Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cylch gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yw gofalu bod Aelodau’r Cynulliad yn cadw at safonau ymddygiad priodol.

Mae gan y Pwyllgor, yn gyffredinol, bum prif swyddogaeth:

  • Ymchwilio i unrhyw gwyn a gaiff ei chyfeirio ato gan y Comisiynydd Safonau, cyflwyno adroddiad arno ac, os yw’n briodol, argymell camau i’w cymryd.
  • Ystyried unrhyw faterion o egwyddor yn ymwneud ag ymddygiad yr Aelodau’n gyffredinol.
  • Goruchwylio’r trefniadau ar gyfer creu a chadw Cofrestr o Fuddiannau Aelodau a’r Cofnod o Aelodaeth Cymdeithasau a sicrhau eu bod ar gael i bawb eu gweld, a goruchwylio ffurf a chynnwys y Gofrestr a’r Cofnod .
  • Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cynulliad ynglyn â chwynion a wnaed o dan Reol Sefydlog 16 a chasgliadau’r adroddiad yng nghyswllt safonau moesegol wrth ymgymryd â busnes y Cynulliad.
  • Sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion o dan Reol Sefydlog 16.1(i) a’u gosod gerbron y Cynulliad.

Mae Rheol Sefydlog 16 y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi rhagor o wybodaeth am y ffordd mae’r Pwyllgor yn gweithio.

Newyddion Diweddaraf

Aelodaeth

Gellir gweld Aelodau'r Pwyllgor a'r manylion ar gyfer cysylltu â'r Pwyllgor yma.
Mwy>>

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Gallwch weld agendau, papurau a thrawsgrifiadau cyfarfodydd yma.
Mwy>>

Adroddiadau

Gellir gweld adroddiadau a gyhoeddwyd gan y pwyllgor yma.

Dyddiadau cyfarfodydd

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf