Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 4 Gorffennaf 2007 i ystyried y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 3) 2007, ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed, ac i gyflwyno adroddiad arno.

Bydd y Pwyllgor yn dod i ben pan gaiff y Gorchymyn drafft perthnasol ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog 22.31.