Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif. 3
Ymgynghoriad - Pwyllgor Deddfwriaeth Parhaol Rhif 3 - Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009 ynglŷn â gofalwyr
Ar 8 Rhagfyr 2008, gosododd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol)(Lles Cymdeithasol) 2009 ('y mesur arfaethedig’) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad yn unol â Rheolau Sefydlog 22.13 a 22.14.
Cyfeiriwyd y Gorchymyn arfaethedig wedi hynny at Bwyllgor Deddfwriaeth Parhaol Rhif 3 i gael ei ystyried yn fanwl. Yn ei gyfarfod ar 14 Ionawr 2009, cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl canlynol -
Ystyried:
- Egwyddorion cyffredinol y Gorchymyn arfaethedig ac a ddylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad yn y maes a nodir ym Mater 15.9;
Telerau’r Gorchymyn arfaethedig ac, yn benodol, a ydynt wedi eu diffinio’n rhy eang neu’n rhy gul.
Prif ddiben y Pwyllgor yw ystyried a ddylai’r Cynulliad gael y pŵer, mewn egwyddor, i ddeddfu yn ôl Mesur yn y maes a nodwyd gan y Gorchymyn arfaethedig, sef cefnogi darpariaeth gofal gan ofalwyr a hybu lles gofalwyr. Fodd bynnag, nid yw o fewn cylch gwaith y Pwyllgor i ystyried y modd penodol y dylai’r pŵer hwnnw gael ei ddefnyddio os caiff ei roi. Felly, bydd y pwyllgor yn osgoi cymryd rhan mewn trafodaethau manwl ar Fesurau arfaethedig, adolygu polisïau sydd eisoes yn bodoli yn y maes hwn a dyblygu gwaith a wnaeth y pwyllgorau pwnc blaenorol eisoes.
Ceir copi o’r Gorchymyn arfaethedig a’i Femorandwm Esboniadol yn Atodiad 1. Gellir gweld copi electronig o’r dogfennau hyn ynghyd â gwybodaeth am y broses ddeddfwriaethol a manylion y Pwyllgor ar http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation.htm
Ysgrifennaf atoch i’ch gwahodd i gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor er mwyn helpu ei drafodaethau. Wrth baratoi eich cyflwyniad, byddai’n ddefnyddiol pe baech yn ystyried y canlynol:
1. Beth yw eich barn ar yr egwyddor gyffredinol y dylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad yn y maes a nodir ym Mater 15.9?
2. Beth yw eich barn ar delerau’r Gorchymyn arfaethedig, e.e. a ydynt wedi eu diffinio’n rhy gul neu’n rhy eang?
3. A yw’r diffiniad o ofalwr yn y Gorchymyn arfaethedig yn briodol? Os nad yw, sut y dylai’r Gorchymyn arfaethedig gael ei ailddrafftio a pham?
4. A ydych o’r farn y byddai’r Materion a eithrir, ynglŷn â maes 15, yn effeithio ar effeithiolrwydd unrhyw Fesurau arfaethedig a gaiff eu cyflwyno yn y dyfodol o dan Fater 15.9? Os felly eglurwch pam.
(Sylwer: Cyfeirir at y Materion a eithrir o dan y pennawd 'Lles Cymdeithasol’ (maes 15 o Ran 1) ar dudalen 3 o’r Gorchymyn arfaethedig. Nid oes gan y Cynulliad unrhyw bŵer i ddeddfu ynglŷn â Materion a eithrir.)
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad i legislationoffice@wales.gsi.gov.uk gan nodi’r pennawd Ymgynghoriad Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Gofalwyr ym mlwch pwnc yr e-bost. Os byddai’n well gennych anfon eich cyflwyniad ar bapur, dylech ei anfon at Ruth Hatton, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, Y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd CF99 1NA.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 13 Chwefror 2009. Ni fydd yn bosibl ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn. Fodd bynnag, buaswn yn falch o dderbyn cyflwyniadau cyn y dyddiad hwn os yw’n bosibl er mwyn galluogi’r Pwyllgor i wneud cynnydd ar ei waith o graffu ar y Gorchymyn arfaethedig.
Wrth baratoi eich cyflwyniad, cofiwch ystyried y pwyntiau canlynol:
- Dylai eich ymateb fod mor gryno â phosibl. Defnyddiwch y teitl uchod wrth gyfeirio eich ymateb.
- Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ar gael i’w gweld gan y cyhoedd ac fe allant hefyd gael eu gweld a’u trafod mewn cyfarfodydd pwyllgor. Os nad ydych am i’ch ymateb neu’ch enw gael ei gyhoeddi mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny ar ddiwedd eich cyflwyniad.
- Cofiwch nodi a ydych yn ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn.
- Cofiwch nodi a ydych yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor ai peidio.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Clerc, Fay Bowen (ffôn: 029 2089 8041) neu Ruth Hatton, y Dirprwy Glerc (ffôn: 029 2089 8019).
Dr. Dai Lloyd AC
Cadeirydd y Pwyllgor