Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-085 - Meddygfeydd yn Sir y Fflint

Derbyniwyd y Deiseb: 6 Hydref 2007

Prif Deisebwyr: Gillian Robinson

Nifer y Deisebwyr: 412

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni feddygon ym Meddygfa’r Laurels, Meddygfa Eyton Place a Chanolfan Feddygol Allt Goch yn rhwystredig (fel yr ydych chi mae’n siwr) oherwydd yr anawsterau a gawn wrth geisio cynnig digon o apwyntiadau ar gyfer ein cleifion.

Fel y gwyddoch,  rydym wedi’n cyfyngu’n llwyr gan faint ein hadeilad ac mae gwir angen symud i safle mwy – mewn Canolfan Gofal Sylfaenol newydd os oes modd.  

Mae’r cynnydd yn hyn o beth wedi dod i ben yn dilyn penodiad diweddar y Gweinidog Iechyd newydd a hoffem ddod â’n pryderon i’w sylw.

Gofynnwn i chi arwyddo’r ddeiseb hon i gefnogi’n hymdrechion i brysuro’r broses hon;

“Fel cleifion mewn Meddygfa yn Sir y Fflint, gofynnwn i’n Haelod Cynulliad, Mrs Sandy Mewies, roi pwysau ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu Canolfan Gofal Sylfaenol newydd ar fyrder”

Statws y ddeiseb: Ar agor

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 21 Chwefror 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 21 Chwefror 2008

  • 10 Ebrill 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Ebril 2008

  • 22 Mai 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Mai 2008