Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cylch gwaith:

Cylch gwaith y Pwyllgor yw:-

1. Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 15.7, rhaid i’r Pwyllgor ystyried pob offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i'r offeryn neu’r drafft ar unrhyw un o'r seiliau canlynol:

(i) ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires;

(ii) ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu annisgwyl ar y pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i'w wneud odano;

(iii) bod y deddfiad sy'n rhoi'r pwer i’w wneud yn cynnwys darpariaethau penodol sy'n ei eithrio rhag cael ei herio yn y llysoedd;

(iv) ei bod yn ymddangos bod iddo effaith ôl-weithredol lle nad yw'r deddfiad sy’n ei awdurdodi yn rhoi awdurdod pendant ar gyfer hyn;

(v) bod angen eglurhad pellach ynglyn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol;

(vi) ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol;

(vii) ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft;

(viii) bod yr offeryn neu’r drafft yn defnyddio iaith ryw-benodol;

(ix) nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg;

(x) ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth ei gyhoeddi neu wrth ei osod gerbron y Cynulliad; neu

(xi) ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth anfon hysbysiad o dan adran 4(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, (fel y’i haddaswyd).

2. Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 15.7, caiff y Pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiad ar a ddylai’r Cynulliad roi sylw arbennig i unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad ar unrhyw un o’r seiliau canlynol:

(i) ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath;

(ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;

(iii) ei fod yn amhriodol oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers i’r deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i’w wneud odano gael ei basio neu ei wneud ei hun;

(iv) ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol; neu

(v) nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith.

3. Rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno unrhyw adroddiad o dan Reol Sefydlog 15.2 neu 15.3 mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft heb fod yn fwy nag 20 diwrnod ar ôl i’r offeryn neu’r drafft gael ei osod.

4. Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o ddyddiau at ddibenion Rheol Sefydlog 15.4, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi’i ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

5. Yn ddarostyngedig i 15.7, caiff y Pwyllgor ystyried y canlynol hefyd a chyflwyno adroddiadau arnynt:

(i) unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a osodir gerbron y Cynulliad;

(ii) pa mor briodol yw darpariaethau mewn Mesurau Cynulliad arfaethedig ac mewn Mesurau ar gyfer Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig sy’n rhoi pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol;

(iii) canlyniadau gorchmynion drafft o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaeth a Rheoliadau 2006 ar gyfer deddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i ystyriaeth yn y Cynulliad;

(iv) defnydd Gweinidogion Cymru ar bwerau cychwyn; neu

(v) unrhyw fater deddfwriaethol gyffredinol ei natur sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru.

6. Ni chaiff y Pwyllgor ystyried:

(i) unrhyw orchymyn cymhwysedd deddfwriaethol drafft; na

(ii) unrhyw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft y mae’n ofynnol ei osod gerbron Senedd y Deyrnas Unedig.