Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-075 - Y Gymdeithas Frenhinol Cemeg yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i benodi Prif Gynghorydd Gwyddonol ar unwaith

Derbyniwyr y ddeiseb: 08 Hydref 2007

Prif ddeisebwyr: Mr Leigh Jeffes

Nifer y deisebwyr: 48

Geiriad y ddeiseb:

Mae ‘Gwyddoniaeth a’r Cynulliad’ yn credu’n gryf y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i Lywodraeth greu swydd ar gyfer Prif Gynghorydd Gwyddonol gan ein bod yn credu bod hynny’n gwbl hanfodol os ydym am lwyddo i ddatblygu a gweithredu polisi gwyddoniaeth ar gyfer Cymru, sicrhau dyfodol economi Cymru ac ansawdd bywyd ei phobl.

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 31 Ionawr 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 31 Ionawr 2008