Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD)

Gall Llywodraeth y Cynulliad, pwyllgorau'r Cynulliad neu Aelod Cynulliad gynnig Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Ar ôl i'r Cynulliad ei gymeradwyo, caiff y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w osod gerbron y ddau Dy yn San Steffan. Os caiff ei gymeradwyo yno, caiff y Gorchymyn ei wneud gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

Yn y Cynulliad, caiff Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ei gymeradwyo mewn dau gam:

  • Mae Pwyllgor Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ad-hoc yn craffu ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig cyn y broses ddeddfu;
  • Mae'r Cyfarfod Llawn yn cymeradwyo Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol drafft.

Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol sydd ar waith

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth bresennol yn y Cynulliad ar gael yn Cynnydd Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Mesurau Cynulliad.

Mae'r GCD canlynol ar waith ar hyn o bryd:

Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a gymeradwywyd, a wrthodwyd neu a dynnwyd yn ôl

Rhagor o wybodaeth am y Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol sydd wedi’u cymeradwyo neu eu gwrthod gan y Cynulliad, neu wedi’u tynnu’n ôl. Mwy>>

Balot ar gyfer GCD a gynigwyd gan Aelod

O dro i dro, bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu ar enw Aelod Cynulliad a gaiff gyflwyno cynigion ar gyfer deddfwriaeth trwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Mwy>>

Gorchymyn Afaethedig Aelod sydd heb eu cyflwyno eto. Mwy>>