Bil-027 - Mohammad Asghar

Bil Menter (Cymru)

Gwybodaeth cyn y balot

Amcanion Polisi’r Bil

Byddai Bil Menter yn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd a Llywodraethau Cymru yn y dyfodol yn cymryd camau i wneud economi Cymru yn fwy cystadleuol ac yn parhau yn atebol am gynnydd yn y maes hwn.

Byddai'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru bennu strategaeth a thargedau ar gyfer datblygu economaidd. Byddai’r targedau’n cynnwys mesurau ar gyfer twf economaidd, cyflogaeth, caffael a sgiliau. Byddent hefyd yn cynnwys targedau ar gyfer ardaloedd menter Llywodraeth Cymru. Byddai’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi cyfrif i’r Cynulliad Cenedlaethol a’r gymuned fusnes yn rheolaidd am y cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at gyrraedd y targedau.

Byddai’r Bil hefyd yn sefydlu Cyngor Menter Cymru, yn cael ei gadeirio gan berson busnes, ac yn cynnwys partneriaid economaidd Llywodraeth Cymru. Byddai’r Cyngor yn holi ac yn cynghori Gweinidogion Llywodraeth Cymru.  Byddai papurau’r Cyngor yn cael eu cyhoeddi.

Cefnogaeth a dderbyniwyd

Mae rhannau o'r Bil arfaethedig wedi cael eu hawgrymu gan sefydliadau busnes.

Yn ei ymateb i Raglen Adnewyddu'r Economi Llywodraeth Cymru, mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr wedi awgrymu y dylai fod yn rhaid i Weinidogion y tu allan i'r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth roi cyfrif i'r Cyngor Partneriaeth Busnes.

Yn ei ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y Rhaglen ar gyfer Adnewyddu'r Economi, dywedodd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig - Cymru y dylid parhau â’r Cyngor Partneriaeth Busnes ac y dylai gael ei gryfhau.

Ymgynghori

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ei dull gweithredu ei hun drwy ymgynghori ar y Rhaglen ar gyfer Adnewyddu'r Economi. Roedd yr hyn a nodwyd uchod gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw.

Partneriaid a Help