Datblygiad ymchwiliadau gan Bwyllgorau Craffu
Mae Pwyllgorau'r Cynulliad yn cynnal ymchwiliadau ar amrywiaeth o bwnciau sy'n effeithio ar bobl Cymru. Fel arfer, mae'r Pwyllgorau yn cynhyrchu adroddiad sy'n cynnwys argymhellion polisi i llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol neu gyrff eraill.
Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau wedi cynhyrchu'r tabl isod sy'n crynhoi statws pob ymchwiliad gan Bwyllgorau'r Trydydd Cynulliad.
Ymchwiliadau cyfredol | Ymchwiliadau wedi'u cwblhau
| Pwyllgor | Ymchwiliad | Statws |
| Y Pwyllgor Archwilio | Trais ac ymddygiad ymosodol yn y GIG | Paratoi'r adroddiad |
| Gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru | Sesiynau casglu tystiolaeth | |
| Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc | Cyllidebu ar gyfer plant | Paratoi'r adroddiad |
| Ymchwiliad manwl i roi plant mewn gofal yng Nghymru | Ymgynghoriad | |
| Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant | Hyrwyddo celfyddydau a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd | Paratoi'r adroddiad |
| Darlledu | Paratoi'r adroddiad | |
| Gyfiawnder ieuenctid | Ymgynghoriad | |
| Y Pwyllgor Menter a Dysgu | Gyfraniad economaidd addysg uwch | Cyhoeddwyd yr adroddiad interim ar 21/01/09 Paratoi'r adroddiad terfynol |
| Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Priffyrdd a Thrafnidiaeth) 2009 | Gosod y GCD arfaethedig ar 10/06/09 | |
| Cefnffyrdd a lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu’u hanafu mewn damweiniau | Paratoi'r adroddiad | |
| Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal | Gwasanaethau cynnal a chadw’u cartrefi a gwasanaethau addasiadau ar gyfer pobl hyn | Sesiynau casglu tystiolaeth |
| Y Mesur Cydraddoldeb | Sesiynau casglu tystiolaeth | |
| Gwahaniaethu yn erbyn pobl hyn ym myd cyflogaeth | Cau’r ymgynghoriad | |
| Y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol | Polisi cydlyniant | Sesiynau casglu tystiolaeth |
| Hawliau cleifion yng ngofal iechyd trawsffiniol | Paratoi'r adroddiad | |
| Y Pwyllgor Cyllid | Ymchwiliad i grantiau addysg | Paratoi'r adroddiad |
| Ymchwiliad i ariannu seilwaith ffyrdd | Sesiynau casglu tystiolaeth | |
| Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol | CAFCASS Cymru | Paratoi'r adroddiad |
| Gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol | Paratoi'r adroddiad | |
| Yr Is-Bwyllgor Datblygu Gwledig | Sesiynau casglu tystiolaeth | |
| Y Pwyllgor Cynaliadwyedd | Leihau allyriadau carbon yng Nghymru | Cyhoeddir adroddiad cyntaf ym Mawrth 2008 Cyhoeddir ail adroddiad ym Mawrth 2008 Cyhoeddir trydydd adroddiad ym Ebrill 2009 Cyhoeddir pedwerydd adroddiad ym Mai 2009 |
| Hafan llifogydd | Sesiynau casglu tystiolaeth |
Gellir cofrestru ar wefan y Cynulliad i dderbyn e-byst hysbysu pan fo tudalennau ni wedi eu diweddaru, a phan fo cyhoeddiadau newydd ar gael.
Dylai pobl sydd angen fformat arall i'r rhain sydd ar gael ar y wefan hon i weld y ffeiliau gysylltu â ni. Byddem yn gwneud ein gorau i gwrdd â'ch anghenion.
Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd i Aelodau'r Cynulliad unigol, eu staff a Phwyllgorau'r Cynulliad. Am ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth a'n gwaith ymchwil, fel Papurau byr, HysbysiadauHwylus, Nodiadau tracio pwerau'r Cynulliad a Phapurau ymchwil, ewch at ein tudalennau ar y wefan yma.