P-03-086 - Deiseb yn galw am i daliadau’r dreth gyngor a godir ar bob perchennog cartref gwyliau yng Nghymru gael eu dyblu
Derbyniwyd y deiseb: 09 Tachwedd 2007
Prif Deisebwyr: Mr J R Lewis
Nifer y Deisebwyr: 10
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r ddeiseb yn galw am i daliadau’r dreth gyngor a godir ar bob perchennog cartref gwyliau yng Nghymru gael eu dyblu. Credant y dylai’r dreth gynyddol gael ei defnyddio gan yr awdurdodau sy’n casglu, naill ai i adeiladu tai fforddiadwy ar gyfer pobl leol sy’n prynu ty am y tro cyntaf, neu i roi benthyciadau di-log iddynt brynu tai o fewn eu hawdurdod am hyd at 20% o werth y ty.
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 31 Ionawr 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 31 Ionawr 2008