Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD)
Gall Llywodraeth y Cynulliad, pwyllgorau'r Cynulliad neu Aelod Cynulliad gynnig Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Ar ôl i'r Cynulliad ei gymeradwyo, caiff y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w osod gerbron y ddau Dy yn San Steffan. Os caiff ei gymeradwyo yno, caiff y Gorchymyn ei wneud gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.
Yn y Cynulliad, caiff Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ei gymeradwyo mewn dau gam:
- Mae Pwyllgor Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ad-hoc yn craffu ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig cyn y broses ddeddfu;
- Mae'r Cyfarfod Llawn yn cymeradwyo Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol drafft.
Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol sydd ar waith
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth bresennol yn y Cynulliad ar gael yn Cynnydd Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Mesurau Cynulliad.
Nid oes yr un Gorchymyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.
Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a gymeradwywyd, a wrthodwyd neu a dynnwyd yn ôl
Balot ar gyfer GCD a gynigwyd gan Aelod