P-03-080 - Diddymu'r Offeryn Stadudol mewn perthynas â'r Hen Ysgol a'r Ysgoldy, Caergeiliog
Derbyniwyd y ddeiseb: 01 Tachwedd 2007
Prif ddeisebydd: Mr H G Parry
Nifer y deisebwyr: 10
Geiriad y ddeiseb:
Ar ôl pedair blynedd ar bymtheg o ymchwiliadau trwyadl y gallaf yn awr eu cadarnhau â dogfennau cynhwysfawr, hoffwn ofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru ddirymu penderfyniad y Swyddfa Gymreig i ganiatáu Rheol Sefydlog yn 1989 yn rhoi hawl i Ymddiriedolaeth Esgobaethol Bangor gael gwared ar eiddo a elwir yr hen Ysgol a’r Ysgoldy, Caergeiliog. Mae’r cais yn seiliedig ar dystiolaeth y gallaf ei chyflwyno’n ymwneud â pherchnogaeth yr eiddo.
Os oes angen i chi weld y wybodaeth hon, mae croeso i chi gysylltu â mi i drefnu cyfarfod. Yn y cyfamser, rwy’n amgáu deg llofnod gan gynnwys manylion cysylltu’r rheini sy’n barod i gefnogi fy neiseb.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 16 Hydref 2008
Linc i'r Adroddiad Cwblhad ar gyfer P-03-080 (PDF, 122KB) (Atodiadau yn Saesneg yn unig)
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
31 Ionawr 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 31 Ionawr 2008
6 Mawrth 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Mawrth 2008
8 Mai 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 8 Mai 2008
16 Hydref 2008
