Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Ymgynghoriad Cyhoeddus: Mesur arfaethedig i sefydlu swydd Comisiynydd statudol ar gyfer Safonau
Cefndir
Mae’r Cynulliad yn gallu pasio cyfreithiau Cymru, a elwir yn Fesurau Cynulliad, ar faterion penodol.
Mae Comisiynydd Safonau y Cynulliad Cenedlaethol yn berson annibynnol a gaiff ei benodi gan y Cynulliad. Prif ddyletswyddau’r Comisiynydd yw:
- edrych yn fanwl ar y ffeithiau ynghylch unrhyw gŵyn yn erbyn Aelod Cynulliad;
- rhoi cymorth i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch materion cyffredinol sy’n ymwneud â safonau ymddygiad Aelodau a’r cofnodion y mae’n rhaid eu cadw, fel Buddiannau Aelodau ac Aelodaeth Cymdeithasau;
- rhoi help neu gyngor i’r Cynulliad yn ôl yr angen ar faterion sy’n ymwneud â safonau ymddygiad Aelodau’r Cynulliad.
Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith bod gan y Cynulliad Cenedlaethol Gomisiynydd Safonau ond mae hwn yn fater pwysig yn ôl y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a hoffai gynnig bod cyfraith yn cael ei basio sy’n nodi bod yn rhaid cael Comisiynydd Safonau yng Nghymru.
I helpu’r pwyllgor benderfynu beth i’w gynnwys yn ei gynnig ar gyfer Mesur, mae’r pwyllgor yn ymgynghori â phobl ynghylch rhai o’r cwestiynau pwysicaf am rôl ac annibyniaeth y Comisiynydd Safonau.
Mae yna dri phrif gwestiwn y mae’r pwyllgor wedi penderfynu eu gofyn, sef:
1. A oes angen Mesur Cynulliad i sefydlu swydd Comisiynydd statudol ar gyfer Safonau?
2. Beth ddylai rôl y Comisiynydd Safonau fod?
3. Pa egwyddorion sylfaenol ddylai fod yn sail i’r swydd hon?
Yn ogystal â’r rhain, byddai’r pwyllgor yn gwerthfawrogi sylwadau manylach ar y canlynol: (ceir rhestr lawn o’r cwestiynau manylach yn amgaeedig fel dogfen ar wahân y gallwch ei llwytho yma).
Statws y Comisiynydd
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gyrff gwarchod sy’n annibynnol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi’i sefydlu mewn cyfraith.
- A ddylid sefydlu statws cyfreithiol tebyg i’r Comisiynydd Safonau?
Rôl a chyfrifoldebau
Ym mha rai o’r meysydd canlynol y dylai fod gan y Comisiynydd Safonau rôl:
- Cynghori Aelodau’r Cynulliad ar eu hymddygiad yn ogystal â derbyn ac ymchwilio i gwynion?
- Rhoi cyngor cyffredinol ar safonau ymddygiad?
- Hyrwyddo fframwaith ar gyfer safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus?
Pwerau
- A ddylai fod gan y Comisiynydd Safonau y rhyddid i weithredu’n annibynnol drwy benderfynu a yw cwyn yn deilwng o ymchwiliad neu drwy gychwyn ymchwiliad?
- A ddylai fod gan y Comisiynydd Safonau y pŵer i alw pobl i roi tystiolaeth ac i ofyn bod papurau a chofnodion yn cael eu darparu?
Cofnodi
- A ddylai fod gan y Comisiynydd Safonau y gallu i gyhoeddi casgliadau a phenderfyniadau?
- A ddylai’r Comisiynydd Safonau fod yn atebol yn uniongyrchol i’r Cynulliad neu i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad?
Penodiad
Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru eu penodi gan y Frenhines ar hyn o bryd, yn unol ag argymhelliad y Cynulliad.
- Sut y dylid penodi’r Comisiynydd Safonau?
- Am ba hyd y dylid ei benodi/phenodi?
(Penodir y Comisiynydd Safonau am gyfnod o bedair blynedd ar hyn o bryd. Penodir Archwilydd Cyffredinol Cymru am bum mlynedd ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am saith mlynedd. Penodir Comisiynydd Safonau’r Alban am chwe blynedd a’r Comisiynydd Safonau Seneddol am bum mlynedd.)
Arian a staff
Rhoddir tâl cadw blynyddol i’r Comisiynydd Safonau presennol a chaiff ffioedd eu talu iddo yn seiliedig ar nifer y diwrnodau a weithiwyd ganddo. Ariennir swyddi Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Gronfa Gyfunol Cymru.
- Sut y dylid ariannu swydd y Comisiynydd Safonau?
Caiff y Comisiynydd Safonau ei gynorthwyo gan staff Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad ar hyn o bryd. Nid chânt eu penodi’n uniongyrchol i’w gynorthwyo â’i waith.
- A ddylid cyflogi staff penodol i weithio’n uniongyrchol i’r Comisiynydd Safonau ac a ddylid rhoi’r gallu iddo/iddi gyflogi ei staff ei hun, neu a ddylai gael cymorth gan sefydliad arall fel swyddfa’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus?
Materion eraill
- A ddylai fod gan y Comisiynydd Safonau yn un rôl mewn perthynas â Gweinidogion ac Aelodau Cynulliad eraill?
- Beth fydd yr ystyriaethau ymarferol o ran gweithredu’r system a sut y dylai’r Mesur arfaethedig ddarparu ar gyfer y rhain?
Sut i anfon eich sylwadau
Os hoffech fynegi eich barn gallwch anfon e-bost yn nodi eich sylwadau i standards@wales.gsi.gov.uk. (Nodwch Ymgynghoriad (Consultation) fel testun yr e-bost).
Fel arall, gallwch bostio disg neu lythyr at Lara Date, Gwasanaeth y Pwyllgorau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
- Mae’r pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Saesneg ac yn Gymraeg a bydd yn ystyried yr ymatebion a dderbynnir yn ystod yr hydref. Caiff y sylwadau hyn eu defnyddio i lywio’r gwaith o ddatblygu’r Mesur arfaethedig.
- Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 6 Medi 2008.
- Nodwch eich ymatebion o dan y penawdau a roddir uchod (neu os byddwch yn defnyddio’r rhestr lawn o gwestiynau ymgynghori, nodwch yr un rhifau wrth ochr eich ymatebion.
- Bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel arfer yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ar gael i unrhyw un eu gweld ac efallai hefyd y cânt eu trafod mewn cyfarfodydd pwyllgor. Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb neu eich enw, mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn yn glir fel rhan o’ch cyflwyniad.
Rhowch wybod i ni os ydych yn ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn.