Ymgynghoriad y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol – Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) 2007
Y llythyr gwreiddiol (dogfen PDF)
Ymatebion i'r ymgynghoriad
Sefydlwyd y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol ar 4 Gorffennaf 2007 i ystyried Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) 2007 ac i gyflwyno adroddiad arno. Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i graffu ar:
• Egwyddorion cyffredinol y Gorchymyn arfaethedig, h.y. bod gan y Cynulliad hawl i ddeddfu yn unol â'r hyn a geir yn 'Mater 5.17'.
• A yw'r Gorchymyn arfaethedig yn creu fframwaith priodol er mwyn gweithredu'r agenda bolisi ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan ystyried yn arbennig a yw'r Gorchymyn arfaethedig wedi'i ddrafftio mewn ffordd sy'n rhy eang neu'n rhy gyfyng.
Swyddogaeth y Pwyllgor yw craffu ar y ffordd y mae'r Gorchymyn arfaethedig wedi'i ddrafftio. Felly, ni fydd y Pwyllgor yn cynnal trafodaethau manwl am Fesurau arfaethedig y byddai modd eu gwneud ar ôl i'r Cynulliad gael hawl i ddeddfu yn y maes, yn adolygu'r polisïau presennol nac yn dyblygu gwaith a wnaed gan bwyllgorau pwnc blaenorol.
Ysgrifennaf atoch i'ch gwahodd i gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor. Mae'r Pwyllgor yn awyddus i dderbyn tystiolaeth am y materion a ganlyn:
1. A fyddai'r Gorchymyn arfaethedig, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn caniatáu i'r agenda bolisi ym maes anghenion dysgu ychwanegol gael ei gweithredu drwy gyfrwng Mesurau? Os na fyddai'n caniatáu i hynny ddigwydd, rhowch resymau dros hynny ac eglurwch sut y dylid ailddrafftio'r Gorchymyn arfaethedig.
2. A yw'n briodol bod y Gorchymyn arfaethedig yn berthnasol i bawb? Os nad yw'n briodol, rhowch resymau dros hynny ac eglurwch sut y dylid ailddrafftio'r Gorchymyn arfaethedig.
3. A yw'r diffiniad o anabledd yn y Gorchymyn arfaethedig yn briodol? Os nad yw'n briodol, rhowch resymau dros hynny ac eglurwch sut y dylid ailddrafftio'r Gorchymyn arfaethedig.
4. A yw'r Gorchymyn arfaethedig wedi'i ddrafftio mewn ffordd sy'n briodol, yn rhy gyfyng neu'n rhy eang? Os oes angen ailddrafftio'r Gorchymyn, rhowch resymau dros hynny ac eglurwch sut y dylid gwneud hynny.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, byddem yn ddiolchgar pe baech yn anfon copi drwy’r ebost at legislationoffice@wales.gsi.gov.uk. Rhowch y teitl a ganlyn i'ch e-bost: Ymgynghoriad ar y Gorchymyn ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Fel arall, gallwch anfon copi ar ddisg neu gopi caled at Ruth Hatton, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai'r dystiolaeth ddod i law erbyn dydd Gwener 21 Medi 2007. Byddwn yn cadarnhau bod eich tystiolaeth wedi'n cyrraedd. Efallai na fydd modd i'r Pwyllgor ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.
Pan fyddwch yn paratoi'ch tystiolaeth, cofiwch y pwyntiau a ganlyn:
• Dylai'ch ymateb fod mor gryno â phosib. Defnyddiwch y teitl uchod fel cyfeirnod.
• Fel rheol, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ac mae'n bosib y cânt eu trafod mewn cyfarfodydd Pwyllgor. Os nad ydych yn fodlon i ni gyhoeddi'ch ymateb neu'ch enw, rhaid i chi nodi hyn ar ddiwedd eich tystiolaeth.
• Dylech nodi a ydych yn ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn.
• Dylech hefyd nodi a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor.
Bydd y Pwyllgor yn pwyso a mesur yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr hydref. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Clercod, Gareth Williams (ffôn: 029 2089 8008) a Liz Wilkinson (ffôn: 029 2089 8025), neu’r Dirprwy Glerc, Ruth Hatton (ffôn: 029 2089 8019).
Eleanor Burnham AM
Cadeirydd