Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-081 - Diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu’r Cynulliad: Rheoliadau’n ymwneud ag Astudiaethau Blaenorol

Derbyniwyd y ddeiseb: 06 Tachwedd 2007

Prif ddeisebydd: Mr Deri Burgess

Nifer y deisebwyr: 16

Geiriad y ddeiseb:

Cefndir:Ar hyn o bryd, mae’r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr yn gwahardd myfyrwyr hyn sydd â gradd eisoes, rhag gwneud cais am fenthyciad myfyrwyr ar gyfer costau byw. Fodd bynnag, mae myfyrwyr sy’n astudio am radd sydd, yn y pen draw, yn arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref, wedi’u heithrio o’r rheol hon.

Does dim modd i unrhyw fyfyriwr hyn gael benthyciad myfyrwyr i dalu ffioedd.

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ychwanegu at y galwedigaethau sydd wedi’u heithrio, a restrir uchod, er mwyn cynnwys unrhyw gwrs gradd i israddedigion sy’n rhagofyniad cyfreithiol, gorfodol i gymhwyso neu gofrestru mewn galwedigaeth benodol. Dyma rai enghreifftiau o gyrsiau o’r fath:

  • BSc/Op i gofrestru fel Optometrydd
  • MPharmacy i gofrestru fel Fferyllydd

Rydym yn annog Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gryf i weithredu’r newidiadau hyn fel mater o flaenoriaeth, gan sicrhau bod y newidiadau’n ôl-weithredol os yw hynny’n bosibl.

Y cymhelliant y tu ôl i’r ddeiseb hon yw sicrhau nad yw myfyrwyr hyn, yn enwedig y rheini o gefndiroedd llai cefnog, yn cael eu cau allan o alwedigaethau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rheoliadau presennol; galwedigaethau nad oes unrhyw ffordd arall o gofrestru â nhw.

Yn ogystal â hyn, gofynnwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi ystyriaeth ddyledus i’r posibilrwydd o gynnig benthyciadau myfyrwyr i dalu rhan o’r ffioedd ar gyfer cymwysterau o’r fath.

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 6 Rhagfyr 2007

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Rhagfyr 2007

  • 10 Ebrill 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Ebrill 2008

  • 22 Mai 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Mai 2008

  • 2 Hydref 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 2 Hydref 2008

  • 27 Ionawr 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 27 Ionawr 2009

  • 31 Mawrth 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 31 Mawrth 2009

  • 5 Mai 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 5 Mai 2009