Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cynaliadwyedd

Ymateb Ysgrifenedig i Adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Leihau Allyriadau Carbon Trafnidiaeth gan Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Crynodeb gweithredol

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Pwyllgor Cynaliadwyedd am eu gwaith a’u hargymhellion defnyddiol ar leihau allyriadau carbon trafnidiaeth.  

Mae heriau penodol yn ein hwynebu o ran lleihau allyriadau carbon trafnidiaeth, gan fod y galw am deithio yn parhau i gynyddu a thechnolegau trafnidiaeth carbon isel yn gostus.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod bod angen mynd i’r afael â’r heriau hyn ar unwaith a sicrhau bod trafnidiaeth yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o ddelio â newid yn yr hinsawdd.  Fodd bynnag, er ein bod yn ceisio rhoi trafnidiaeth ar lwybr llai carbon-ddwys, mae angen inni sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn gallu parhau i hwyluso twf economaidd a hybu cyfiawnder cymdeithasol.   

Ers i’r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad, rwyf wedi cyhoeddi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.  Mae’r Strategaeth yn amlinellu fy ngweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth ac yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol y byddaf yn ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf.  Mae’n sicrhau bod yr angen i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac i leihau allyriadau trafnidiaeth yn greiddiol i bolisïau trafnidiaeth Llywodraeth y Cynulliad.  

Fel y nodir isod, rwyf wedi derbyn neu wedi derbyn yn rhannol bron pob un o’r 27 o argymhellion a nodwyd gan y Pwyllgor.  Byddaf yn cymryd camau i’w gweithredu o fewn fframwaith y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.

Ymatebion manwl

Ceir ymatebion manwl i argymhellion yr adroddiad isod.

Prif Argymhelliad 1:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi arweiniad llawer cryfach drwy sicrhau bod lleihau carbon yn ganolog i Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a thrwy gynyddu’r arian ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy o tua 50 y cant i tua 70 y cant o’r gyllideb ar gyfer trafnidiaeth, fel yn yr Alban.

Ymateb:  Derbyn yn rhannol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cytuno’n llwyr â’r Pwyllgor y dylai lleihau carbon fod yn ganolog i Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.  Adlewyrchir hyn yn fersiwn terfynol Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a gyhoeddais yn gynharach y mis hwn.  Mae’r Strategaeth yn gosod fframwaith ar gyfer rhoi trafnidiaeth ar lwybr lleihau carbon gan sicrhau yr un pryd fod y rhwydwaith yn gallu parhau i gynnal twf economaidd a hybu cynhwysiant cymdeithasol.

O ran cyllid, fel y dywedais wrth y Pwyllgor, mae’r gyllideb drafnidiaeth ar hyn o bryd wedi’i rhannu’n gyfartal rhwng trafnidiaeth gyhoeddus a ffyrdd.  Rydym eisoes yn gwario mwy na 70 y cant o’r gyllideb refeniw ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond bydd rhaniad y cyllid cyfalaf yn dibynnu ar y gymysgfa o gynlluniau sydd ar waith.

Rwyf wrthi’n adolygu balans gwariant o fewn y gyllideb drafnidiaeth yn unol â’r blaenoriaethau a nodir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’m nodau ar gyfer lleihau carbon.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Prif Argymhelliad 2:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnwys amcanion penodol a mesuradwy i leihau allyriadau carbon ac y rhoddir digon o arian i’r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol i’w galluogi i gyflawni’r amcanion hyn.

Ymateb:  Derbyn.

Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnwys ystod o ganlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n seiliedig ar y rhai a amlinellwyd yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar.  Mae un o’r canlyniadau amgylcheddol yn ymwneud â lleihau effaith trafnidiaeth ar allyriadau nwyon ty gwydr.  Mae targed penodol yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar gyfer allyriadau carbon trafnidiaeth, yn unol ag ymrwymiad Cymru’n Un.  Pan fydd y targed wedi’i ddatblygu a’i gymeradwyo, bydd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ei adlewyrchu.

Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru gymeradwyo canlyniadau a thargedau’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â lleihau carbon, fel rhan o’r broses o gymeradwyo pob Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.  Caiff y consortia dipyn o ryddid i ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael fel y mynnant i gyflawni canlyniadau a thargedau’r Cynllun.  Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn monitro cynnydd yn flynyddol.  

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Prif Argymhelliad 3:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu’r defnydd o WelTAG ar frys er mwyn sicrhau mai lleihau allyriadau carbon yw’r prif amcan wrth asesu prosiectau.

Ymateb:  Derbyn yn rhannol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor fod yr Arweiniad ar Gynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) yn ddull pwysig o asesu effaith carbon prosiectau arfaethedig.   

Byddaf yn adolygu arweiniad WelTAG yn rheolaidd a rhagwelaf y bydd yn cael ei ddiweddaru a’i wella bob hyn a hyn er mwyn sicrhau ei fod yn gyson â’r targedau carbon a nodir yng nghytundeb Cymru’n Un.  

Goblygiadau ariannol:  Dim.

Prif Argymhelliad 4:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal cynllun peilot yng Nghymru yn seiliedig ar raglen 'TravelSmart' Sustrans i asesu ei heffaith, cyn ystyried ei chyflwyno ledled Cymru.

Ymateb:  Derbyn yn rhannol.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod bod cynlluniau fel 'TravelSmart', sy’n cynnig gwybodaeth deithio bersonoledig i deuluoedd neu unigolion, yn gallu arwain at newidiadau sylweddol yn ymddygiad teithio pobl. Mewn cydweithrediad â’r consortia trafnidiaeth rhanbarthol, rydym eisoes wedi cyflawni nifer o astudiaethau peilot ar gynlluniau teithio personoledig, er mwyn pwyso a mesur effeithiolrwydd gwahanol fethodolegau a’u cymhwysedd i wahanol grwpiau targed.  

Rwy’n bwriadu adeiladu ar y profiad hwn drwy gynnwys gwybodaeth deithio bersonoledig yn fframwaith ein menter Trefi Teithio Cynaliadwy.  Fy mwriad yw galluogi nifer o drefi i ddod yn esiamplau o ran teithio cynaliadwy, gyda llawer mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio, gwell trafnidiaeth gyhoeddus, gwell gwybodaeth deithio a gwell cynllunio.

Goblygiadau ariannol:  

Bydd yr arian ar gyfer Trefi Teithio Cynaliadwy yn dod o gyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 5:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus yn arwain drwy esiampl drwy ddarparu canolfannau gweinyddu ac adeiladau cyhoeddus mewn lleoliadau sy’n cynnig dulliau teithio cynaliadwy ar gyfer gweithwyr ac ymwelwyr.

Ymateb:  Derbyn.

Rwy’n derbyn bod angen i’r sector cyhoeddus osod esiampl yn y maes hwn. Mae Llywodraeth y Cynulliad wrthi’n gweithredu strategaeth adleoli bwysig, sydd wedi’i dylunio i ddod â gwasanaethau yn nes at bobl Cymru.  Agorwyd ein swyddfa newydd ym Merthyr Tudful yn 2006 a bydd swyddfeydd newydd yn Aberystwyth a Chyffordd Llandudno yn agor yn 2009 a 2010.  

Roedd mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn un o feini prawf y broses o ddethol safleoedd ar gyfer y swyddfeydd hyn.  Mae cynlluniau teithio i’r gweithle yn cael eu datblygu ar gyfer swyddfeydd Aberystwyth a Chyffordd Llandudno.  Mae cynllun teithio i’r gweithle Aberystwyth, sy’n cael ei ddatblygu ar y cyd â Chyngor Sir Ceredigion, yn cynnwys darparu safle bws y tu allan i’r swyddfa ynghyd â raciau beiciau diogel.  Rydym hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i wella amledd gwasanaethau bws a thrên lleol.

Yn fwy cyffredinol, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, drwy’r rhaglen ‘Creu’r Cysylltiadau’, i wireddu ei gweledigaeth ehangach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.  Rydym yn awyddus i wneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy hygyrch, nid yn unig drwy sicrhau bod canolfannau gweinyddu wedi’u lleoli mewn mannau priodol ond hefyd drwy wella mynediad ar-lein gan leihau’r angen i deithio.  

Fel yn achos datblygiadau eraill, bydd unrhyw gynigion i godi adeiladau cyhoeddus newydd yn ddarostyngedig i ofynion y system gynllunio.  Mae’r rhain yn cynnwys gofyniad i baratoi Asesiad Trafnidiaeth ar gyfer datblygiadau sy’n debygol o arwain at dipyn o fynd a dod neu sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar y patrymau mynd a dod presennol.  Byddwn hefyd yn parhau i annog awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus mawr eraill i ddatblygu eu cynlluniau teithio i’r gweithle eu hunain, yn ogystal â pharhau i gyllido cydgysylltwyr cynlluniau teithio ym mhob un o’r consortia trafnidiaeth rhanbarthol.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 6:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi arweiniad i sefydliadau’r sector cyhoeddus o ran caffael cerbydau modur effeithlon a mabwysiadu cynlluniau teithio gwyrdd.

Ymateb:  Derbyn yn rhannol.

Rwy’n derbyn y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru roi arweiniad yn y maes hwn.  O ran effeithlonrwydd carbon y ceir newydd y byddwn yn eu prynu ac yn eu defnyddio at ddibenion gweinyddol, rydym yn bwriadu gosod targed i leihau allyriadau cyfartalog i 130g/km erbyn 2010-11.  Byddwn yn annog sefydliadau sector cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud gwelliannau tebyg.

Rydym hefyd yn cymryd camau i leihau effaith carbon teithiau busnes gan staff Llywodraeth y Cynulliad, ac yn annog cyrff sector cyhoeddus eraill i sicrhau arbedion tebyg.  Rydym wedi gosod targed i sicrhau gostyngiad o 30 y cant yn yr allyriadau carbon sy’n deillio o’n teithiau busnes ein hunain erbyn diwedd 2010, o gymharu â lefelau 2006-07.  Rydym yn cydweithio â Gwerth Cymru i sefydlu contract newydd a fydd yn gosod terfyn o 130g/km ar allyriadau carbon o’r ceir hur a ddefnyddir gan ein staff ar fusnes swyddogol. At hynny, mae’r contract yn cael ei ddatblygu fel y gall sefydliadau sector cyhoeddus eraill ei ddefnyddio.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda chydgysylltwyr y cynlluniau teithio rhanbarthol i sicrhau bod pob sefydliad sector cyhoeddus mawr wedi llunio cynllun teithio i’r gweithle erbyn 2010.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 7:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygu ei chanllawiau cynllunio statudol ar gyfer awdurdodau lleol ar frys er mwyn sicrhau na chaniateir cynigion datblygu lle nad yw’n bosibl darparu trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol.

Ymateb:  Aros.

Argymhelliad yw hwn yr wyf yn bwriadu ei drafod yn fanwl gyda’m cydweithiwr yn y Cabinet – y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.

Goblygiadau ariannol:  

Dim.

Argymhelliad 8:  

Mae’r Pwyllgor ar y cyfan yn cefnogi’r farn hon ac yn argymell y dylai meysydd portffolio ar draws adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol gydweithio i sicrhau y bydd penderfyniadau ar leoli gwasanaethau a chyfleusterau yn ystyried unrhyw oblygiadau o ran trafnidiaeth.

Ymateb:  Derbyn.

Rwy’n derbyn bod angen mwy o gydweithio ar draws yr agenda polisi, oherwydd y rhyngweithio rhwng trafnidiaeth a meysydd polisi eraill. Cydnabyddir hyn yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy’n darparu fframwaith ar gyfer cysylltu penderfyniadau ynghylch lleoli tai, addysg, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, cyflogaeth, manwerthu a chynllunio â’u heffaith ar y rhwydwaith trafnidiaeth.  

At hynny, fel y nodwyd uchod, o dan y cyfarwyddyd cynllunio a geir yn Nodyn Cyngor Technegol 18, rhaid cyflawni Asesiadau Trafnidiaeth ar gyfer pob datblygiad sy’n debygol o arwain at gryn dipyn o fynd a dod.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 9:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyflwyno ymgyrch farchnata a hyrwyddo eang ar fanteision eco-yrru, gan roi sylw arbennig i’r manteision ariannol a diogelwch yn hytrach na’r agweddau amgylcheddol.

Ymateb:  Derbyn

Rwy’n cydnabod y gallai eco-yrru arwain at gynnydd sylweddol mewn effeithlonrwydd tanwydd, ac at ostyngiad cyfatebol mewn allyriadau carbon.  

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu lansio ymgyrch dair blynedd bwysig ar yr hyn y gall pob un ohonom ei wneud i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn ddiweddarach eleni.  Bydd annog dulliau teithio carbon isel ac annog eco-yrru ymhlith y negeseuon allweddol y byddwn yn ceisio’u cyfleu yn ystod yr ymgyrch.  Byddwn yn ystyried a ddylid canolbwyntio mwy yn y rhan hon o’r ymgyrch ar y manteision i yrwyr o ran cost a diogelwch.  

Cyn mynd ati i ddatblygu ymgyrch benodol i Gymru, gweithiodd Llywodraeth y Cynulliad yn agos â Llywodraeth y DU ar linyn trafnidiaeth ei hymgyrch newid yn yr hinsawdd.  Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ariannu hysbysebion teledu a radio yng Nghymru, ac wedi sicrhau bod y wefan ar gael yn Gymraeg.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 10:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell ymhellach fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyflwyno cynllun peilot yn ardal un awdurdod lleol lle mae’n ofynnol i bob gweithiwr sector cyhoeddus sy’n gyrru yn eu gwaith fynychu cwrs eco-yrru.

Ymateb:  Gwrthod.

Mae manteision eco-yrru eisoes yn hysbys ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw fudd i’w gael o gynnal prosiect peilot yn ardal un awdurdod lleol.  Yn hytrach, byddaf yn annog awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill i ystyried cynnig hyfforddiant i’w cyflogeion mewn technegau eco-yrru, wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau teithio i’r gweithle.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 11:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dangos ei hymrwymiad i’r prosiect Trefi Teithio Cynaliadwy drwy gyhoeddi’r manylion a’r cyllid ar ei gyfer ar frys a’i gyflwyno ledled Cymru, gan gynnwys mewn rhai ardaloedd gwledig, heb gynnal mwy o raglenni peilot.

Ymateb:  Derbyn yn rhannol.

Rwyf yn gwbl ymrwymedig i’r fenter Trefi Teithio Cynaliadwy, a fydd yn galluogi nifer o drefi ledled Cymru i ddod yn esiamplau o ran teithio cynaliadwy.  Mae canllawiau ar Drefi Teithio Cynaliadwy yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, a phan fyddant yn barod byddaf yn gweithio gyda phob consortiwm trafnidiaeth rhanbarthol i ddethol a gweddnewid tref addas ym mhob rhanbarth.  Bydd hyn yn cychwyn yn 2009-10 o fewn fframwaith y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol sy’n cael eu paratoi ar hyn o bryd gan y consortia trafnidiaeth rhanbarthol.     

Goblygiadau ariannol:  

Bydd yr arian ar gyfer Trefi Teithio Cynaliadwy yn dod o gyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 12:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn dangos arweiniad wrth annog a chymell eu gweithwyr i weithio gartref a defnyddio cyfleusterau fideo-gynadledda lle bynnag y bo modd.

Ymateb:  Derbyn.

Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cydnabod y gallai gweithio gartref, oriau gwaith hyblyg a fideo-gynadledda helpu i leihau’r galwadau ar y rhwydwaith trafnidiaeth.  Ar yr un pryd, rydym yn ymwybodol y byddai cynnydd yn nifer y bobl sy’n gweithio gartref yn golygu cynnydd yn yr allyriadau o swyddfeydd cartref, ac y byddai hynny i ryw raddau yn gwrthbwyso’r gostyngiadau yn yr allyriadau o deithiau cymudwyr.

Fel cyflogwr, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod manteision posibl gweithio gartref, oriau gwaith hyblyg, a fideo-gynadledda yn ei pholisïau a’i gweithdrefnau AD a TGCh mewnol.  Gall unrhyw aelod o’r staff wneud cais i weithio gartref, a chaiff ceisiadau eu hasesu gan reolwyr llinell a fydd yn ystyried ymarferoldeb y trefniadau gweithio gartref a ph’un a fyddant yn caniatáu i anghenion busnes gael eu bodloni.  

Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn gweithredu cynllun oriau gwaith hyblyg, sy’n caniatáu i staff, ar yr amod bod anghenion gweithredol yn cael eu bodloni, amrywio eu hamserau cyrraedd rhwng 07.00 a 10.00 a’u hamserau gadael rhwng 15.00 a 19.00.  Mae’r hyblygrwydd hwn yn help i ledaenu effaith y staff yn teithio i’n swyddfeydd ar y rhwydwaith trafnidiaeth, yn enwedig y swyddfeydd sy’n cyflogi nifer mawr o staff.

Rydym hefyd yn cydnabod potensial fideo-gynadledda i helpu i leihau’r galw am deithio.  Cyflwynwyd gwasanaeth fideo-gynadledda newydd yn Chwefror 2008, gan gynnwys cyfleusterau fideo-gynadledda mewn 42 o ystafelloedd cyfarfod mewn rhyw 28 o swyddfeydd.  Rydym wedi gwneud trefniadau i fonitro unrhyw ostyngiad yn nheithiau’r staff ac unrhyw ostyngiad yn eu hallyriadau carbon.  Bydd hyn yn help i gyflawni targed Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau gostyngiad o 30 y cant yn yr allyriadau carbon o’n teithiau busnes ein hunain erbyn diwedd 2010, o gymharu â lefelau 2006-07.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn annog sefydliadau sector cyhoeddus eraill i fabwysiadu polisïau tebyg wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau teithio i’r gweithle.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 13:  Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cymorth ac arweiniad i awdurdodau lleol ar gynnig cymhellion i hyrwyddo a hysbysebu trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft drwy gynnig cyfle i bobl deithio am ddim i brofi trafnidiaeth gyhoeddus.

Ymateb:  Derbyn.

Rwy’n cytuno bod angen herio canfyddiadau presennol o drafnidiaeth gyhoeddus a bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr cludiant i gyflawni hyn.  Er enghraifft, rydym wedi cefnogi mentrau fel diwrnod ‘Yn y dre, heb y car’ sy’n rhan o Wythnos Teithio Glân Ewrop, yn ogystal ag wythnos o deithio am ddim ar lwybrau bysiau penodol yng Ngheredigion.  Rydym hefyd yn cefnogi PTI Cymru sy’n rhedeg Traveline Cymru, sy’n darparu amserlenni a gwybodaeth cynllunio teithiau ar gyfer yr holl wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.  At hynny, rydym yn bwriadu defnyddio ein menter Trefi Teithio Cynaliadwy i helpu i ddatblygu ffyrdd arloesol o ddenu pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 14:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu ei gwariant arfaethedig ar ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ac yn rhoi arian uniongyrchol yn fuan er mwyn annog gwelliannau mawr i safon trafnidiaeth gyhoeddus, cyn y gellir ystyried opsiynau eraill fel prisio ffyrdd.

Ymateb:  Derbyn.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i geisio gwella ansawdd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn wasanaethau bws a thrên, fel rhan o’r broses o ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n cynnal twf economaidd ac yn hybu cynhwysiant cymdeithasol.  Rydym yn rhoi tipyn o gymorth ariannol i drafnidiaeth gyhoeddus, trwy awdurdodau lleol ac yn uniongyrchol i weithredwyr.  

Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn dwyn ynghyd ystod eang o bolisïau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy apelgar ac i annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio eraill yn lle’r car preifat.  Ein hymagwedd ni yw datblygu pecyn cytbwys o fesurau i ymateb i’r gwahanol heriau sy’n ein hwynebu o ran trafnidiaeth.  Er y gallai mesurau rheoli galw fel prisio ffyrdd chwarae rhan yn y gwaith o fynd i’r afael â thagfeydd trefol yn enwedig, rwy’n cytuno â barn y Pwyllgor y byddai angen gwneud nifer o welliannau i drafnidiaeth gyhoeddus cyn cyflwyno mesurau o’r fath.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 15:

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, pan fydd y Mesur Trafnidiaeth Leol wedi’i basio, yn cyhoeddi arweiniad i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn defnyddio Partneriaethau Ansawdd Bysiau a Chynlluniau Ansawdd Contractau, i annog gweithredwyr bysiau i roi blaenoriaeth i leihau allyriadau carbon eu cerbydau.

Ymateb:  Derbyn yn rhannol.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi arweiniad ar Bartneriaethau Ansawdd Bysiau a Chynlluniau Ansawdd Contractau pan fydd y Mesur Trafnidiaeth Leol wedi’i basio. Rydym wedi sefydlu Gweithgor Bysiau, yn cynnwys gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol, a fydd yn helpu i ddatblygu’r arweiniad.

Er y byddwn yn disgwyl i gwmnïau sy’n ymuno â Phartneriaethau Ansawdd Bysiau a Chynlluniau Ansawdd Contractau ddefnyddio cerbydau mwy modern a deniadol, ni fydd hyn o reidrwydd yn lleihau allyriadau carbon bysiau.  Y rheswm am hyn yw fod effeithlonrwydd tanwydd bysiau modern, tan yn ddiweddar iawn, wedi bod yn gwaethygu, oherwydd cynnydd ym mhwysau’r cerbydau ac yn eu rhagofynion.  Serch hynny, mae safonau allyriadau cerbydau wedi gwella’n fawr, gan wella ansawdd aer ardaloedd.  

Fodd bynnag, dylai unrhyw Bartneriaethau Ansawdd Bysiau a Chynlluniau Ansawdd Contractau helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn defnyddio bysiau, gan leihau allyriadau carbon yn gyffredinol (drwy gael gwared ceir o’r ffyrdd) a chan wella effeithlonrwydd carbon bysiau (drwy gynyddu nifer y teithwyr a helpu i leihau allyriadau carbon am bob cilomedr a deithir gan bob teithiwr unigol).  

Rwyf hefyd yn ystyried polisïau eraill a fydd yn helpu i leihau allyriadau carbon bysiau.  Mae’r rhain yn cynnwys cynnig i ddiwygio’r trefniadau sybsideiddio bysiau i ganolbwyntio ar ganlyniadau amgylcheddol ac i annog gweithredwyr bysiau i fabwysiadu technegau Gyrru Diogel a Thanwydd-Effeithlon.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 16:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi’r arian angenrheidiol ac arweiniad i awdurdodau lleol i gyflwyno cynlluniau peilot yn yr ardaloedd gwledig yng Nghymru, megis bysiau cymunedol, rhannu ceir a chynlluniau tacsi-bws.

Ymateb:  Derbyn.

Yn 2007-08 rhoes Llywodraeth Cynulliad Cymru dros £10 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau bws a chynlluniau cludiant cymunedol yr oedd angen cymdeithasol amdanynt.  Roedd gofyn i awdurdodau lleol wario o leiaf 10 y cant o’u dyraniadau i helpu gwasanaethau cludiant cymunedol, gan gynnwys cynlluniau rhannu ceir a chynlluniau tacsi-bws.

Hefyd darparodd Llywodraeth y Cynulliad tua £1 miliwn mewn Grant Refeniw Bysiau yn 2007-08 i helpu gwasanaethau bws arloesol mewn ardaloedd lle na fyddai trafnidiaeth gyhoeddus gonfensiynol o bosibl yn briodol nac yn effeithiol.  Rydym yn cefnogi cynlluniau Trafnidiaeth Ymatebol i Alw (DRT) arbrofol ar Lannau Dyfrdwy ac yn Wrecsam a byddaf yn ystyried a ellir defnyddio’r dull cost-effeithiol hwn mewn ardaloedd eraill.  Byddaf hefyd yn ystyried cais am gymorth i gynllun DRT BWCABUS Sir Gaerfyrddin.    

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 17:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn platfformau newydd ac estynedig, mewn cerbydau, ac o ran sicrhau y gall y seilwaith gynnal y twf a ddisgwylir yn nifer y teithwyr a’r cynnydd wrth drosglwyddo cludiant nwyddau o’r ffordd i’r rheilffordd.

Ymateb:  Derbyn.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gydweithio â Network Rail, y cwmnïau trenau a phartneriaid eraill i sicrhau bod y rhwydwaith rheilffyrdd yn gallu cynnal y cynnydd a ddisgwylir yn nifer y teithwyr ac yn y galw am gludo nwyddau.  Byddaf yn cyhoeddi blaenraglen o fuddsoddi cyfalaf, a fydd yn cynnwys seilwaith y rheilffyrdd a cherbydau, ar ôl i Network Rail gyhoeddi ei Strategaeth Defnyddio Llwybrau Cymru yn ddiweddarach eleni.  Bydd y rhaglen yn seiliedig ar yr amcanestyniadau galw yn Asesiad Cynllunio Rheilffyrdd Cymru a gyhoeddwyd yn 2007.  Byddaf hefyd yn cyhoeddi Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru cyn bo hir.   

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 18:

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio’n agos â Network Rail a’r cwmnïau trenau i wella’r amserlenni i deithwyr ar y rheilffordd a lleihau amserau teithio er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd ac annog pobl i ddefnyddio’r gwasanaeth.

Ymateb:  Derbyn.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gydweithio’n agos â Network Rail a’r cwmnïau trenau i wella’r amserlennu a lleihau amserau teithio, a hefyd i gyflawni ymrwymiad ‘Cymru’n Un’ i leihau’r amser a gymerir i deithio rhwng Gogledd a De Cymru mewn trên.  Rwyf hefyd yn ymwybodol fod llawer o ffactorau eraill yn dylanwadu ar ddewisiadau o ran dulliau teithio ac ar farn pobl am wasanaethau rheilffordd.  Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys amledd a dibynadwyedd gwasanaethau, prisiau tocynnau, a oes seddau ar gael, a chyfleusterau gorsafoedd.  Byddaf yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni anghenion teithwyr ac yn cynnig ffordd wahanol ac apelgar o deithio i’r car preifat.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 19:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a darparwyr trafnidiaeth i hyrwyddo tocynnau integredig ar gyfer dewisiadau teithio presennol rhwng teithiau bws a thrên, a sicrhau ar yr un pryd y caiff y gwaith amserlennu a lleihau amserau aros am gysylltiadau eu cydgysylltu.

Ymateb:  Derbyn.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i gydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a darparwyr trafnidiaeth i hyrwyddo tocynnau integredig ac i sicrhau bod amserlenni’n cael eu cyd-drefnu’n well.  Rwyf wedi nodi yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru fod integreiddio trafnidiaeth leol yn flaenoriaeth strategol ac rwy’n disgwyl gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol sy’n cael eu llunio ar hyn o bryd gan y consortia trafnidiaeth rhanbarthol.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cefnogi menter ‘PlusBus’, sy’n rhoi cyfle i bobl sydd wedi teithio ar drên deithio faint a fynnant ar y rhan fwyaf o fysiau am weddill y dydd.  Rydym hefyd yn cefnogi tocynnau bws a thrên integredig ar rwydwaith bysiau a choetsys pellter hir TrawsCambria, sy’n ceisio llenwi’r bylchau yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.  Yn olaf, rydym yn cydweithio â gweithredwyr bysiau a’r consortia trafnidiaeth rhanbarthol i gyflwyno system ‘Cerdyn Call’ i’w defnyddio ar y cyd â’r cynllun teithio rhatach, sydd â’r potensial i gael ei estyn i drefniadau tocynnu eraill.

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 20:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog awdurdodau lleol i ddangos arweiniad o ran gweithredu a hyrwyddo lonydd bysiau a chyfleusterau parcio a theithio diogel a chyfleus.

Ymateb:  Derbyn.

Byddaf yn parhau i annog awdurdodau lleol i ddatblygu trafnidiaeth integredig yn eu hardaloedd, gan gynnwys cyflwyno mesurau blaenoriaeth bysiau a darparu cyfleusterau parcio a theithio.  Er enghraifft, rydym wedi rhoi cyllid Grant Trafnidiaeth i Gyngor Dinas Abertawe i’w helpu i ddatblygu eu safleoedd parcio a theithio, ynghyd â’r llwybr bysiau dynodedig o safle Fabian Way i ganol y ddinas.

Fel y nodwyd uchod, rwyf wedi nodi yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru fod integreiddio trafnidiaeth leol yn flaenoriaeth strategol ac rwy’n disgwyl gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol sy’n cael eu llunio ar hyn o bryd gan y consortia trafnidiaeth rhanbarthol.

Goblygiadau ariannol:  

Dim.  Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio ag awdurdodau lleol i ddiweddaru’r drefn cyllido trafnidiaeth er mwyn ei gwneud yn haws i’r consortia trafnidiaeth rhanbarthol gyflawni blaenoriaethau eu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Argymhelliad 21:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried cyflwyno Adolygiadau Fflyd Werdd yng Nghymru.

Ymateb:  Derbyn.

Byddai Adolygiadau Fflyd Werdd yn ffordd i weithredwyr fflydoedd cerbydau gael adolygiad annibynnol o’u gweithrediadau.  Byddent yn ymdrin â materion fel polisïau dyrannu cerbydau, arbed tanwydd, addysg gyrwyr, materion iechyd a diogelwch a theithiau busnes.

Byddaf yn ystyried a fyddai cyflwyno cynllun o’r fath yng Nghymru yn fforddiadwy ac a fyddai’n ddull cost-effeithiol o leihau allyriadau carbon.  Ni fydd modd cyflwyno cynllun cyn 2009-10.

Goblygiadau ariannol:  

Dim ar hyn o bryd.

Argymhelliad 22:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai unrhyw gynllun prisio ffyrdd arfaethedig nad yw’n un lleol gael ei integreiddio ledled y DU, ond gyda hyblygrwydd rhanbarthol a lleol o ran ei gymhwyso.

Ymateb:  Derbyn.

Mater i Lywodraeth y DU yw datblygu cynllun prisio ffyrdd cenedlaethol. Deallaf nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ynghylch prisio cyffredinol.  Byddaf yn parhau i gydweithio’n agos â Llywodraeth y DU ar faterion prisio ffyrdd a datblygiad unrhyw gynllun cenedlaethol.  

Mae eisoes yn bosibl i awdurdodau lleol sy’n dymuno datblygu cynlluniau prisio ffyrdd lleol neu ranbarthol wneud hynny yn y ffordd sy’n cydweddu orau ag anghenion yr ardal neu’r rhanbarth.  Yn yr un modd, o dan bwerau fframwaith y Mesur Trafnidiaeth Leol, bydd modd i Weinidogion Cymru ddatblygu cynlluniau prisio ffyrdd ar rwydwaith cefnffyrdd Cymru.  Ar yr un pryd, rwy’n cydnabod yr angen i sicrhau bod unrhyw gynlluniau prisio yn gyson ac yn rhyngweithredadwy, er mwyn osgoi unrhyw gostau diangen a dryswch i’r rhai sy’n defnyddio’r ffyrdd.   

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gynrychiolwyr yn y Fforwm Rhyngweithredadwyedd a sefydlwyd gan yr Adran Drafnidiaeth i helpu i lywio’r gwaith o sicrhau rhyngweithredadwyedd rhwng gwahanol gynlluniau prisio ffyrdd yn y DU.

Goblygiadau ariannol:

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.

Argymhelliad 23:

Mae’r Pwyllgor yn argymell nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymeradwyo unrhyw gynlluniau prisio ffyrdd lleol onid yw’n bosibl dangos bod darpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus amgen ddigonol ar gael.

Ymateb:  Derbyn.

O dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000, rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r ‘gorchymyn cynllun’ perthnasol cyn i gynllun prisio ffyrdd lleol gychwyn. Byddwn yn disgwyl i unrhyw awdurdod lleol sydd â diddordeb mewn datblygu cynllun wneud hynny fel rhan o becyn ehangach o fesurau i fynd i’r afael â thagfeydd lleol.  Byddwn yn disgwyl i’r mesurau cydategol hyn gael eu haddasu ar gyfer amgylchiadau lleol, gan gynnwys gwell gwasanaethau bws a thrên, mesurau blaenoriaeth bysiau, cynlluniau parcio a theithio a hyrwyddo dewisiadau teithio callach.  Ni fyddai cynllun yn cael ei gymeradwyo oni bai fod amrywiaeth o welliannau wedi’u gwneud i drafnidiaeth gyhoeddus cyn dechrau codi tâl, ac oni bai fod rhagor o welliannau ar y gweill.

Goblygiadau ariannol:  

Byddai unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag ystyried cynigion am gynllun prisio ffyrdd lleol yn cael eu talu o gyllidebau cyfredol. Byddai’n gostus iawn i awdurdodau lleol wella trafnidiaeth gyhoeddus fel rhan o gynllun prisio ffyrdd lleol, ond byddai’r awdurdod yn cadw’r refeniw y byddai’r cynllun yn ei gynhyrchu i’w wario ar fesurau trafnidiaeth.

Argymhelliad 24:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod unrhyw gynlluniau prisio ffyrdd yn y dyfodol yn gysylltiedig â nodweddion amgylcheddol cerbydau a nifer y teithwyr ac y rhoddir digon o gymorth i drafnidiaeth gyhoeddus i ragweld cynnydd yn y galw.

Ymateb:  Derbyn yn rhannol.

O fewn y fframwaith statudol presennol ar gyfer cynlluniau prisio lleol, mae modd i awdurdodau sy’n codi tâl godi tâl gwahanol ar gerbydau mewn dosbarthiadau gwahanol.  Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, rwy’n awyddus i awdurdodau lleol gael y rhyddid i addasu unrhyw gynlluniau prisio ffyrdd lleol fel y gallant gyflawni eu hamcanion.  Gall hyn gynnwys codi tâl gwahanol ar gerbydau mewn dosbarthiadau gwahanol, ond mae angen bod yn realistig ynghylch yr heriau o ran gwirio a gorfodi.  

Mae ystyriaethau tebyg yn gymwys o ran meddiannaeth cerbydau.  Byddwn yn disgwyl i nifer y bobl sy’n rhannu ceir gynyddu o ganlyniad i gyflwyno cynllun prisio ffyrdd, ond efallai na fyddai’n briodol i awdurdodau lleol gynnig disgownt ar sail nifer y teithwyr oherwydd yr anawsterau o ran gwirio a gorfodi.

Fel y nodwyd uchod, byddwn hefyd yn disgwyl i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ychwanegol gael eu trefnu cyn cyflwyno unrhyw gynllun prisio ffyrdd.     

Goblygiadau ariannol:  

Dim.

Argymhelliad 25:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU i ystyried cyflwyno camau gweithredu mewn meysydd trafnidiaeth nad ydynt wedi’u datganoli, megis effeithlonrwydd technegol cerbydau, cynnwys carbon tanwydd a gostwng terfyniadau cyflymder.

Ymateb:  Derbyn.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gydweithio’n agos â Llywodraeth y DU a’n partneriaid eraill er mwyn ymchwilio i’r holl opsiynau ar gyfer rhoi trafnidiaeth ar lwybr llai carbon-ddwys.

Goblygiadau ariannol:  

Dim.

Argymhelliad 26:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i gynnig Sustrans i gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Llwybrau Cerdded a Beicio, gyda’r nod o’i gwneud yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu a chynnal rhwydwaith o lwybrau di-drafnidiaeth y gellir eu rhannu ledled Cymru.

Ymateb:  Derbyn.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn ystyried cynnig Sustrans i gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Llwybrau Cerdded a Beicio.  Deallaf fod y Gorchymyn wedi’i gyfeirio at Bwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad a byddaf yn cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth.  

Goblygiadau ariannol:  

Mae’r arian ar gyfer ystyried y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig yn dod o gyllidebau cyfredol.  Os caiff y Gorchymyn arfaethedig ei weithredu, fe allai’r goblygiadau cost fod yn sylweddol.

Argymhelliad 27:  

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor bob chwe mis ar ei chynnydd o ran gweithredu’r argymhellion hynny a dderbyniodd o’r adroddiad hwn.

Ymateb:  Derbyn yn rhannol.

Byddaf yn gwneud trefniadau i adrodd i’r Cynulliad yn rheolaidd ar y cynnydd a wneir o ran gweithredu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.  Bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys manylion am waith Llywodraeth y Cynulliad o ran symud yr agenda lleihau carbon yn ei blaen ym maes trafnidiaeth.   

Goblygiadau ariannol:  

Dim goblygiadau ariannol ychwanegol – mae darpariaeth yn y cyllidebau cyfredol.