Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-073 - Deiseb i wrthwynebu’r newidiadau ôl-weithredol i’r rheoliadau trwyddedau gwaith i nyrsys a gweithwyr gofal eraill o dramor

Derbyniwyr y deiseb: 17 Medi 2007

Prif Deisebwyr: Rosario Mercedes Misajon

Nifer y Deisebwyr: 50

Geiriad y ddeiseb:

Mae deiseb wedi’i hamgáu i wrthwynebu’r newidiadau ôl-weithredol i’r rheoliadau trwyddedau gwaith a’r hawl i wneud cais i aros yn y DU am gyfnod amhenodol. Rydym yn credu bod hwn yn destun pryder cenedlaethol gan fod cynifer o nyrsys a staff gofal eraill o dramor yn gweithio yn y GIG ac yng nghartrefi gofal Cymru. Byddai’n hwb mawr i’n hachos pe bai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno sylwadau i’r Swyddfa Gartref ynglyn â’r mater hwn.

Deiseb i Achub ein Huwch Ofalwyr o Dramor

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried y canlynol:

Gyda miloedd o bobl sydd â Thrwyddedau Gwaith yn wynebu bygythiad i’w gorfodi nhw a’u teuluoedd i adael y DU, mae’n rhaid gwneud rhywbeth i achub ein huwch ofalwyr o dramor. Fel y nodwyd yn Immigration Matters, mae’r Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo (BIA) yn gwrthod bron pob cais gan uwch ofalwyr am drwyddedau gwaith. Mae safiad diwyro’r BIA yn effeithio ar weithwyr gofal newydd o dramor a’r rheini sy’n gweithio yn y DU yn barod sydd am adnewyddu eu trwyddedau. Cafodd y rheolau ar berswyliaeth barhaol eu newid yn 2006, pan gafodd y cyfnod cymhwyso gofynnol ei ymestyn o 4 i 5 mlynedd. Mae cartrefi gofal hefyd yn ofni’r gwaethaf, ac yn eu paratoi eu hunain i glywed y newyddion y bydd eu gweithwyr tramor yn cael eu taflu allan o’r wlad fel petaent yn gwbl ddiwerth. A yw hyn yn ffordd deg o drin pobl?

Isod, mae llofnodion nyrsys cymwysedig, uwch ofalwyr, gofalwyr, defnyddwyr gwasanaethau a’u perthnasau a fydd yn ddioddef yn arw os caniateir i reolau newydd y Swyddfa Gartref barhau. Rydym yn eich annog i’n helpu yn ein brwydr i gael adnewyddu trwyddedau gwaith ac i wneud cais am gael aros am gyfnod amhenodol yn y Deyrnas Unedig.

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 9 Gorffennaf 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 9 Gorffennaf 2008