Y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth

Ymchwiliad i’r gwaith craffu ar is-ddeddfwriaeth a phwerau dirprwyedig

Rhestr o ymatebion i’r ymgynghoriad
SLC12(ii) - Ystyriaethau strategol a blaengynllunio gwaith Ionawr 2009

EUR(3)-01-09 : Papur 5 : 20 January 2009

Ystyriaethau strategol a blaengynllunio gwaith Ionawr 2009

1. Diben y papur hwn yw disgrifio ffyrdd i’r Pwyllgor weithredu a chynnig cyfeiriad strategol a gweithdrefn gynllunio ar gyfer y Pwyllgor. Cyflwynir blaengynllun gwaith ar wahân yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn.

2. Mae’r papur yn cynnig 4 thema strategol gyffredinol i lywio gwaith y Pwyllgor (sef BETH) ac yna mae’n esbonio gweithdrefn ar gyfer datblygu a rheoli cynllun gwaith (sef SUT). Y cynnig yw mai craidd y blaengynllun gwaith yw rhestr o destunau sy’n seiliedig ar raglen waith y Comisiwn Ewropeaidd, bod materion o bwys yn cael eu hychwanegu at y rhestr drwy gydol y flwyddyn, yn seiliedig ar wybodaeth a ddaw o Frwsel a materion neilltuol eraill sydd â blaenoriaeth uchel ac a allai fod o bwys i Gymru. Yna, gall y rhestr waith honno lywio gweithgarwch y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn waith.

Themâu strategol

3. Themâu strategol arfaethedig y Pwyllgor yw:

  • Craffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru

  • Ystyried cynigion strategol allweddol y Comisiwn Ewropeaidd

  • Monitro cynigion deddfwriaethol Ewropeaidd parhaus penodol, gan gynnwys y goblygiadau sybsidiaredd sydd ynghlwm â hwy

  • Deall a chyfranogi

4. Ceir mwy o fanylion yn y tabl isod.

SLC(3)-SLC12ii | National Assembly for Wales

Thema strategol (BETH)

Cyflwyno (SUT)

Craffu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru

Bydd y Pwyllgor yn:

  • Ceisio craffu ar y ffordd y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymateb i faterion Ewropeaidd ac allanol

  • Monitro gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran codi proffil Cymru yn rhyngwladol ar lwyfan Ewrop ac ar lwyfan y byd

  • Adroddiad gan y Prif Weinidog bob tymor i esbonio ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i faterion Ewropeaidd ac allanol

  • Gwahodd swyddogion priodol i roi tystiolaeth ar faterion penodol

  • Monitro’r ffordd y caiff cyfraith yr UE ei throsi yng Nghymru - drwy ei dilyn drwy’r system

  • Cydgysylltu llif y wybodaeth berthnasol i bwyllgorau eraill

  • Ysgrifennu at y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru i nodi barn y Pwyllgor

Ystyried cynigion strategol allweddol y Comisiwn Ewropeaidd

Bydd y Pwyllgor yn:

  • Nodi materion strategol allweddol Ewropeaidd o raglen waith flynyddol y Comisiwn Ewropeaidd sy’n berthnasol ac yn bwysig ac a fydd yn dylanwadu ar Gymru

  • Dethol, o’r uchod, nifer gyfyngedig o bynciau i’w hystyried ymhellach ac yn fanylach.

  • Bydd Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn sgrinio rhaglen waith flynyddol y Comisiwn Ewropeaidd ac yn llunio rhestr o destunau craffu yn ôl blaenoriaeth, i gynnwys asesiad o’r canlynol:

  • cam ym mhroses yr UE o wneud penderfyniadau

  • perthnasedd i Gymru

  • goblygiadau o ran adnoddau

  • dylanwadu ar botensial

  • Ymgynghori â rhanddeiliaid allanol (gan gynnwys Aelodau Senedd Ewrop a Llywodraeth Cynulliad Cymru) ar y pynciau a ddetholwyd yn y flaenraglen waith

  • Pan fydd y Pwyllgor yn penderfynu ar  bwnc i graffu arno, byddwn yn cychwyn ar y cyfnod ymchwilio ac yn ffurfio safbwynt y Pwyllgor

  • Defnyddio’r opsiynau dylanwadu i gyflwyno barn y Pwyllgor i’r bobl briodol

Monitro cynigion deddfwriaethol penodol yr UE (gan gynnwys sybsidiaredd)

Bydd y Pwyllgor yn:

  • Monitro holl gynigion deddfwriaethol yr UE y bernir eu bod yn effeithio’n sylweddol ar Gymru neu’n berthnasol i Gymru, gan gynnwys monitro sybisidiaredd, trosi i gyfraith y DU a gweithredu

  • Ychwanegu at y rhestr yn ôl yr angen, yn seiliedig ar wybodaeth a ddaw i law

  • Dadansoddiad cychwynnol ar ddechrau’r flwyddyn yn seiliedig ar gynigion deddfwriaethol sydd eisoes yn y system a chynigion eraill a nodir o’r newydd yn rhaglen waith flynyddol y Comisiwn

  • Gweithio mewn partneriaeth â gweinyddiaethau datganoledig eraill i ddatblygu ffyrdd o nodi effaith bosibl ac achosion o dorri sybsidiaredd

  • Cychwyn y cyfnod ymchwilio a ffurfio safbwynt y Pwyllgor

  • Defnyddio’r opsiynau dylanwadu i gyflwyno barn y Pwyllgor i’r bobl briodol a rhoi adborth i’r Comisiwn Ewropeaidd gan ddefnyddio dulliau ffurfiol os yn briodol

Deall a chyfranogi

Bydd y Pwyllgor yn:

  • Ceisio gwella dealltwriaeth o faterion Ewropeaidd a sut y gall weithredu’n fwy effeithiol drwy weithio gyda sefydliadau’r UE, Aelodau Cymru o Senedd Ewrop, Pwyllgor y Rhanbarthau a rhanddeiliaid Ewropeaidd eraill

  • Craffu ar y ffordd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn mynd i’r afael â chysylltiadau allanol ac ymgysylltu â hynny

  • Manteisio ar gyfleoedd i glywed gan Gomisiynwyr Ewropeaidd sydd ar ymweliad

  • Gwahodd cynrychiolwyr Llywyddiaeth yr UE i gyflwyno eu blaenoriaethau

  • Cymryd rhan weithredol mewn cyfleoedd i ymgysylltu’n allanol

  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am weithgareddau cysylltiadau allanol y Cynulliad

Yr ymchwiliad

5. Unwaith y bydd y dewis wedi’i wneud, bydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol yn archwilio’r dystiolaeth sydd ar gael ac yn llunio barn gytûn.

6. Dylid ceisio cael tystiolaeth gan Weinidog perthnasol Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn canfod safbwynt y Llywodraeth a chael adroddiad ar safbwynt Llywodraeth y DU (ar faterion Ewropeaidd). Gellir croesgyfeirio safbwynt Llywodraeth Cynulliad Cymru yn erbyn safbwyntiau seneddau/gweithrediaethau eraill (os ydynt ar gael) a thystiolaeth a gasglwyd gan randdeiliaid allweddol o bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd (fel y bo’n berthnasol) gan gynnwys Aelodau o Senedd Ewrop ac eraill, megis llywodraeth leol, diwydiant, grwpiau eiriolaeth ac ati. Bydd hyn yn galluogi’r Pwyllgor i ffurfio safbwynt ar ôl asesiad cytbwys o’r dystiolaeth sydd ar gael.

Yr opsiynau dylanwadu

7. Gall y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol ddylanwadu ar broses penderfynu’r UE mewn pedair ffordd allweddol:

Y Comisiwn Ewropeaidd

8. Caiff cynigion y Comisiwn Ewropeaidd eu llunio ar ddechrau proses penderfynu’r UE, fel Papurau Gwyrdd ac yna fel Papurau Gwyn neu ohebiaeth sy’n nodi’r opsiynau polisi ac yn gwahodd ymatebion.

9. Mae hwn yn gyfnod delfrydol i’r Pwyllgor ddylanwadu ar y Comisiwn Ewropeaidd, sef y brif elfen yn y broses o wneud penderfyniadau gan mai yn ystod y cyfnod hwn y gellir gwneud newidiadau sylweddol i’r cynigion.

10. Weithiau, mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor wedi dewis archwilio mater sydd wedi mynd y tu hwnt i gyfnod y Papur Gwyrdd/Papur Gwyn. Os hynny, ni fydd yn bosibl dylanwadu’n uniongyrchol ar y Comisiwn Ewropeaidd drwy’r cyfrwng hwn.

Senedd Ewrop

11. Mae graddau dylanwad Senedd Ewrop yn gysylltiedig, i raddau helaeth, â’r weithdrefn ffurfiol sy’n berthnasol i ddeddfwriaeth benodol. O dan y Weithdrefn Gydbenderfynu, sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth yr UE, ni ellir mabwysiadu cynnig deddfwriaethol heb gytundeb Senedd Ewrop. Mae hyn yn cyferbynnu â’r Weithdrefn Ymgynghori (sy’n parhau i fod yn berthnasol i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, er enghraifft), pan ymgynghorir â Senedd Ewrop. Mae’r Senedd hefyd yn rhoi ei barn ar ddeddfwriaeth arfaethedig, ac mae’n ofynnol i Gyngor y Gweinidogion glywed y farn honno er nad yw’n ofynnol iddo ystyried unrhyw welliannau nac awgrymiadau arfaethedig Senedd Ewrop, cyn gwneud penderfyniad terfynol i gymeradwyo darn o ddeddfwriaeth.

12. Mae Senedd Ewrop yn neilltuo cynnig y Comisiwn Ewropeaidd i’r pwyllgor pwnc perthnasol a bydd y pwyllgor hwnnw wedyn yn penodi un o’i aelodau’n rapporteur i lunio ymateb y Senedd. Mae gan bwyllgor arweiniol Senedd Ewrop weithdrefn ar gyfer datblygu ei safbwynt ar y cynnig ac yna caiff ei ystyried yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd lle y caiff ei fabwysiadu.

13. Mae cyfle i’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol roi adborth i’r rapporteur yn uniongyrchol yn ystod y broses hon a allai bara ychydig fisoedd i flwyddyn neu fwy. Gallai safbwynt y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol gael ei gryfhau drwy ennill cefnogaeth Aelodau Cymru o Senedd Ewrop ac Aelodau eraill o Senedd Ewrop sy’n fodlon cefnogi’r safbwynt.

14. Mae ennill cefnogaeth Aelodau Cymru o Senedd Ewrop yn bwysig oherwydd gallant gyflwyno gwelliannau i adroddiadau a gaiff eu hystyried gan bwyllgorau Ewrop er ei bod yn bosibl nad ydynt yn eistedd ar y pwyllgor arweiniol ar gyfer y cynnig. Drwy drafodaethau â’u cyd-wleidyddion, mae’n bosibl y gallant ddylanwadu ar y farn y mae grwpiau gwleidyddol Senedd Ewrop yn ei mabwysiadu wrth bleidleisio mewn pwyllgor.

15. Mae Pwyllgor y Rhanbarthau hefyd yn bwydo i mewn i broses ystyried Senedd Ewrop, felly mae hon yn ffordd arall y gallwn ei defnyddio i geisio hyrwyddo safbwynt y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol.

Cyngor y Gweinidogion

16. Mae dwy ffordd o ddylanwadu ar y Cyngor: drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n bwydo i mewn i safbwynt Cynrychiolaeth y Deyrnas Unedig a thrwy Dŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin.  

17. Mae gan Dŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin gytundeb gyda Llywodraeth y DU a elwir yn 'scrutiny reserve’ na chytunir ar unrhyw beth gan Lywodraeth y DU yn y Cyngor heb iddo gael ei basio gan y Senedd (ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol a phan fydd hyn yn digwydd, rhaid i’r Gweinidog perthnasol roi eglurhad o’i resymau i’r Pwyllgor Craffu Ewrop). Gall y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol gyflwyno ei farn am gynigion y Comisiwn Ewropeaidd i’r ddau dŷ.

Pwyllgor y Rhanbarthau

18. Nid yw Pwyllgor y Rhanbarthau yn un o sefydliadau "ffurfiol” yr UE, ond mae Cytuniad yr Undeb Ewropeaidd yn nodi amrywiaeth eang o feysydd polisi y mae’n rhaid ymgynghori â Phwyllgor y Rhanbarthau arnynt er mwyn cael ei farn a chaiff y farn honno ei chyflwyno i sefydliadau ffurfiol yr Undeb Ewropeaidd (y Cyngor, y Senedd a’r Comisiwn). Bydd Pwyllgor y Rhanbarthau yn penodi rapporteur ar gyfer pob cynnig deddfwriaethol, a bydd y rapporteur hwnnw yn cyflwyno adroddiad i "Gomisiwn” perthnasol Pwyllgor y Rhanbarthau (Pwyllgor), ac yna caiff yr adroddiad ei gyflwyno i’r Cyfarfod Llawn i’w fabwysiadu’n ffurfiol. Rhaid i Bwyllgor y Rhanbarthau lobïo sefydliadau eraill yr UE i dderbyn ei safbwynt a gweithio, hefyd, drwy rwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol fel ffordd arall o geisio dylanwadu. Mae gan Gymru bedwar cynrychiolydd ar Bwyllgor y Rhanbarthau, sef dau aelod llawn a dau aelod wrth gefn. Cynrychiolir Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan Christine Chapman (aelod llawn) a Nerys Evans (wrth gefn). CLlLC sydd â’r ddau le arall.

Rhwydweithiau’r UE

19 Gall adroddiadau a gaiff eu cynhyrchu gan y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol gael eu dosbarthu hefyd i amrywiaeth eang o rwydweithiau lobïo ffurfiol ac anffurfiol yr UE ym Mrwsel ac mewn rhannau eraill o’r UE, fel rhan o’r broses o geisio dylanwadu ar ddadleuon polisi a sicrhau y gwrandewir ar farn y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol. Rhai enghreifftiau o rwydweithiau o’r fath yw CALRE (Cynhadledd (Llywyddion) Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop), REGLEG (Cynhadledd y Rhanbarthau Ewropeaidd sydd â Phwerau Deddfu, Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol, Eurocities, Eurochambres, Cynulliad o Ranbarthau Ewropeaidd, yn ogystal â llu o gynrychiolaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ym Mrwsel a lobïwyr diwydiannol/sector.

20. Mae’r llwybr dylanwadu a gaiff ei ddewis gan y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol unwaith y mae wedi llunio barn ar gynnig yn dibynnu ar y cyfnod y mae’r cynnig wedi’i gyrraedd ym mhroses benderfynu’r UE ynghyd ag asesiad gan ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol a chytundeb y Pwyllgor ar y cyfrwng mwyaf priodol.

Gwasanaeth y Pwyllgorau

Partneriaid a Help