Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Pwyllgor Cynulliad am glywed barn y cyhoedd am gynigion ar gyfer Mesur i sefydlu rôl statudol ar gyfer Comisiynydd Safonau

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Pwyllgor Safonau ymgynghoriad ar ei fwriad i gynnig Mesur Cynulliad i sefydlu swydd Comisiynydd statudol ar gyfer Safonau. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, mae’r pwyllgor wedi cytuno ar eiriad ei Fesur arfaethedig ddrafft ac mae’n ymgymryd â chyfnod ymgynghori pellach.  

Hoffai’r pwyllgor glywed barn pawb sydd â diddordeb o ran:

  • a ydynt yn cefnogi’r prif ddarpariaethau a nodir yn y Mesur arfaethedig  
  • a ydynt yn credu bydd y Mesur Cynulliad arfaethedig yn cyflawni ei ddiben a’i amcan cyffredinol
  • a ydynt yn credu bod yr amcangyfrif o gostau y cyfeirir ato yn y Memorandwm Esboniadol yn gywir
  • a oes darpariaethau pellach yr hoffent eu gweld yn cael eu hychwanegu i’r Mesur Cynulliad arfaethedig

Mesur Arfaethedig ddrafft ar Gomisiynydd Safonau (PDF 134KB)

Mesur Arfaethedig ddrafft ar Gomisiynydd Safonau - Memorandwm Esboniadol  (PDF 840KB)

Os ydych am ymateb i’r ymgynghoriad, dylech anfon cyflwyniadau, yn electronig drwy e-bost neu ar ddisg os yn bosibl, neu ar ffurf copi caled fel arall at:

Catherine Hunt
Gwasanaeth y Pwyllgorau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Ebost: Standards@wales.gsi.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw Dydd Mercher 31 Rhagfyr 2008.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar wefan y Cynulliad yn www.cynulliadcymru.org