Deddfwriaeth

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu y gall y Cynulliad wneud cyfreithiau, a elwir yn Ddeddfau.
Mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth yn y Pedwerydd Cynulliad ar gael yn ‘Deddfau’r Pedwerydd Cynulliad’.(Bydd y linc hon ar gael yn fuan)
Cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad
Gall y Cynulliad wneud cyfreithiau ar nifer o wahanol bynciau – nodir y rhain yn Atodlen 7 (Saesneg yn unig) i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae Is-ddeddfwriaeth (a elwir hefyd yn ddeddfwriaeth ddirprwyedig neu’n offeryn statudol) yn gyfreithiau a wneir o dan bwerau dirprwyedig Deddf neu Fesur y Cynulliad neu Ddeddf Seneddol. Mae’n cynnwys gorchmynion, rheoliadau, rheolau a chynlluniau, a gall gynnwys canllawiau statudol a gorchmynion lleol.
Pan fydd Senedd y DU yn dymuno deddfu ar fater sydd eisioes wedi'i ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol iddi gael cydsyniad y Cynulliad cyn y gall basio'r deddfwriaeth dan sylw. Rhoddir cydsyniad o'r fath gan y Cynulliad drwy gynigion cydsyniad deddfwriaethol (legislative consent motions).