Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-117 - Arbedwch ein Traethau - Gwyr

Derbyniwyd y ddeiseb: 20 Mawrth 2008

Prif ddeisebydd: Byron Davies

Nifer y deisebwyr: 3,500

Geiriad y ddeiseb:

‘Monitro effaith amgylcheddol carthu tywod o Helwick Bank

Rydym ni sydd wedi arwyddo isod yn hynod siomedig bod trwydded wedi’i chaniatáu ar gyfer carthu tywod o Helwick Bank. Gofynnwn yn daer i Asiantaeth yr Amgylchedd gomisiynu gwaith monitro annibynnol ar effaith amgylcheddol y gwaith carthu hwn, y telir amdano gan Llanelli Sand Dredging Ltd. Byddai’n amhriodol i’r cwmni carthu gomisiynu ei waith monitro ei hun, ond dylid ei orfodi i dalu amdano.’

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 11 Mehefin 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 11 Mehefin 2008

Linc i'r Adroddiad Cwblhad ar gyfer P-03-117 (PDF, 350KB) (Atodiadau yn Saesneg yn unig)