Prif ddeisebydd: Hywel Griffiths, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Nifer y deisebwyr: 1,000 +
Geiriad y ddeiseb:
'Galwn ar Lywodraeth Cymru i wireddu ar frys yr addewid clir i sefydlu papur dyddiol Cymraeg a gyhoeddwyd yn Cymru'n Un:
'Byddwn yn cynyddu'r cyllid a'r gefnogaeth a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg'
Galwn am gyhoeddiad newydd gan y llywodraeth bod swm digonol yn cael ei neilltuo'n benodol ar gyfer sefydlu papur cenedlaethol annibynnol yn Gymraeg, yn unol a'r ymchwil sydd wedi ei wneud gan sefydliadau profiadol yn y maes'