Cynulliad Cenedlaethol Cymru

P-03-088 - Gwasanaethau bws gwledig yn Nhaliesin

Derbyniwyd y ddeiseb: 13 November 2007

Prif ddeisebydd: Ms P C Henderson

Nifer y deisebwyr: 27

Geiriad y ddeiseb:

‘Yr ydym ni sydd wedi arwyddo isod, yn pryderu am newid yn yr hinsawdd ac yn awyddus i leihau ein hallyriadau carbon.  Yn anffodus, mae’r gwasanaethau bws sy’n cysylltu’n pentref ni (Tre Taliesin) â’n trefi lleol sef Aberystwyth a Machynlleth yn anaml ac yn ddrud ac mae hyn yn gwneud cymudo â char bron â bod yn orfodol.

Yr ydym yn annog y Cynulliad Cenedlaethol i fuddsoddi mewn gwasanaethau bws fforddiadwy a mwy rheolaidd yng nghefn gwlad Cymru, oherwydd credwn mai diffyg system drafnidiaeth gyhoeddus integredig yw un o’r rhwystrau mwyaf i ddatblygu cymdeithas gynaliadwy yng Nghymru.

Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 22 Medi 2009

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009

Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:

  • 6 Mawrth 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 6 Mawrth 2008

  • 8 Mai 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 8 Mai 2008

  • 25 Mehefin 2008

Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 25 Mehefin 2008