaf o’r cyllid ar gyfer ESTac oddi wrth Lywodraeth y DU.
Cynlluniwyd ESTac yn benodol i ddarparu cyngor i aelwydydd, cymunedau a microfusnesau. Mae’n bosibl nad yw’r model yn addas ar gyfer rhai cynulleidfaoedd (er enghraifft, y busnesau mwyaf) sydd ag anghenion tra gwahanol ac a wasanaethir gan fecanweithiau eraill megis yr Ymddiriedolaeth Garbon. Mae ESTac a gwasanaethau cynghori eraill, megis yr Ymddiriedolaeth Garbon, eisoes yn cydgysylltu, y naill â’r llall, er mwyn sicrhau bod ymholiadau yn cael eu cyfeirio i’r ffynonellau priodol. Dylai’r pwyslais fod ar weithredu mewn partneriaeth a rhannu’r gwaith.
Byddwn yn ystyried cefnogi gwasanaethau estynedig neu ychwanegol pan fo’n briodol, a bydd angen ystyried costau’r gwasanaethau hynny yn rhan o’r broses o gynllunio busnes a chyllidebu.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu arian ychwanegol ar gyfer prosiectau cymunedol i leihau allyriadau carbon.
Ein bwriad yw manteisio’n llawn ar y Cyllid Cydgyfeirio newydd ac ar Amgylchedd Cymru i’n cynorthwyo i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys cynorthwyo cymunedau i yrru ymlaen â phrosiectau sy’n lleihau carbon, yn enwedig rhaglenni ynni adnewyddadwy cymunedol.
A bydd angen ystyried costau ychwanegol yn rhan o’r broses o gynllunio busnes a chyllidebu.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn amodol ar ganlyniadau’r treialon cyfredol, yn cefnogi Llywodraeth y DU yn ei hymdrechion i annog y cwmnïau cyfleustodau i gyllido’r gwaith o osod ‘mesuryddion clyfar’ neu ddarpariaeth gyfatebol ar bob aelwyd ar draws Cymru.
Rwyf eisoes wedi cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i fabwysiadu mesuryddion clyfar fesul cam yng Nghymru.
Pleser yw datgan bod yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (DBERR) wedi penderfynu bod mandad yn ofynnol ar gyfer mabwysiadu mesuryddion clyfar fesul cam, a bod Llywodraeth y DU yn ceisio’r pwer i gyflwyno mandad trwy gyfrwng diwygiad i’r Mesur Ynni. Mae DBERR yn parhau i weithio ar ddadansoddiad economaidd o’r cynllun i fabwysiadu mesuryddion o’r fath yn raddol
Mae DBERR hefyd wedi comisiynu treialon ar fesuryddion clyfar i’r sector domestig; a chyflawnir y treialon gan y rheolydd ynni, Ofgem. Yn Ne Cymru mae’r cwmni ynni Scottish & Southern Energy yn rhagbrofi mesuryddion clyfar yng Nghasnewydd, a thrwy gyfrwng prosiect cymunedol yn Sain Tathan. Rydym yn croesawu’r treialon hyn ac yn edrych ymlaen â diddordeb at y canlyniadau.
Ni ragwelir unrhyw oblygiadau ariannol i Lywodraeth y Cynulliad.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn paratoi cynlluniau gweithredu manwl, a fydd yn amlinellu’r modd y disgwylir i bob un o’r targedau a bennir ganddi gael ei gyflawni.
Bydd ein rhaglen weithredu arfaethedig ar gyfer cyrraedd targed lleihad 3% Cymru’n Un, yn cael ei datblygu ar gyfer ymgynghori eleni. Bydd y Cynllun Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni Cenedlaethol yn cefnogi’r rhaglen.
Dim ar hyn o bryd.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyflwyno adroddiad bob chwe mis i gyfarfod llawn o’r Cynulliad ac i’r Pwyllgor Cynaliadwyedd neu’r corff a fydd yn cyfateb iddo, ar y cynnydd o ran cyflawni’r targedau;
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ychwanegol at Argymhelliad 16, yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor bob chwe mis ar y cynnydd tuag at weithredu’r argymhellion yn yr adroddiad hwn a dderbynnir gan Lywodraeth y Cynulliad
Rwyf eisoes yn adrodd wrth y Cyfarfod Llawn o’r Cynulliad yn chwarterol ar waith y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd ac ar ddatblygiadau perthnasol eraill. Mae’r Mesur Newid yn yr Hinsawdd yn cynnwys cymalau sy’n mynnu bod Llywodraeth y Cynulliad yn adrodd am yr amcanion, y gweithredoedd a’r cynnydd ynglyn â newid yn yr hinsawdd.
Dim ar hyn o bryd. Telir unrhyw gostau ychwanegol a ddaw i’r amlwg allan o’r cyllidebau adrannol presennol.
Jane Davidson, ACMai 2008
Gweinidog dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai