Y Pwyllgor Cynaliadwyedd
Hafan Llifogydd
Cytunodd y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar 29 Ionawr 2009 i gynnal ymchwiliad i lifogydd yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl isod yn ei gyfarfod ar 19 Mawrth 2009.
Cylch gorchwyl
I edrych ar effeithiau llifogydd ar unigolion, cymunedau a busnesau yng Nghymru a’r mecanweithiau sy’n bodoli cyn, yn ystod ac yn dilyn achos o lifogydd i’w helpu.
I wneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac unrhyw gyrff addas eraill.
Bydd yr ymchwiliad yn cwmpasu:
- ·graddau presennol y llifogydd a’r risg o lifogydd yng Nghymru a’r bygythiadau posibl o lifogydd yn y dyfodol gan ddefnyddio amrywiaeth o sefyllfaoedd newid yn yr hinsawdd;
- ·effeithiau’r achosion diweddar o lifogydd ar unigolion a chymunedau a’u safbwyntiau ynghylch risgiau'r bygythiad o lifogydd a’r ymateb iddo;
- ·effeithiolrwydd Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 (Datblygu a Pherygl o Lifogydd);
- ·ymateb y diwydiant yswiriant i eiddo a thir y mae risg y byddant yn wynebu perygl o lifogydd a chyfnodau o lifogydd;
- ·yr ymateb i achosion o lifogydd, gan ganolbwyntio ar rolau a chyfrifoldebau yn ystod ac yn dilyn yr achosion hynny;
- ·effeithiolrwydd Cynlluniau Gweithredu Strategaeth Amgylcheddol 2006-2008 a chamau gweithredu i atal llifogydd 2008-2011.
Tystiolaeth
Fideo - Llifogydd ym Mhontypridd
Llifogydd ym Y Tyllgoed, Caerdydd
Profiadau o Iifogydd o Amgylch Cymru
Adroddiad Lifogydd yng Nghymru (PDF, 2781KB)