Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 2) 2007 (ynghylch Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff)

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig gan y Llywodraeth a osodwyd gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Gwybodaeth am y Gorchymyn

Estyn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi’r hawl iddo wneud deddfau newydd i Gymru drwy Fesurau ym maes diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff.

Eitemau newyddion cysylltiedig


Pwyllgor yn ceisio barn y cyhoedd ar y ddeddfwriaeth newydd ynghylch diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff, 26 Gorffennaf 2007

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig a'r Memorandwm Esboniadol

Gorchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 2) 2007, (PDF 31KB) fel y’i gosodwyd ar 19 Mehefin 2007 (Saesneg yn unig)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 78KB) i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 2) 2007

Datganiad rhagarweiniol gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, 19 Mehefin 2007

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth (PDF, 26KB) gan ofyn barn gan bawb sydd â diddordeb, ar y cynigion a gynhwysir yn y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfaethedig (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 2) 2007. Mae’r alwad am dystiolaeth bellach wedi cau a gellir cael mynediad i’r ymatebion a dderbyniwyd yn y rhestr o ymatebion i'r ymgynghoriad.

Y Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig

Sefydlwyd y Pwyllgor ar y Gorchymyn ynghylch Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff ar 4 Gorffennaf 2007 i drafod Gorchymyn arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol)(Rhif 2)2007 ac i adrodd amdano. Bydd y Pwyllgor yn dod i ben pan gaiff y Gorchymyn drafft perthnasol ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog 22.31.

Aelodaeth y Pwyllgor

Agendâu, papurau a thrawsgrifiadau

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Drafft a Memorandwm Esboniadol

Nid oes Gorchymyn drafft wedi’i gyflwyno eto.