Deisebau annerbyniadwy

Dyma rhestr o'r deisebau annerbyniadwy
Inadmissible Petitions
Dyddiad Teitl Geiriad y ddeiseb Rheswm Camau a gymerwyd
Mawrth 2008 Deddf Iaith Gymraeg Roedd y ddeiseb yn cyfeirio at dystiolaeth a roddwyd gan dyst arbenigol yn y llys yn awgrymu y gallai addysg cyfrwng Cymraeg, o dan rai amgylchiadau, amharu ar allu plentyn i ddysgu. Roedd y ddeiseb yn galw am ymchwiliad i hyn yng nghyd-destun canllawiau a gynhyrchwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Ymwneud â thystiolaeth wedi ei rhoi yn y Llysoedd

Deisebwr wedi ei hysbysu

Chwefror 2008

Cymdeithas Preswylwyr Trefforest

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn eich bod chi Rhondda Cynon Taf ynghyd â’r Adran Briffyrdd ac Isffyrdd a Phrifysgol Morgannwg yn ymchwilio i’r broblem ddifrifol iawn o barcio yn ein pentref, problem y gwyddoch amdani ers blynyddoedd lawer ond eich bod wedi dewis ei hanwybyddu; mae’n broblem aruthrol sy’n effeithio ar bawb yn ardal Trefforest.

Penderfyniad awdurdod lleol.

Wedi ei danfon i’r awdurdod lleol am ystyriaeth.

Mawrth 2008

Deiseb i anrhydeddu Jan Morris

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol anrhydeddu Jan Morris am ei gyrfa nodedig fel awdures a’i hymdrechion i greu dealltwriaeth well o Gymru ledled y byd.

Heb ei ddatganoli

Y deisebwr wedi’i hysbysu.  Deiseb newydd wedi’i chyflwyno gyda geiriad derbyniol.

Chwefror 2008

Enw Ysgol Betws

Nid yw’r union eiriad ar gael.

Penderfyniad awdurdod lleol

Anfonwyd at yr awdurdod lleol am sylw.

Mai 2008

Cyfleusterau hamdden yng Nghastell – nedd Port Talbot

Roedd y ddeiseb yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i fuddsoddi mwy o arian mewn cyfleusterau hamdden yn y rhannau mwy anghysbell o Sir Castell Nedd Port Talbot.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu a’r penderfyniad wedi’i egluro iddo gyda’r awgrym bod y deisebwyr yn cysylltu â’r awdurdod lleol.

Mai 2008

Gorsaf tân Rhydaman

Deiseb ynghylch adleoli injan dân o Rydaman i orsaf newydd yng Nghwm Aman Uchaf.

Penderfyniad awdurdod lleol

Anfonwyd at yr awdurdod tân lleol am ystyriaeth.

Mai 2008

Lloches bws

Nid yw’r union eiriad ar gael.

Penderfyniad awdurdod lleol

Anfonwyd at yr awdurdod tân lleol am ystyriaeth.

Mai 2009

Oed Gyrru

Nid yw’r union eiriad ar gael.

Heb ei ddatganoli

Y deisebwr wedi’i hysbysu a’r penderfyniad wedi’i egluro iddo, gyda’r awgrym bod y deisebwyr yn cysylltu â’u Haelod Seneddol lleol i gael mynediad at system Seneddol y DU.

Gorffennaf 2008

Llwybr beiciau yn Adpar

Galw am lwybrau troed a beicio mwy diogel yn yr ardal o gwmpas Adpar.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu a’r penderfyniad wedi’i egluro iddo.

Gorffennaf 2008

Gorlifdir Sir Ddinbych

Y dylai Cyngor Sir Ddinbych roi moratoriwm llwyr ar unrhyw ddatblygiadau newydd, ac fel a gynigir yn y Cynllun Datblygu Lleol, yn ardal Prestatyn a Meliden, hyd nes y bydd yr adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi gan Syr Michael Pitt wedi’i fabwysiadu a’i weithredu.

Penderfyniad awdurdod lleol

Anfonwyd at yr awdurdod lleol am sylw.

Gorffennaf 2008

Tywysog Cymru

Gorfodi’r person a fydd yn etifeddu’r teitl Tywysog Cymru i ddysgu siarad a darllen Cymraeg yn rhugl.

Heb ei ddatganoli.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a’i gynghori i fynd â’r mater yn ei flaen mewn ffyrdd eraill.

Gorffennaf 2008

Maes Awyr Llanbedr

Cadw maes awyr Llanbedr AR AGOR ar gyfer y defnydd newydd bwriedig fel a ddynodir gan y perchnogion newydd arfaethedig. Cefnogwn ddefnyddio’r maes awyr ar gyfer hwyl yn hedfan ac i bwrpas cludiant awyr. Mae gwir angen hyn mewn ardal sydd wedi bod yn ddifywyd ers rhy hir.

Yn sylweddol debyg i ddeiseb arall a oedd yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau ar y pryd.

Y deisebwr wedi’i hysbysu.

Gorffennaf 2008

Tollau i fynd dros Bont Cleddau

Dileu’r taliadau toll i fynd dros Bont Cleddau oherwydd mai treth leol ar deithio i weithio, gwasanaethau meddygol a thwristiaeth ydynt.

Yn sylweddol debyg i ddeiseb arall a oedd yn hel llofnodion ar y pryd.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac wedi’i gyfeirio at yr e-Ddeiseb fyw i’w llofnodi.

Awst 2008

Cyfleusterau Cyhoeddus

Cymell Cyngor Gwynedd i roi’r gorau i’w benderfyniad i gau’r Cyfleusterau Cyhoeddus yn y pentrefi twristiaeth poblogaidd ym Mhorthdinllaen, Morfa Nefyn a Nefyn. Ar wahân i’r ffaith ei fod yn amwynder cyhoeddus sydd wirioneddol ei angen, mae’n wrthgynhyrchiol i ymdrechion Bwrdd Croeso Cymru i ddenu ymwelwyr i Gymru.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu ac arweiniad wedi’i roi iddo ar sut ellid gwneud geiriad y Ddeiseb yn gliriach.

Awst 2008

Cymryd hypotheiroidedd  a phroblemau theiroid ac yn y blaen o ddifrif

Mae problemau theiroid yn rhai gwasgaredig. Nid yw meddygon yn llwyddo i roi diagnosis cywir o gyflyrau theiroid i filoedd lawer o bobl. Ni ddylai Meddygon Teulu ddibynnu’n llwyr ar y prawf TSH ond ystyried arwyddion, symptomau a hanes teuluol hefyd wrth roi diagnosis. Dylai triniaeth arfwisg a chyfunol gyda T3 hefyd fod ar gael.

Yn sylweddol debyg i ddeiseb arall a oedd yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau ar y pryd.

Y deisebwr wedi’i hysbysu.

Awst 2008

Tîm Olympaidd Cymru

Helpu i sefydlu tîm i gynrychioli Cymru yn y Gemau Olympaidd.

Yn sylweddol debyg i ddeiseb arall a oedd yn hel llofnodion ar y pryd.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac wedi’i gyfeirio at yr e-Ddeiseb fyw i’w llofnodi.

Medi 2008

Cynnwys athletwyr Cymru ar restr y Gemau Olympaidd

Rwyf yn siwr bod llawer o athletwyr o Gymru wedi cystadlu yng Ngemau Olympaidd yr Haf yn 2008 ond eu bod wedi eu categoreiddio fel Saeson neu Brydeinwyr. Mae’r Gwyddelod wedi eu rhestru, pam ddim y Cymry?

Yn sylweddol debyg i ddeiseb arall a oedd yn hel llofnodion ar y pryd.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac wedi’i gyfeirio at yr e-Ddeiseb fyw i’w llofnodi.

Medi 2008

Protocol cyfeiriadau cod post

Cymell Cyngor Sir Powys i gyfeirio post a Galwadau i Dalu’r Dreth Gyngor gyda’r sir gywir, h.y. Powys, ac nid siroedd cyfagos, e.e. Sir Henffordd, lle mai "HR" yw’r cod post.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Medi 2008

Arfau Clwstwr

Rydym yn deisebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am ei gymorth i sicrhau bod y Llywodraeth ganolog yn llofnodi, cadarnhau a gwireddu Cytundeb Oslo, sy’n galw am wahardd arfau clwstwr, yn llawn. Mae hwn i fod i gael ei lofnodi yn Oslo ar 2-3 Rhagfyr 2008.

Mae amddiffyn yn fater nad yw wedi’i ddatganoli.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Hydref 2008

Gweithwyr yn y Ffatrioedd Ordinans Brenhinol

Yn galw am roi medal i’r rhai a fu’n gweithio yn y Ffatrïoedd Ordnans Brenhinol yn ystod yr ail ryfel byd.

Heb ei ddatganoli.

Y deisebwr wedi’i hysbysu ac arweiniad wedi’i roi iddo ar newid geiriad y Ddeiseb fel ei bod yn dderbyniol.

Hydref 2008

Cydnabod Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Yn galw am ddarparu cyllid i drin ADHD.

Achos personol.

Y deisebwr wedi’i hysbysu  a’r penderfyniad wedi’i egluro iddo, gyda’r awgrym bod y deisebwr yn cysylltu â’r Bwrdd Iechyd Lleol neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Tachwedd 2008

Meithrinfa Ddydd UWIC

Mae Meithrinfa Ddydd UWIC ar fin cau ym Mehefin 2009, ar ôl darparu’r gwasanaeth i fyfyrwyr a staff am 14 o flynyddoedd. Bydd hyn yn golygu mai UWIC fydd yr unig Brifysgol yng Nghymru heb gyfleusterau ar y safle.

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn teimlo bod hwn yn wasanaeth hollbwysig sy’n diwallu anghenion myfyrwyr a staff, sy’n rhoi tawelwch meddwl ac yn golygu y medrant fod wrth law mewn argyfwng wrth iddynt ddilyn cyrsiau a gwneud eu gwaith.

Mae’r penderfyniad hwn yn groes i bolisïau cyfle cyfartal ac ehangu mynediad UWIC a hefyd ei Fframwaith Moeseg diweddar. Helpwch ni da chi yn ein cais i newid y penderfyniad hwn.

Heb ei ddatganoli

Y deisebwr wedi’i hysbysu a’r penderfyniad wedi’i egluro iddo.

Rhagfyr 2008

Cyflog cyfartal i ysgol ffydd amser cinio

Yn galw am i oruchwylwyr amser cinio mewn ysgolion ffydd a gyflogir gan Gyngor Rhondda Cynon Taf i gael codiadau cyflog yn unol ag aelodau eraill o staff ysgol yr awdurdod lleol.

Heb ei ddatganoli

Y deisebwr wedi’i hysbysu a’r penderfyniad wedi’i egluro iddo, gyda’r awgrym bod y deisebwr yn cysylltu â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Rhagfyr 2008

Stryd Hughes, Penygraig

Deiseb yn galw i droi tenantiaid cyngor allan o’u tai am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Heb ei ddatganoli

Y deisebwr wedi’i hysbysu a’r penderfyniad wedi’i egluro iddo, gyda’r awgrym bod y deisebwr yn cysylltu â Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Ionawr 2009

Cartref Gofal Bryneithin

O ganlyniad i ymarfer gwerthuso gan y Cyngor, bydd Cartref Gofal Preswyl Bryneithin, Ffordd St Andrews, Dinas Powys, efallai’n cael ei gau. Mae’r cartref EMI hwn sy’n cael ei redeg gan y cyngor yn cynnig gofal ac ansawdd bywyd rhagorol i’r preswylwyr sydd i gyd yn dioddef o Glefyd Alzheimer neu fathau eraill o ddementia. Mae angen i’r cyngor wario ar Fryneithin i’w gael i fyny i’r statws rheoleiddio er mwyn iddo aros ar agor. Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn ymbil ar y cyngor i gadw Bryneithin ar agor oherwydd ni allwn fforddio â cholli’r gwasanaeth gofal gwych hwn i’n pobl hyn.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu ac wedi’i gynghori i fynd â’r mater at yr awdurdod lleol.

Chwefror 2009

Refferendwm ar Annibyniaeth

Y dylai unrhyw refferendwm yn gofyn a ddylai Cymru fod yn annibynnol neu beidio fod angen pleidlais ie gan 95 y cant o’r etholwyr.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â phwerau dros y system refferendwm yng Nghymru.  

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Mawrth 2009

Clampio olwynion gan gwmnïau preifat

Cynigiaf fod yr amser wedi dod i roi’r gorau i’r arfer o glampio / tynnu olwynion gan gwmnïau clampio preifat a chodi ffioedd rhyddhau gormodol yng Nghymru.

Hoffwn weld y cwmnïau clampio preifat hyn yn cael eu hatal rhag clampio / tynnu olwynion ar seiliau preifat a chyhoeddus – ac mai dim ond yr heddlu ac awdurdodau lleol ddylai fod â’r hawl i orfodi’r gyfundrefn barcio mewn mannau cyhoeddus. Mae’r rhan fwyaf o’r cwmnïau hyn yn gweithredu o fewn y gyfraith ond drwy godi taliadau cosb annuwiol o uchel ar berchnogion cerbydau, credaf nad ydynt yn cadw o fewn ysbryd y gyfraith a’u bod mewn gwirionedd yn manteisio ar y gyfraith i’w helpu i ddwyn oddi ar y bobl gyffredin. Mae’r arfer yma’n anghyfreithlon yn yr Alban a hoffwn weld Cymru’n dilyn esiampl yr Alban ac yn gwahardd yr arfer troseddol hwn.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â phwerau dros glampio olwynion gan gwmnïau preifat.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Mawrth 2009

Profion ar anifeiliaid

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod:

Am weld pob eitem a gynhyrchwyd yn y DU yn nodi’n glir a gawsant eu profi ar anifeiliaid neu beidio.

Am weld cwmnïau’n nodi ar eu cynhyrchion os ydynt yn defnyddio trydydd parti i brofi eu cynhyrchion neu gynhwysion.

Yn credu ei bod yn anghywir camarwain y prynwr drwy beidio â nodi a ydynt yn profi ar anifeiliaid neu beidio.

Heb ei ddatganoli. Cyfrifoldeb yr Undeb Ewropeaidd yw rheoli labelu.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Mai 2009

Swyddfa’r Post Waunfawr

Deiseb ynghylch cau swyddfa’r post.

Heb ei ddatganoli.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Awst 2009

Cadw Ysgol Capel Dewi ar agor

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn deisebu Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi’r gorau i’r penderfyniad i gau Ysgol Capel Dewi ger Llandysul, Ceredigion.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Medi 2009

Tîm pêl-droed Cymru

Mae’n chwerthinllyd bod cannoedd o filoedd o bobl o bob cwr o Gymru wedi methu â gwylio’r gêm rhwng Cymru a Rwsia heno am nad oes ganddynt fynediad at deledu Sky. Nod y ddeiseb hon yw sicrhau bod y Cynulliad yn ceisio pasio deddfwriaeth fydd yn gwarantu y gall pawb wylio’r gemâu hyn ar deledu digidol heb danysgrifiad.  Ni all pob cefnogwr pêl-droed fforddio â theithio i’r wlad lle cynhelir y gêm, ac mae’n annheg eu bod yn colli allan drwy beidio â gallu ei gwylio. Dylai’r sylwebaeth a’r cyflwyniad drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd gael yr un faint o amser ar yr awyr a dylid cynnwys hyn yn y cytundeb.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â phwerau dros ddarlledu.

Y deisebwr wedi’i hysbysu a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen

’.

Tachwedd 2009

Ymbil i wahardd hylifau gwrth-rewi peryglus

Yng Nghymru’n unig, mae anifeiliaid diniwed yn marw mewn poen pob dydd, o ganlyniad uniongyrchol i lyncu hylifau gwrth-rewi. Mewn un stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig, mae mwy nag ugain o gathod wedi marw o ganlyniad i wenwyno bwriadol.

Yn anffodus mae blas melys ar hylif gwrth-rewi ac mae cathod yn enwedig yn cael eu denu ato.  

Mae dim ond un llond llwy de o hylif gwrth-rewi, os caiff ei lyncu gan anifail, yn achosi cyfogi, ffitiau a methiant yr iau. Mae milfeddygon yn gweld mwy a mwy o’r achosion hyn. Ni fyddai’r marwolaethau hyn yn digwydd pe bai cynhwysyn chwerw’n cael ei ychwanegu at yr hylif gwrth-rewi.

Rydym felly’n deisebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu ar hyn. Credwn y dylai gwneuthurwyr hylifau gwrth-rewi gael eu gorfodi’n gyfreithiol i ychwanegu cynhwysyn chwerw fel bod anifeiliaid yn cadw draw ohono.

Heb ei ddatganoli. Mae’r rheolau ar hylifau gwrth-rewi yn dod o dan Reoliad y Comisiwn Ewropeaidd ar Gofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH).

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Tachwedd 2009

Normaleiddio codau post yng Nghymru

Dylai’r Gweinidog dros Ddiwylliant lobio’r Post Brenhinol i newid y Cod Post fel ei fod yn parchu ffiniau tiriogaethol Cymru. Yn enwedig:

byddai codau post yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gyda chod post CH (Caer) yn cael eu newid i gael cod post FL (Sir y Fflint);

byddai codau post yn y Canolbarth gyda chod post SY (Amwythig) yn cael eu newid i gael cod post LD (Llandrindod);

byddai mân newidiadau eraill yn cael eu gwneud i godau post CH (Caer), LD (Llandrindod), HR (Henffordd); a NP (Casnewydd) er mwyn parchu’r ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Nid yw hyn o fewn cylch gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Y Post Brenhinol sy’n gwneud penderfyniadau ar godau post.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Tachwedd 2009

Mae angen mwyafrif o chwedeg y cant i newid y gyfraith ar ddiwygio’r cyfansoddiad

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddeisebu’r Llywodraeth ganolog i newid y gyfraith ar refferendwm cyfansoddiadol yng Nghymru fel bod llwyddo’n gofyn cael mwyafrif o 60 y cant o’r etholwyr yn dweud ie yn hytrach na mwyafrif syml fel ar hyn o bryd.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â phwerau dros y system refferendwm yng Nghymru.  

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Tachwedd 2009

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn credu y dylid dileu’r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith.

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn credu y dylid diddymu’r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith oherwydd nad yw’n ddim mwy na siop siarad ddrud.

Mae’r Cynulliad wedi methu â gwella ansawdd bywyd pobl Cymru. Mae’r arbrawf 10 mlynedd wedi bod yn fethiant.

Credwn y dylai’r llywodraeth ganolog ddatganoli pwerau yn briodol i awdurdodau lleol, gan roi gwir rym i’r bobl leol. Credwn mai haen ddiangen arall o lywodraeth yw’r Cynulliad, sy’n ychwanegu at y baich biwrocrataidd.


Credwn fod cost rhedeg y Cynulliad yn ormodol, o gofio bod rhai o’r ardaloedd tlotaf ym Mhrydain yng Nghymru.


Mae tlodi ymhlith plant a phensiynwyr wedi cynyddu’n ddramatig dros y 10 mlynedd diwethaf yng Nghymru. Mae’r Cynulliad wedi methu â chynnig atebion i broblemau cymdeithasol ac economaidd difrifol ledled Cymru.

Byddai datganoli gwirioneddol yn rhoi grym i’r bobl leol nid i gynghorwyr tref mawreddog ar 100k y flwyddyn, o’r golwg o weddill Cymru mewn bloc swyddfa modern yng Nghymru.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â phwerau dros setliad datganoli Cymru.

Y deisebwr wedi’i hysbysu a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Tachwedd 2009

Addysg a therfynau amser afresymol

Hoffwn i’r Cynulliad Cenedlaethol edrych ar y ddeiseb hon a helpu i ddatrys y mater. Tynnwyd fy sylw fel myfyriwr lefel A yng Nghymru at y ffaith fod terfynau amser a chyfyngiadau amser ar waith yn afresymol. Er y disgwylir inni astudio 3 pwnc lefel A o leiaf a chadw at y terfynau amser hyn tra’n cadw’r un safon waith ym mhob un o’r pynciau a ddewiswn, rwyf i a chyn-fyfyrwyr yn ei chael yn anodd cadw atynt. Credaf y byddai myfyrwyr ar eu hennill yn fawr pe byddent yn cael mwy o amser. Oherwydd fy mod wedi sefyll fy arholiadau TGAU yn ddiweddar, teimlaf fod y naid o hynny i lefel A yn ormod. Disgwylir inni wneud llawer iawn o waith mewn cyfnod byr sy’n golygu bod yn rhaid inni wneud llawer ohono yn y cartref i gadw at y terfynau amser. Credaf fod gorfod gweithio’r holl adref yn ormod i unigolyn. Ar ran myfyrwyr a fyddech gystal ag ailystyried y terfynau amser ar gyfer aseiniadau gwaith. Diolch yn fawr.

Nid yw hyn o fewn cylch gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  Cyfrifoldeb ysgolion ac athrawon unigol yw penderfyniadau ynghylch aseiniadau a therfynau amser.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Tachwedd 2009

Ail-alw aelodau o’r Cynulliad

Rydym yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gyflwyno system o ail-alw aelodau o’r Cynulliad am fethu â chyflawni eu dyletswydd cyhoeddus mewn unrhyw swydd gyhoeddus, neu tuag at eu hetholwyr, ac nid yn unig am gam-hawlio eu treuliau.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â phwerau dros setliad datganoli Cymru.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Tachwedd 2009

Parcio i breswylwyr yn Grove Road, Risca

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i orfodi cynllun parcio i breswylwyr ar hyd Grove Road, Risca.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a manylion cyswllt yr awdurdod lleol perthnasol wedi eu rhoi iddo.

Rhagfyr 2009

Cau’r ganolfan prawf gyrru yn y Barri.

Dim geiriad ond yn gofyn am arweiniad ar yr egwyddor gyffredinol a fyddai’n dderbyniol neu beidio.

Heb ei ddatganoli. Cyfrifoldeb yr Awdurdod Safonau Gyrru, sy’n un o asiantaethau gweithredol yr Adran Drafnidiaeth, yw pwerau dros ganolfannau prawf gyrru.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Rhagfyr 2009

Atal cwlio moch daear yn Sir Benfro

Mae’r wyddoniaeth yn amlwg yn dangos na fyddai cwlio moch daear yn gweithio. Brechu yw’r ffordd ymlaen.

Yn sylweddol debyg i ddeiseb arall a gafodd ei chau’n ddiweddar gan y Pwyllgor Deisebau.

Y deisebwr wedi’i hysbysu a chyngor wedi’i roi iddo ar ail-eirio’r ddeiseb.

Ionawr 2010

Ymgyrch i gael cynllun sgrapio boeleri

Mae’r Adroddiad Cyn y Gyllideb, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn cynnwys cynllun sgrapio boeleri gan Reheat Britain. O dan y cynllun, byddai 125,000 o aelwydydd yn gallu hawlio £400 i brynu boeler newydd yn lle rhai gradd G. Ond eto, dim ond i Loegr y bydd hyn yn berthnasol. Gofynnwn fod y Cynulliad yn mabwysiadu cynllun tebyg ar gyfer aelwydydd yng Nghymru.

Yn sylweddol debyg i ddeiseb arall a oedd yn hel llofnodion ar y pryd.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac wedi’i gyfeirio at yr e-Ddeiseb fyw i’w llofnodi.

Ionawr 2010

Cyflwyno Cynllun Sgrapio Boeleri

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno ’Cynllun Sgrapio Boeleri’ i helpu Cymru i gwrdd â’i hymrwymiadau i leihau CO2 ac i helpu gwneuthurwyr a gosodwyr boeleri i oroesi’r dirwasgiad.

Yn sylweddol debyg i ddeiseb arall a oedd yn hel llofnodion ar y pryd.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac wedi’i gyfeirio at yr e-Ddeiseb fyw i’w llofnodi.

Chwefror 2010

Cael siop yng Ngwernaffield

Rwyf eisiau siop ym mhentref Gwernaffield oherwydd dim ond tafarn sydd gennym a ’nunlle i brynu bwyd, mae’r siop agosaf yn y pentref nesaf.

Nid yw hyn o fewn cylch gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Chwefror 2010

Ceisiadau i Ddynodi tir yn Dir Grîn mewn Pentrefi

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu’r rheolau ar benderfynu ceisiadau i ddynodi tir yn dir grîn pentref drwy mai’r Awdurdod Lleol nid yn unig yw’r corff sy’n penderfynu ceisiadau dynodi ond hefyd yn: a) y perchennog, neu’n b) cefnogi cynlluniau i ailddatblygu tir sydd o fewn ei reolaeth neu berchnogaeth.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â phwerau dros dir comin.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Chwefror 2010

Dim cwlio moch daear yng Nghymru

Ar 13 Ionawr 2010 cadarnhaodd Lywodraeth y Cynulliad ei bwriad i gychwyn cwlio moch daear mewn Ardal Beilot Gweithredu Dwys o gwmpas gogledd Sir Benfro. Credwn nad yw’r wyddoniaeth o blaid cwlio moch daear ac na fyddai cwlio’n gwneud unrhyw gyfraniad ystyrlon at reoli TB mewn gwartheg. Gwrthwynebwn y cynlluniau i gwlio moch daear. Cefnogwn ddatblygu brechiad ar gyfer moch daear. Dymunwn ddangos y gwrthwynebiad cynyddol i’r bwriad hwn.

Yn sylweddol debyg i ddeiseb arall a gafodd ei chau’n ddiweddar gan y Pwyllgor.

Y deisebwr wedi’i hysbysu a chyngor wedi’i roi iddo ar ail-eirio’r ddeiseb.

Chwefror 2010

Diffodd  goleuadau traffig

Gydag unigolion ledled y byd yn cael eu hannog i gymryd mesurau i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd: pam nad yw cynghorau lleol yn arwain drwy esiampl? Profwyd nad oes bob amser angen goleuadau traffig: yn ystod y gwaith i agor yr unedau adwerthu newydd ar hyd yr A437 ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth y gyffordd â’r A48, nid oedd unrhyw oedi pan gafodd y goleuadau traffig eu diffodd am sbel hir, hyd yn oed ar adegau prysur iawn. Mae yno gylchfan yn barod, nid oes angen goleuadau traffig hefyd. Da chi llofnodwch y ddeiseb hon i gael gwared ar y goleuadau traffig hyn, neu o leiaf i’w diffodd ar adegau trydan drytach.

Mater awdurdod lleol.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a manylion cyswllt yr awdurdod lleol perthnasol wedi eu rhoi iddo.

Mawrth 2010

Comisiwn Cynllunio Seilwaith

Cwango yw’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith a sefydlwyd gan Lywodraeth San Steffan, gydag awdurdodaeth yng Nghymru. Ei gylch gwaith yw gwneud penderfyniadau ar ’brosiectau seilwaith cenedlaethol bwysig ledled Cymru a Lloegr’. Oherwydd bod cynllunio wedi cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, rydym ni y deisebwyr o’r farn bod gorfodi’r cwango hwn ar bobl Cymru yn annemocrataidd ac yn tanseilio’r broses gynllunio. Gofynnwn i’r Pwyllgor Deisebau ymchwilio i weld a oes gan San Steffan y pwer i orfodi’r Comisiwn (IPC) ar y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru.

Mater heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â phwerau dros yr IPC.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Mawrth 2010

Hawliau Dynol yng Nghymru

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn deisebu Prif Weinidog Cymru: i adael i Lywodraeth Cymru ymchwilio i’r troseddau yn erbyn dynoliaeth a gyflawnwyd tuag at ddiwedd y rhyfel rhwng Llywodraeth Ynys Môn a’r carcharorion gwleidyddol a elwid yn Anglesey 2 ac ar ôl i’r rhyfel orffen pan ddaeth y troseddau yn erbyn hawliau dynol i’r amlwg.

Nid yw hyn o fewn cylch gwaith y Cynulliad Cenedlaethol.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Mawrth 2010

Achub un o gyrsiau ffilm ac ystafell dywyll olaf y wlad yng Nghanolfan Addysg Oedolion Howardian.

Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu cau’r ystafell dywyll yn Howardian o’r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen. Bydd hyn yn golygu cau’r holl gyrsiau ffotograffiaeth ffilm a gynhelir yno a bydd yr holl diwtoriaid rhagorol ac ysbrydoledig yn colli eu swyddi. Bydd yn golled drist i’r gymuned gelfyddydau yng Nghaerdydd a daw ar adeg o ddiddordeb newydd mewn ffotograffiaeth ffilm gan y gymuned gelfyddydau ledled y wlad.

 

Mater awdurdod lleol.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a chyngor wedi’i roi iddo ar ail-eirio’r ddeiseb ynghyd â gwybodaeth am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Mawrth 2010

Awdurdodau lleol yn camddefnyddio eu pwerau gorfodi

Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Gogledd Cymru, wedi cyflwyno hysbysiad gorfodi yn anghyfreithlon gan achosi busnes i fod yn gwbl ddiwerth; nid oes copi o’r hysbysiad gorfodi hwn ar gael ond eto mae’r Cyngor Sir yn mynnu bod yr hysbysiad gorfodi wedi cael ei gyflwyno i’r perchnogion. Mae perchnogion y busnes yn mynnu bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r weithred anghyfreithlon hon.

Mater awdurdod lleol.  

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Ebrill 2010

Cartref Gofal Bryneithin

Dim geiriad ond yn gofyn am arweiniad ar yr egwyddor gyffredinol a fyddai’n dderbyniol neu beidio.

Mater awdurdod lleol.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac arweiniad wedi’i roi ar sut i wneud geiriad y ddeiseb yn gliriach a pha atebion y gellid eu cynnig i’r mater yn benodol.

Mai 2010

Cynnig i sefydlu Ysgol Ddawns Alwedigaethol gyntaf Cymru

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw Ysgolion Dawns Galwedigaethol (Bale na mathau eraill o ddawns) i blant ifanc talentog eu mynychu. O’r herwydd, mae disgyblion a rhieni’n gorfod teithio i Loegr neu’n bellach fyth i gael clyweliad ac os derbynnir hwynt, mae’r myfyrwyr yn bell iawn o adref / neu mae’r ysgolion allan o’u cyrraedd yn ariannol. Cynigiaf y ddeiseb hon i godi ymwybyddiaeth y Llywodraeth unwaith eto o’r broblem hon a’i bod yn datblygu cynllun o fewn y 10-15 mlynedd nesaf i greu ac agor ysgol Ddawns / Bale Alwedigaethol gyntaf Cymru, neu os na fyddai hyn yn bosibl, y dylai Cynulliad Cymru helpu i godi ymwybyddiaeth y llywodraeth ganolog i hybu ac ariannu dawns ar draws y wlad.

Mater awdurdod lleol –  awdurdodau addysg lleol sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch sefydlu ysgolion newydd.

Arweiniad wedi’i roi i’r deisebwr ar ddiwygio geiriad y ddeiseb fel ei gellid ei derbyn.

Mai 2010

Achub y Mochyn Daear

Achub moch daear rhag cael eu cwlio yn Sir Benfro.

Yn sylweddol debyg i ddeiseb arall a oedd yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau ar y pryd.

Y deisebwr wedi’i hysbysu.

Mehefin 2010

Powys Fadog

Dim geiriad ond yn gofyn am arweiniad ar yr egwyddor gyffredinol a fyddai’n dderbyniol neu beidio.

Nid yw hyn o fewn cylch gwaith y Cynulliad Cenedlaethol. Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am gwynion ynghylch camweinyddu.

Arweiniad wedi’i roi i’r deisebwr ar roi’r mater gerbron yr Ombwdsmon. Cysylltwyd gyda’r Ombwdsmon a rhoddwyd arweiniad.  

Mehefin 2010

Dweud na i’r bwriad i gau Ysgol Rhiwfawr

Mae plant, rhieni, athrawon a chymuned Rhiwfawr yn gwrthwynebu bwriad Awdurdod Addysg Lleol Castell Nedd a Chyngor Port Talbot i gau Ysgolion Rhiwfawr.

Penderfyniad awdurdod lleol

Arweiniad wedi’i roi i’r deisebwr ar ddiwygio geiriad y ddeiseb fel ei gellid ei derbyn.

Mehefin 2010

Awyrennau’n hedfan yn isel

Rydym yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ofyn am sicrwydd gan Lywodraeth San Steffan y bydd yn rhoi’r gorau ar unwaith i ddefnyddio’r cymoedd poblog yng ngogledd a chanolbarth Cymru ar gyfer ymarferion hedfan yn isel o dan oruchwyliaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn, sy’n peryglu iechyd a diogelwch y cyhoedd.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod yn gyfrifol am bwerau dros amddiffyn ac effaith ehangach hedfan yn isel ar yr amgylchedd.

Y deisebwr wedi’i hysbysu a’i gynghori i gyfeirio’r mater at y Tai Seneddol.

Gorffennaf 2010

Dileu’r Taliadau Parcio Canol Tref gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw am adolygiad ar unwaith ac am ddileu’r taliadau parcio afrealistig yng nghanol trefi a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf yn 2009.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a manylion cyswllt yr awdurdod lleol perthnasol wedi eu rhoi iddo.

Gorffennaf 2010

Gordaliadau ar hedfan ym Maes Awyr Caerdydd

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymchwilio i’r rheswm pam fod trethi a thaliadau ar hedfan o faes awyr Caerdydd yn dra gwahanol o ran pris i rai o faes awyr Bryste, er anfantais i bobl Cymru. 1. Mae rheswm economaidd dros leihau’r taliadau hyn. 2. Mae rheswm amgylcheddol o ran atal pobl rhag teithio o feysydd awyr eraill, a 3. Drwy leihau’r taliadau hyn gellid hefyd cynyddu twristiaeth a hynny er lles i Gymru. 4. Gallai hefyd annog mwy o gwmnïau hedfan cost isel i fabwysiadu Caerdydd ac annog cystadleuaeth, a hynny er lles pobl Cymru.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â’r pwerau dros y polisi ar hedfan.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Gorffennaf 2010

Senedd Geltaidd

Creu Senedd Geltaidd sy’n amddiffyn buddiannau Cymru / yr Alban / Gogledd Iwerddon / Cernyw. Oherwydd bod y diwylliant Celtaidd mewn perygl o gael ei ddileu gan ideoleg Dorïaidd a phleidiau prif ffrwd eraill.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â’r pwerau dros ddatganoli.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Gorffennaf 2010

Gwrando ar Dystiolaeth Gyhoeddus a Gwyddonol a chyflwyno Brechiadau yn lle cwlio moch daear

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod gwrando ar bobl Cymru ac wedi dewis a didol tystiolaeth wyddonol sy’n ei siwtio hi. Mewn gwlad ddemocrataidd, mae’r llywodraeth yn anwybyddu ein barn yn barhaus a rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn ichi adolygu’r polisi presennol a chanolbwyntio ar ddulliau ffermio a brechu ac nid ar ladd rhywogaeth frodorol yn ddiwahân.

Roedd y Pwyllgor eisoes yn ystyried deiseb ynghylch cwlio moch daear.

Y deisebwr wedi’i hysbysu ynghylch y sefyllfa, a manylion ystyriaeth y Pwyllgor o’r ddeiseb gysylltiedig wedi eu rhoi iddo.

Gorffennaf 2010

Treganna/Tan yr Eos

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod gan ddisgyblion ysgol Treganna a Than yr Eos yng Nghaerdydd adeiladau parhaol o faint priodol ac adnoddau digonol cyn gynted ag y bo modd fel nad oes raid i’r disgyblion ddefnyddio safle gorlawn wedi’i rannu.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac arweiniad wedi’i roi ar wneud geiriad y ddeiseb yn gliriach fel y gellid ei hystyried.

Awst 2010

Amseroedd cario hyfyw ar gyfer babanod

Yr oedran cario hyfyw ar gyfer baban ar hyn o bryd yw 24 wythnos. Hoffem ni sydd wedi llofnodi isod weld yr oedran yma’n cael ei ostwng i 20 wythnos o leiaf. Hoffem hefyd weld POB baban (beth bynnag eu hoedran cario) yn cael tystysgrif geni / marwolaeth / marw-anedig. Ar y funud nid yw hyn yn bosibl ond ar gyfer babanod sy’n cael eu geni ar ôl oedran cario o 24 wythnos.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â’r pwerau dros embryoleg a chofrestru.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Awst 2010

Pwll nofio i breswylwyr Porthcawl a’r ardal gyfagos

Mae etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i lobio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wella’r cyfleusterau hamdden a mynediad at bwll nofio i breswylwyr Porthcawl a’r cylch. Rydym yn cydnabod y gallai fod yn amhriodol, yn y cyfnod ariannol anodd yr ydym ynddo, i’r Cyngor redeg pwll nofio. Fodd bynnag, o dan delerau adfywio Porthcawl, dylid gwahodd darparwyr hamdden preifat i dendro am bwll fel rhan o’r cynigion adfywio. Rydym wedi ymgynghori gyda’r cyhoedd ym Mhorthcawl ac mae tystiolaeth y byddai digon o alw a chefnogaeth i bwll nofio yn ardal Porthcawl. Hefyd, mae nifer o gymunedau llai poblog gyda mynediad at eu pwll eu hunain. Byddai pwll nofio’n gaffaeliad mawr i’r dref oherwydd gallai wella’r diwydiant twristiaeth yn y dref, creu gwaith a gwella iechyd a ffordd o fyw’r preswylwyr.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac arweiniad wedi’i gynnig ar wneud geiriad y ddeiseb yn gliriach fel y gellid ei hystyried.

Awst 2010

Amseroedd cario hyfyw ar gyfer babanod

Yr oedran cario hyfyw ar gyfer baban ar hyn o bryd yw 24 wythnos. Hoffem ni sydd wedi llofnodi isod weld yr oedran yma’n cael ei ostwng i 20 wythnos o leiaf. Hoffem hefyd weld POB baban (beth bynnag eu hoedran cario) yn cael tystysgrif geni / marwolaeth / marw-anedig. Ar y funud nid yw hyn yn bosibl ond ar gyfer babanod sy’n cael eu geni ar ôl oedran cario o 24 wythnos.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â’r pwerau dros embryoleg a chofrestru.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Awst 2010

Pwll nofio i breswylwyr Porthcawl a’r ardal gyfagos

Mae etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i lobio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wella’r cyfleusterau hamdden a mynediad at bwll nofio i breswylwyr Porthcawl a’r cylch. Rydym yn cydnabod y gallai fod yn amhriodol, yn y cyfnod ariannol anodd yr ydym ynddo, i’r Cyngor redeg pwll nofio. Fodd bynnag, o dan delerau adfywio Porthcawl, dylid gwahodd darparwyr hamdden preifat i dendro am bwll fel rhan o’r cynigion adfywio. Rydym wedi ymgynghori gyda’r cyhoedd ym Mhorthcawl ac mae tystiolaeth y byddai digon o alw a chefnogaeth i bwll nofio yn ardal Porthcawl. Hefyd, mae nifer o gymunedau llai poblog gyda mynediad at eu pwll eu hunain. Byddai pwll nofio’n gaffaeliad mawr i’r dref oherwydd gallai wella’r diwydiant twristiaeth yn y dref, creu gwaith a gwella iechyd a ffordd o fyw’r preswylwyr.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac arweiniad wedi’i gynnig ar wneud geiriad y ddeiseb yn gliriach fel y gellid ei hystyried.

th3Awst 2010

Plac ym Mrynaman Isaf

At sylw Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru – yng nghyswllt y plac a roddwyd ar y wal ger Stryd Canon ym Mrynaman Isaf. Talodd y Cynulliad am 80 y cant o gost y wal drwy grantiau’r cynllun adnewyddu tir. Dyluniodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot y plac a’i osod ar y wal.

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod am ddatgan ein siom a’n hanfodlonrwydd ynghylch y plac am ddau reswm yn arbennig:

1. Gan fod y Saesneg yn ymddangos uwchben y Gymraeg (mewn ardal Gymraeg ei hiaith a Chymreig ei diwylliant), teimlwn fod yr iaith Gymraeg wedi cael ei hisraddio a’i dibrisio.

2. Gofynnodd y preswylwyr i’r Tîm Adnewyddu osod y testun Cymraeg ar hanner ucha’r plac, fel bo’r Gymraeg yn cael ei lle teg ar y wal newydd. Fodd bynnag, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot wedi dewis anwybyddu eu cais a theimladau cryf y preswylwyr ar y mater hwn.

Er mwyn cywiro’r anghyfiawnder hwn, rydym yn gobeithio y gall y Cynulliad a’r Cyngor weithio gyda’i gilydd i ad-drefnu pedair llechen ddu y plac fel bo’r testun Cymraeg uwchben y Saesneg.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Medi 2010

Hawliau Dinasyddion Ewrop

Rydym yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i ymestyn proses Deiseb y Bobl fel bod unigolyn, neu mewn cysylltiad ag eraill, yn gallu cyflwyno deiseb, cwyn neu gais a allai fod yn fater o fudd cyhoeddus neu breifat / personol lle oedd Deddf Hawliau Dynol 1998 a / neu’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wedi eu torri. Gall y deisebwr gyflwyno cais, cwyn neu sylw unigol, gan gynnwys profiadau personol ynghylch sut y cymhwysir Deddf Cymru 2006 mewn perthynas â nhw’n uniongyrchol a byddai hefyd yn dod o dan gyfraith yr UE neu’r meini prawf ar gyfer deiseb i Senedd Ewrop i fabwysiadu safiad ar faterion Hawliau Dynol. Nid oes angen unrhyw bwerau ar ddeisebau o’r fath i roi cyfle i’r Pwyllgor Deisebau dynnu sylw at unrhyw achos lle oedd Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol neu sefydliad arall wedi tresbasu ar hawliau dinesydd Ewropeaidd.

Nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol y pwer i adnabod na datgan achosion o dresbasu ar hawliau dynol, cyfrifoldeb y farnwriaeth yw hyn.

Y deisebwr wedi’i hysbysu.  

Hydref 2010

Gwarchod ein hadeilad cymunedol a’n mannau gwyrdd

Efallai fod llawer yn anymwybodol o’r bwriad i droi’r ystafelloedd newid yn ganolfan dwristiaeth. Teimlwn yn gryf y dylid cadw’r adeilad o fewn y gymuned AC NID i bwrpas menter fasnachol. Mae gennym, Ganolfan Groeso (TIC) wych yn y pentref. Beth fyddai’n digwydd i honno pe bai’r ganolfan dwristiaeth yma’n cael ei hagor? Cafodd yr adeilad ei godi i bwrpas creu ystafelloedd newid i’r bobl leol, ac er nad oes gennym dîm pêl-droed ar hyn o bryd mae clybiau a chymdeithasau eraill a fyddai’n awyddus iawn i gael cyfle i ddefnyddio’r cyfleusterau cymunedol hyn, ond na chawsant gyfle hyd yma. Pe bai’r cyfleusterau hyn yn cael eu colli i fenter fasnachol, mae’n annhebygol y gellid talu am adeilad arall drwy ddod o hyd i arian cyhoeddus a mwy o roddion gan y gymuned. Da chi dangoswch eich cefnogaeth drwy lofnodi’r ddeiseb hon a’n helpu i atal yr adeilad rhag cael ei droi’n fusnes masnachol.

Penderfyniad gan yr awdurdod cynllunio lleol.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac arweiniad cyffredinol wedi’i roi ar wneud geiriad y ddeiseb yn gliriach fel y gellid ei hystyried, ynghyd â gwybodaeth am ffyrdd eraill o fynd â’r mater yn ei flaen.

Hydref 2010

Theatr Gwent

Er fy mod wedi symud i Ganada mae fy nheulu’n dal i fyw yng Nghymru. Mae gan y Cymry enw rhyngwladol am gefnogi eu treftadaeth a’u diwylliant. Drwy gau eich theatrau lleol fel mai’r teledu yw’r unig ’adloniant’ rydych yn dedfrydu cenedlaethau’r dyfodol i ddyfodol diwylliedig di-fflach.

Yn sylweddol debyg i ddeiseb arall a oedd yn hel llofnodion ar y pryd.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac wedi’i gyfeirio at yr e-Ddeiseb fyw i’w llofnodi.

Hydref 2010

Protestio yn erbyn cost addysg uwch

Mae cost addysg uwch yn rhy uchel. Dylid ei ostwng fel bod myfyrwyr yn gallu mynd i brifysgol heb fynd i ddyled sylweddol.

Yn debyg yn fras i ddeisebau eraill a oedd yn cael eu hystyried.

Arweiniad wedi’i roi i’r deisebwr ar wneud geiriad y ddeiseb yn gliriach, ac wedi’i gyfeirio at ddeisebau tebyg a oedd yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor.

Tachwedd 2010

Yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn credu bod tai bwyta Asiaidd ar draws y DU yn cyfrannu £3 biliwn at economi’r DU ac yn cyflogi dros 100,000 o bobl. Mae 1200 o dai bwyta Asiaidd yng Nghymru’n unig sy’n cyfrannu at economi Cymru a’r DU.

Mae’r deisebwyr yn credu bod y wlad yn gwahaniaethu yn erbyn tai bwyta Asiaidd ac yn galw am ymchwiliad i achosion eu cwyn.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â’r pwerau dros fewnfudo.  

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Tachwedd 2010

Cau Cartref Gofal Ceiriosen Bren

Cartref gofal ym mhentref Plwmp yw Ceiriosen Bren sy’n cael ei redeg gan gartrefi Inspiration Care yn groes i reolau cynllunio. Gwrthodwyd cynllunio yn 2009 ond anwybyddwyd hyn. Mae’r cartref yn gofalu am oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth mwyaf difrifol ynghyd ag ymddygiad troseddol, gan gynnwys dynion na ellir eu cartrefu oherwydd eu hymddygiad a’r lefel o niwed a gyflwynir ganddynt. Rwyf am weld Ceiriosen Bren yn cael ei gau a’i droi’n ôl yn ddefnydd domestig fel y cafodd ei godi’n ddiweddar ar ei gyfer. Rwyf yn llwyr gefnogi bod angen gofalu am bobl anabl ond maent yn cael eu hecsbloetio yn y cartref hwn gan Inspiration Care Homes er mwyn gwneud elw, pobl a oedd yn ddatblygwyr eiddo hyd at ddwy flynedd yn ôl ac a gododd yr eiddo hwn fel un o chwe chartref; yr unig reswm y mae’n gartref gofal yw eu bod wedi methu ei werthu. Da chi helpwch ni i adfer hawl preswylwyr Plwmp i fod yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain tra’n darparu cartref mewn adeilad a lleoliad priodol a gofal llawn i’r defnyddwyr gwasanaeth.

Mater awdurdod lleol.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Ionawr 2011

Atal y tollau annuwiol dros Bont Hafren

Yn Ionawr 2011 bydd y doll dros Bont Hafren yn codi i £5.70 (ceir). Mae hyn yn swm annuwiol i’w dalu am y fraint o groesi pont. Bydd y swm yn parhau i godi os na wnawn ni rywbeth i ddangos ein bod yn anfodlon parhau i dalu’r taliadau hyn! Da chi llofnodwch yn awr i ddangos eich diflastod.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â’r pwerau dros y gyfundrefn dollau dros Bont Hafren.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac wedi’i gyfeirio at ymchwiliad y Pwyllgor Materion Dethol Cymreig.

Ionawr 2011

Ymgyrch dros Ddemocratiaeth

Dau wahanol eiriad i’r ddeiseb wedi eu cyflwyno, ni ellir derbyn yr un o’r ddau:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno menter a system refferendwm yng Nghymru ar gyfer materion wedi eu datganoli, y system i’w seilio ar fodel o’r Swistir, fel sy’n cael ei gymell gan yr Ymgyrch dros Ddemocratiaeth.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeisebu’r Senedd i gyflwyno menter a system refferendwm yng Nghymru ar gyfer materion wedi eu datganoli, y system i’w seilio ar fodel o’r Swistir, fel sy’n cael ei gymell gan yr Ymgyrch dros Ddemocratiaeth.

Heb ei ddatganoli. Byddai angen newid Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i gyflwyno system o’r fath, ac nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bwer i wneud hyn, gan San Steffan mae’r pwerau hyn o hyd.

Nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol y pwer i lobio’r Senedd.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Chwefror 2011

Cartref preswyl Ty Mawr

Os teimlwch y byddai’n briodol byddwn yn ddiolchgar pe gallech lofnodi’r ddeiseb hon. Mae Ty Mawr yn gartref croesawus a braf iawn a byddai’n wrthun o beth pe bai’n cael ei golli yn ein cymuned.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Mawrth 2011

Achub ein huned awtistiaeth

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cynnig cau’r uned yng Ngorffennaf 2011 ond hyd yma nid ydynt wedi dweud hynny’n ffurfiol wrth y rhieni, yr athrawon a’r staff cymorth! Ysgol Gynradd Westwood yn yr Wyddgrug yw’r unig ysgol yn y Sir sy’n darparu ABA (ymyriad gwych sydd wedi’i fabwysiadu yn America ers tro byd!) i blant ar y sbectrwm awtistiaeth, mae’r dull yma o ddysgu’n gweithio’n dda iawn. Gall YMYRIAD BUAN PRIODOL FEL HWN wneud y gwahaniaeth rhwng bod yn annibynnol fel oedolion a bod angen gofal 24 awr y dydd. Mae gwaith caled ac ymdrechion diflino’r uned wedi helpu ein mab i gael mynediad at wersi prif ffrwd ac i gyrraedd llawer mwy o gerrig milltir; mae’r dull hwn o ddysgu a’r bobl hyn wedi bod yn fendith inni. Mae’r Awdurdod Lleol yn bwriadu cau’r gwasanaeth gwerthfawr hwn gan ddweud nad oes ei angen. Da chi rhowch lais i’r plant a’r rhieni hyn drwy lofnodi’r ddeiseb hon.

 

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac arweiniad cyffredinol wedi’i roi iddo ar wneud geiriad y ddeiseb yn gliriach fel y gellid ei hystyried ynghyd â gwybodaeth am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Mawrth 2011

Sgrapio’r Ddeddf Hawliau Dynol

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn deisebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddefnyddio ei holl bwerau a’i ddylanwad i ddileu’r Ddeddf Hawliau Dynol a’i holl ddiffygion, a chreu Mesur Hawliau Cymreig yn ei lle. Un sy’n deall ac yn amddiffyn buddiannau dinasyddion cyffredin, parchus a chyfreithlon ond sy’n ymwrthod ag unrhyw un sy’n ceisio sathru ar ein gwerthoedd diwylliedig traddodiadol drwy gyfrwng dyfarniadau gau Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â’r pwerau dros hawliau dynol.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Mawrth 2011

Tollhouse Café

Dim geiriad ond yn gofyn am arweiniad ar yr egwyddor gyffredinol a fyddai’n dderbyniol neu beidio.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Mawrth 2011

Dylid gwahardd tân gwyllt y tu allan i ddigwyddiadau wedi eu hawdurdodi

O ddechrau Tachwedd ymlaen, ymddengys bod tân gwyllt yn cael ei ddefnyddio bron pob nos. Mae hyn yn achosi niwsans i gymdogion ac yn enwedig i rai sy’n berchen ar anifeiliaid anwes sy’n cael eu dychryn gan y swn. Credwn y dylid ond defnyddio tân gwyllt mewn digwyddiadau wedi eu hawdurdodi fel nad ydynt yn creu niwsans ac er mwyn rhoi seibiant o’r swn i gymdogion ac anifeiliaid anwes.

Heb ei ddatganoli. San Steffan sy’n dal i fod â’r pwerau dros reoleiddio tân gwyllt.

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Mawrth 2011

Gwrthwynebu cynnig Awdurdod Addysg Lleol Castell Nedd Port Talbot i gau Ysgol Rhiwfawr

Rydym yn gwrthwynebu’r bwriad i gau oherwydd safonau uchel yr addysg yn Rhiwfawr. Gwrthwynebwn y bwriad i gau oherwydd yr ysgol yw’r prif rwydwaith cymdeithasol a’r unig gyflogwr yn y pentref. Rydym yn poeni am y llwybr y bydd angen i’r plant gerdded ar ei hyd i fynychu’r ysgol arall – llwybr sy’n anniogel yn ôl yr Awdurdod. Gwrthwynebwn y bwriad i gau oherwydd bod cynnydd o 50% wedi bod yn nifer y plant ar gofrestr yr ysgol ers cyhoeddi’r bwriad i gau a chynlluniau i dderbyn mwy fyth o ddisgyblion ar ôl i Sir Gâr a Phowys ad-drefnu eu hysgolion nhw.

Penderfyniad awdurdod lleol

Y deisebwr wedi’i hysbysu, ac arweiniad wedi’i roi iddo ar wneud geiriad y ddeiseb yn gliriach fel y gellid ei hystyried ac wedi’i gyfeirio at e-Ddeiseb berthnasol sydd wrthi’n hel llofnodion.

Mawrth 2011

Ail-alw a Refferendwm  Deddfwriaethol

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth y Cynulliad i ddeisebu’r llywodraeth ganolog i addasu Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i gynnwys yr opsiwn Ail-alw a Refferendwm Deddfwriaethol canlynol.

Lle mae Mesur wedi’i basio gan Gynulliad Cymru, gall traean o aelodau’r Cynulliad, o fewn pum diwrnod gwaith i basio’r Mesur yn derfynol, ofyn i Gadeirydd y Cyfarfod Llawn am i’r Mesur gael ei roi i refferendwm. Rhaid i gais o’r fath fod yn un ysgrifenedig ac wedi’i lofnodi gan yr aelodau sy’n gwneud y cais.

Yn y refferendwm rhaid i’r pleidleisiau gael eu bwrw dros neu yn erbyn y Mesur. I’r Mesur gael ei wrthod, rhaid i fwyafrif o’r etholwyr sy’n pleidleisio ac nid llai na thrideg y cant o’r holl rai sydd â hawl i bleidleisio, fod wedi pleidleisio yn erbyn y Mesur.

Ni cheir cyflwyno Mesurau Cyllid, Mesurau Cyflogau a Phensiynau, Mesurau Trethu (Union ac Anuniongyrchol) a Mesurau Llywodraeth yr Undeb Ewropeaidd, nac ychwaith Fesurau i bwrpas cyflawni goblygiadau cytundebau sydd eisoes yn bodoli, i’w penderfynu gan refferendwm.

Ni dderbynnir deisebau sy’n galw am weithredu anuniongyrchol ar faterion nad ydynt wedi eu datganoli (fel diwygio Deddf Llywodraeth Cymru).

Y deisebwr wedi’i hysbysu, a gwybodaeth wedi’i rhoi iddo am ffyrdd eraill o symud y mater yn ei flaen.

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Cymryd rhan
  3. Deisebau
  4. Deisebau annerbyniadwy

Partneriaid a Help