Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-074 - Deiseb i wrthwynebu cais Redrow Homes i ryddhau carthion i Nant Cylla

Derbyniwyr y deiseb: 04 Hydref 2007

Prif Deisebwyr: Mr Timothy Maddison

Nifer y Deisebwyr: 370

Geiriad y ddeiseb:

Mae trigolion Ystrad Mynach yn unfrydol yn erbyn cais Redrow Homes i ryddhau carthion (mewn argyfwng) i Nant Cylla sy’n llifo drwy ganol ein pentref, heibio i nifer o gartrefi a busnesau cyn ymuno ag Afon Rhymni , ar ochr ddeheuol y pentref.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi annog y trigolion lleol yn ddiweddar i ‘gofrestru’ â Floodline yr Asiantaeth oherwydd y perygl i afon Nant Cylla orlifo i’w cartrefi. Cefais i’n bersonol lythyr gan yr Asiantaeth ym mis Ebrill eleni ynghyd â gwybodaeth fanwl yn dangos bod y rhan fwyaf o ganol Ystrad Mynach, gan gynnwys yr Ysgol Iau/Babanod, yr orsaf heddlu newydd, yr ysbyty newydd a Pharc Busnes Dyffryn i gyd wedi’u cynnwys yn yr ardal lle mae perygl difrifol y bydd llifogydd unwaith mewn 100 mlynedd. Byddai ychwanegu carthion ‘yn fwriadol’ at y perygl hwn yn weithred a fyddai’n ymylu ar wallgofrwydd gan ddiystyru’n llwyr brif gyfrifoldeb Asiantaeth yr Amgylchedd i ddiogelu’r cyhoedd a’r amgylchedd.  

Mae ein hafonydd a’n traethau eisoes yn cael eu llygru oherwydd y cynnydd mewn dwr glaw a dwr ffo oddi ar y datblygiadau lu sy’n cael eu codi felly dylid cymryd camau i ddileu’r perygl ychwanegol hwn o greu llygredd yn hytrach na boddio’r diwydiant a’r cwmnïau datblygu barus a’u hysfa i wneud elw mawr. Gydag ychydig o waith meddwl, a thrwy wario swm cymharol fach, gellid osgoi’r angen i ryddhau carthion o’r orsaf bwmpio hon i Nant Cylla. Wedi’r cyfan, pe na bai’r afon ar gael, dyna’n union y byddai’n rhaid i Redrow Homes ei wneud.

Anfonwyd llawer o lythyrau at Asiantaeth yr Amgylchedd yn mynegi gwrthwynebiad llwyr i ryddhau carthion i’r afon hon, byth, dan unrhyw amgylchiadau.   

Mae trigolion y pentref bach hwn wedi trefnu’r ddeiseb hon ac maent yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru alw cais AN0412001 i mewn ac iddynt hwy, yn hytrach nag Asiantaeth yr Amgylchedd, benderfynu arno. Rydym yn credu’n gryf na ddylai Asiantaeth yr Amgylchedd fod yn farnwr ac yn rheithgor mewn perthynas â’r cais hwn a allai effeithio’n sylweddol ar iechyd y trigolion pe bai’n cael ei ganiatáu.

Ar ran fy nghyd-drigolion, rwy’n eich annog i dderbyn y ddeiseb hon, galw’r cais i mewn, penderfynu yn ei erbyn, a gofalu bod Redrow Homes yn gosod system sy’n rhwystro carthion rhag cael ei ryddhau byth o’r orsaf bwmpio hon i Nant Cylla.

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 17 Ionawr 2008

Linc I drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Ionawr 2008