Dyddiad y : 26 Mehefin 2007
Amser y : 9.30am
Lleoliad y : Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd
Cylch gwaith y Pwyllgor yw:-
1. Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 15.7, rhaid i’r Pwyllgor ystyried pob offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i'r offeryn neu’r drafft ar unrhyw un o'r seiliau canlynol:
(i) ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires;
(ii) ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu annisgwyl ar y pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i'w wneud odano;
(iii) bod y deddfiad sy'n rhoi'r pŵer i’w wneud yn cynnwys darpariaethau penodol sy'n ei eithrio rhag cael ei herio yn y llysoedd;
(iv) ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn;
(v) bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol;
(vi) ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol;
(vii) ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft;
(viii) bod yr offeryn neu’r drafft yn defnyddio iaith ryw-benodol;
(ix) nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg;
(x) ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth ei gyhoeddi neu wrth ei osod gerbron y Cynulliad; neu
(xi) ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth anfon hysbysiad o dan adran 4(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, (fel y’i haddaswyd).
2. Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 15.7, caiff y Pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad ar unrhyw un o’r seiliau canlynol:
(i) ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath;
(ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;
(iii) ei fod yn amhriodol oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers i’r deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i’w wneud odano gael ei basio neu ei wneud ei hun;
(iv) ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol; neu
(v) nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith.
3. Rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 15.2 neu 15.3 mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft heb fod yn fwy nag 20 diwrnod ar ôl i’r offeryn neu’r drafft gael ei osod.
4. Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 15.4, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
5. Yn ddarostyngedig i 15.7, caiff y Pwyllgor ystyried y canlynol hefyd a chyflwyno adroddiadau arnynt:
(i) unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a osodir gerbron y Cynulliad;
(ii) pa mor briodol yw darpariaethau mewn Mesurau Cynulliad arfaethedig ac mewn Mesurau ar gyfer Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig sy’n rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol;
(iii) canlyniadau gorchmynion drafft o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaeth a Rheoliadau 2006 ar gyfer deddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i ystyriaeth yn y Cynulliad;
(iv) defnydd Gweinidogion Cymru ar bwerau cychwyn; neu
(v) unrhyw fater deddfwriaethol gyffredinol ei natur sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru.
6. Ni chaiff y Pwyllgor ystyried:
(i) unrhyw orchymyn cymhwysedd deddfwriaethol drafft; na
(ii) unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae’n ofynnol ei osod gerbron Senedd y Deyrnas Unedig.
Aelodau presennol y Pwyllgor yw:
Dr Dai Lloyd AC (Cadeirydd)
Eleanor Burnham AC
Andrew RT Davies AC
Alun Davies AC
Paul Davies AC
Irene James AC
Sandy Mewies AC
Janet Ryder AC
Karen Sinclair AC
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau
Gwyn Griffiths
Joanest Jackson
Chris Reading
Olga Lewis
Hasera Khan
Os hoffech ddod i gyfarfod pwllgor y Cynulliad, mae angen archebu sedd ymlaen llaw, naill ai drwy ffonio:
Neu drwy anfon e-bost i archebu@cymru.gsi.gov.uk
Gallwch gysylltu â’r pwyllgor drwy anfon e-bost i:
Legislation.comm@wales.gsi.gov.uk
CYNNWYS
Mae adroddiadau’r pwyllgor i’r Cynulliad fel a ganlyn:
| LC1514 | Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2007 Y weithdrefn weithredol. Fe’i gwnaed ar 21 Mawrth 2007 |
| LC1515 | Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2007 Y weithdrefn weithredol. Fe’u gwnaed ar 27 Mawrth 2007 |
| LC1516 | Gorchymyn Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub (Cymru) 2005 (Adolygiadau) 2007 Y weithdrefn weithredol. Fe’i gwnaed ar 28 Mawrth 2007 |
| LC1517 | Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Mewnforio Adar Caeth) 2007 Y weithdrefn weithredol. Fe’u gwnaed ar 28 Mawrth 2007 |
Is-ddeddfwriaeth i’w hystyried: Offerynnau Statudol ac Offerynnau Statudol Drafft
Offerynnau y cyflwynir adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 15.2:
SLC4 |
Gorchymyn Rheoli Traffig (Canllawiau ar Feini Prawf Ymyrryd) (Cymru) 2007 Y weithdrefn negyddol. Fe’i gwnaed ar 13 Mehefin 2007. Fe’i gosodwyd ar 14 Mehefin 2007. Yn dod i rym ar 10 Gorffennaf 2007. |
Ceir adroddiad y pwyllgor yn Atodiad 1.
Dr. Dai Lloyd AC
Cadeirydd
Y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth
(SLC(3) 01-07)
Adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth
Fel rhan o'r broses i orfodi dyletswyddau i reoli'r rhwydwaith a osodwyd gan adrannau 16 a 17 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ("y Ddeddf”), caniateir i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ymyrryd os ydynt o'r farn bod awdurdod traffig lleol yng Nghymru yn methu â chyflawni unrhyw un o'r dyletswyddau hynny'n briodol. Os ydynt wedi'u bodloni bod awdurdod traffig lleol o'r fath yn methu â chyflawni unrhyw un o'r dyletswyddau hynny'n briodol cânt wneud gorchymyn ymyrryd sy'n darparu ar gyfer penodi cyfarwyddwr traffig neu mewn cysylltiad â hynny.
Yn unol ag adran 27 o'r Ddeddf, mae'r Gorchymyn hwn yn gosod, o ran Cymru, ganllawiau am y meini prawf y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymhwyso er mwyn penderfynu p’un ai rhoi hysbysiad ymyrryd neu wneud gorchymyn ymyrryd.
Rheol Sefydlog 15.2
Nodwyd y pwyntiau canlynol i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 15.2
1. Mae dau destun paragraff 7 o’r Canllawiau yn anghyson. Mae’r testun Saesneg yn datgan "Further action may not be necessary" tra bod y Gymraeg yn datgan "Gall y bydd angen camau pellach". Er hynny, rhan o’r cyflwyniad esboniadol yw hwn, yn hytrach na rhan weithredol o’r canllawiau. O dan yr amgylchiadau anarferol hynny, caiff hyn ei dynnu i sylw’r Pwyllgor, gyda’r argymhelliad bod y testun Cymraeg yn cael ei gywiro wrth gyhoeddi i ddatgan "Gall na fydd angen camau pellach".
2. Mae’r ymadrodd Saesneg "insignificant effect (or potential effect)" yn ymddangos gyntaf ym mharagraff 18(6). Byddai hwn fel arfer i’w ddarllen i olygu y gallai’r effaith neu’r effaith bosibl fod yn ddi-nod, gan fod yr ansoddair yn dod cyn y ddau enw. Mae trefn y geiriau yn Gymraeg "effaith ddi-nod (neu effaith bosibl)” yn awgrymu mai dim ond yr effaith all fod yn ddi-nod, gan fod yr ansoddair yn ymddangos rhwng y ddau enw. Os yw "ddi-nod” yn gymwys i’r ddau, byddai’n well petai’r geiriau mewn cromfachau yn dod cyn "ddi-nod". Mae’r un peth yn codi ym mharagraff 49(c). [Rheol Sefydlog 15.2(v)]
3. Mae’r cyfeiriad at "ardaloedd dwy haen” ym mharagraff 37(2) yn aneglur. Deallir mai’r bwriad oedd sicrhau bod pob awdurdod â diddordeb yn cysylltu â’i gilydd mewn cysylltiad â phrosiectau’n ymwneud â’r rhwydwaith, yn arbennig os yw un awdurdod yn gweithio fel asiant un arall. Fodd bynnag, ar y darlleniad cyntaf gallai ymddangos yn addasiad amhriodol o ddarpariaeth ar gyfer Lloegr ble mae dwy haen o lywodraeth leol yn parhau. [Rheol Sefydlog 15.2(v)]
4. Ym mharagraff 46, cyfieithwyd "authorities of a description specified" fel "awdurdodau a ddisgrifir yn benodol”. Y disgrifiaf (megis awdurdodau o faint penodol) sydd i’w bennu, ac nid yr awdurdodau wrth eu henwau. Yr ymadrodd cywir felly fyddai "awdurdodau o ddisgrifiad a bennir". [Rheol Sefydlog 15.2 (vii)]
5. Ystyr y geiriau "unrhyw gamau cynllunio" yn 51(ch) yw "any planning action" sy’n awgrymu cynllunio gwlad a thref. Mae’r Saesneg ("any planned action”) yn ymddangos yn golygu unrhyw gynllun arfaethedig, felly "unrhyw gamau a gynllunnir" neu "unrhyw gamau a gynlluniwyd” ddylai fod y testun Cymraeg. [Rheol Sefydlog 15.2 (vii)]
Er hynny, gan mai canllawiau yn ymwneud â’r berthynas rhwng Llywodraeth y Cynulliad ag awdurdodau lleol sydd yma, ni ystyrir y materion uchod yn ddigon difrifol bod angen deddfwriaeth i gywiro’r testun.
Cadarnhaol [ ]
Negyddol [X]
Dr Dai Lloyd AC
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfau
26 Mehefin 2007