Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rheol Sefydlog 25: Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig

Pwyllgor Gweithdrefn Cynulliad Arbennig ar Orchymyn drafft A40 Penblewin

Mae’r Pwyllgor wedi ei sefydlu yn unol â’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig fel y nodir yn Rheol Sefydlog 25.

Gwahoddir y pwyllgor i gytuno ar ei gylch gorchwyl arfaethedig, yn unol â’r cylch gwaith y cytunwyd arno gan y Cynulliad:

(i) ystyried deisebau a gyflwynwyd i’r Llywydd gan Gyngor Sir Penfro a Mr.K.Jones yn gwrthwynebu’r Gorchymyn drafft  Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (A40) (Gwelliant Penblewin i Barc Slebets) 200-

(ii)  cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad gydag argymhelliad i wneud y Gorchymyn drafft (heb ei ddiwygio) neu i beidio â’i wneud, yn unol â Rheol Sefydlog 25.21.

Bydd y pwyllgor yn dod i ben ar ôl iddo gyflwyno’i adroddiad.

Cafodd y Gorchymyn drafft ei osod gan Lywodraeth y Cynulliad ar 7 Fai 2008. Hwn yw’r cyntaf i fod yn gymwys i’r Weithdrefn Cynulliad Arbennig. Gellir cael gwybodaeth bellach am Orchmynion Gweithdrefn Cynulliad Arbennig ar dudalen Is-ddeddfwriaeth ein gwefan.

Mae'r Llywydd wedi rhoi canllawiau i Aelodau'r Cynulliad ar y ffordd briodol o gynnal trafodion ynghlych Pwyllgorau Gweithdrefn Cynulliad Arbennig.

Newyddion Diweddaraf

Sefydlwyd pwyllgor ar 17 Gorffennaf 2008 i ystyried deisebau yn erbyn y Gorchymyn hwn

Committee to hear objections to the Welsh Assembly Government proposal for a by-pass in Pembrokeshire

Aelodaeth

Gellir gweld aelodau'r Pwyllgor a'r manylion ar gyfer cysylltu â'r Pwyllgor yma.
Mwy>>

Agendâu a Thrawsgrifiadau

Gallwch weld agendâu a thrawsgrifiadau'r cyfarfodydd yma.
Mwy>>

Papurau

Gallwch weld Papurau'r cyfarfodydd yma.
Mwy>>