Is-ddeddfwriaeth
Mae Is-ddeddfwriaeth (a elwir hefyd yn ddeddfwriaeth ddirprwyedig neu’n offeryn statudol) yn gyfreithiau a wneir o dan bwerau dirprwyedig Deddf neu Fesur y Cynulliad neu Ddeddf Seneddol. Mae’n cynnwys gorchmynion, rheoliadau, rheolau a chynlluniau, a gall gynnwys canllawiau statudol a gorchmynion lleol.
Wrth basio Deddf, mae’r Cynulliad yn cymeradwyo ei egwyddorion, ei amcanion cyffredinol a manylion pwysig eraill. Fodd bynnag, bydd y Ddeddf fel arfer yn rhoi’r pwerau i Weinidogion Cymru, neu gorff arall, wneud rheolau a rheoliadau manwl neu symbylu camau gweithredu mewn perthynas â sut y gweithredir y brif gyfraith.
Caiff is-ddeddfwriaeth hefyd ei galw yn ddeddfwriaeth ddirprwyedig neu’n offerynnau statudol. Mae’n cynnwys gorchmynion, rheoliadau, rheolau a chynlluniau, a gall gynnwys canllawiau statudol a gorchmynion lleol.Mae gweithdrefnau’r Cynulliad sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth i’w gweld yn Rheolau Sefydlog 27. Bu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn craffu ar is-ddeddfwriaeth yn y Trydd Cynulliad o dan Reol Sefydlog 15 a gan y Pwyllgor Offerynnau Statudol ar 22 Mehefin 2011.
