Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009 (ynglŷn â Gofalwyr)

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig gan y Llywodraeth a osodwyd gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.

Gwybodaeth am y Gorchymyn

Ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi’r hawl iddo wneud cyfreithiau newydd i Gymru drwy Fesurau ynglyn â Gofalwyr.

Y newyddion diweddaraf

Wedi i destun y Gorchymyn drafft gael ei gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ’r Senedd, gwnaethpwyd y Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 17 Tachwedd 2009. Caiff y Cynulliad bellach wneud Mesurau (cyfreithiau) o dan y Materion a restrir yn y Gorchymyn.

Hynt y Gorchymyn

Mae’r tabl a ganlyn yn dangos y dyddiadau allweddol yn hynt y Gorchymyn drwy’r Cynulliad.

Rh. 9 - Lles Cymdeithasol

Cyfnod

Dyddiad

  • Gosod y Gorchymyn arfaethedig

  • 8 Rhagfyr 2008

  • Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 yn ystyried y Gorchymyn arfaethedig

  • 14, 28 Ionawr 2009
    4, 11, 25 Chwefror 2009
    11, 18 Mawrth 2009

  • Gosod y Gorchymyn drafft

  • 16 Mehefin 2009

  • Gorchymyn drafft – dadl yn y Cyfarfod Llawn

  • 23 Mehefin 2009

  • Gorchymyn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor

  • 17 Tachwedd 2009

Gwybodaeth berthnasol

Cewch ragor o wybodaeth am y Gorchymyn hwn ar y dudalen hon, gan gynnwys gohebiaeth y Pwyllgor, eitemau newyddion a phapurau’r Pwyllgor Busnes.

|

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Drafft a Memorandwm Esboniadol

|

Roedd Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009 yn cynnwys mater mewn perthynas â Gofalwyr yn ogystal â newidiadau ynghylch sut y dylid cyflwyno eithriadau i faterion. Ar ôl i Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Pwyllgor Materion Cymreig Ty’r Cyffredin a Phwyllgor Cyfansoddiad Ty’r Arglwyddi ystyried y Gorchymyn arfaethedig gwreiddiol, penderfynodd Llywodraeth Cymru wahanu’r Gorchymyn hwn yn ddau gan osod Gorchymyn newydd ar wahân

|

Y Gorchymyn arfaethedig a’r Memorandwm Esboniadol

|
  • Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gorchymyn arfaethedig

Ymgynghorodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009 (ynglyn a Gofalwyr), a fydd yn rhoi’r hawl i’r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu mewn perthynas â gofalwyr.

Mae’r gwahoddiad i roi tystiolaeth bellach wedi cau.

Partneriaid a Help