P-03-084 - Deiseb yn erbyn gollwng carthion i Afon Rhymni
Derbyniwyr y ddeiseb: 12 Tachwedd 2007
Prif ddeisebydd: Councillor Ray T Davies
Nifer y deisebwyr: 249
Geiriad y ddeiseb:
Yr ydym ni, drigolion Bedwas, Tretomas a Machen yn deall bod cais wedi ei wneud i Asiantaeth yr Amgylchedd i ganiatáu gollwng carthion i’r afonydd yn Ystrad Mynach sy’n arwain i’r Afon Rhymni. Mae cannoedd o’n plant a’n pobl yn defnyddio llwybrau ar hyd yr afon a’r glannau i bysgota drwy’r flwyddyn ac yn ystod misoedd poeth yr haf mae llawer o bobl ifanc yn mynd i mewn i’r afon i badlo ac i fwynhau rafftio a.y.b. Yr ydym felly yn deisebu Llywodraeth Cynulliad Cymru i wrthod y cais hwn ar y sail ei fod yn peryglu iechyd pobl ardaloedd Bedwas, Tretomas a Machen.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 17 Ionawr 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 17 Ionawr 2008