P-03-098 - Dileu Enw Ysgol Gyfun Rhydfelen
Derbyniwyd y ddeiseb: 14 Ionawr 2008
Prif ddeisebydd: Mr Emlyn Penny-Jones
Nifer y deisebwyr: 25
Geiriad y ddeiseb:
'Rydym wedi cael ar ddeall fod y Cynullaid wedi dyfarnu o blaid Awdurdod Addysg Rhondda Cynon Taf parthed y weithred o newid enw Ysgol Gyfun Rhydyfelen, a'i ddull o sicrhau'r newid hwn.
Mae hyn yn destun syndod a gofid i ni. Mae gan y dafarniad hwn oblygiadau pell-gyrhaeddol o safbwynt pwerau a hawliau byrddau llywodraethol ysgolion. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cadarnhau penderfyniad di-sail a di-angen yr Awdurdod i ddileu enw ysgol sydd a lle mor amlwg yn hanes Addysg Cymru, a hynnu'n gwbwl groes i'r farn a leisiwyd yn gyson gan lywodraethwyr yr ysgol, y rhieni, disgyblion, trwy Gyngor yr Ysgol, a staff.
Deallwn fod yr Arglwydd Gwilym Prys Davies eisioes wedi cysylltu trwoch chi ag aelodau 'r Pwyllgor Deisebau. Carem ategu ei gais am ddiwygiad cyflym o'r is-ddeddfwriaethau perthnasol, gan ddychwelyd yr hawl i newid enw ysgol i'w llywodraethwyr.'
Statws y ddeiseb: Wedi cau ar 22 Medi 2009
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 22 Medi 2009
Linc i'r Adroddiad Cwblhau ar gyfer P-03-098 (PDF, 487KB)
Ystyried gan y Pwyllgor Deisebau:
31 Ionawr 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 31 Ionawr 2008
10 Ebrill 2008
Linc i drawsgrifiad y cyfarfod ar 10 Ebrill 2008
19 Mai 2009
