1. Cafodd y Memorandwm hwn ei baratoi a'i osod gerbron yn unol â Rheol Sefydlog (RhS) 22.14. Mae'n gosod y cefndir i'r darpariaethau yn y cynnig amgaeedig gan y llywodraeth am Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) a fyddai'n rhoi cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad”) gerbron yn unol â RhS 22.13 ac mae'r Memorandwm hwn yn esbonio cwmpas y pwerau a geisir drwy’r GCD.
2. Ceir cyd-destun cyfansoddiadol y cais hwn yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006) a pholisi Llywodraeth y DU. Dangosodd Papur Gwyn Llywodraeth y DU Trefn Lywodraethu Well i Gymru” a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2005 ymrwymiad Llywodraeth y DU i wella pwerau deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel sefydliad a etholwyd yn ddemocrataidd gyda'i weithdrefnau craffu manwl ei hunan.
3. Mae adran 95 o Ddeddf 2006 yn rhoi'r p.er i'w Mawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, i roi'r cymhwysedd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu drwy Fesur Cynulliad ar faterion penodedig. Caniateir ychwanegu'r materion hyn at Feysydd o fewn Atodlen 5 i Ddeddf 2006. Caiff Mesurau Cynulliad wneud unrhyw ddarpariaeth y gallai Deddf Seneddol ei gwneud (ac o'r herwydd gall addasu deddfwriaeth bresennol a gwneud darpariaeth newydd), o ran materion, yn ddarostyngedig i'r terfynau y darperir ar eu cyfer yn Rhan 3 o Ddeddf 2006. Cyfeirir at Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 95 o Ddeddf 2006 fel Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) yn y Memorandwm hwn.
4. Caniateir mewnosod materion i Feysydd a gynhwysir yn Atodlen 5 i Ddeddf 2006, naill ai drwy Ddeddf Seneddol neu drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, pan fo’r olaf wedi ei gymeradwyo gan y Cynulliad a chan ddau D.'r Senedd. Mae'r ail lwybr yn galluogi'r Cynulliad i gychwyn y broses ar gyfer trosglwyddo cymhwysedd o'r fath, drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.
5. Byddai'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a gynigir yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ym maes Diogelu’r Amgylchedd (Maes 6 o fewn Atodlen 5 i Ddeddf 2006).
6. Bydd pwerau deddfwriaethol newydd o ran y materion” penodedig yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad, Aelodau'r Cynulliad a Phwyllgorau'r Cynulliad i ddwyn cynigion gerbron ar gyfer deddfwriaeth, ar ffurf Mesurau, a seilir ar flaenoriaethau ac ar amserlen ar gyfer Cymru. Bydd y Mesurau yn destun craffu trylwyr a chymeradwyaeth gan y Cynulliad.
7. Bu Diogelu’r Amgylchedd yn faes pwnc wedi ei ddatganoli ers blynyddoedd ac mae gan Lywodraeth y Cynulliad eisoes bwerau gweithredol sylweddol a chymhwysedd is-ddeddfwriaethol yn y maes hwn gan fod diogelu’r Amgylchedd yn faes wedi ei ddatganoli. Mae’r rhan fwyaf o bwerau presennol Llywodraeth Cynulliad Cymru (sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru) ym maes diogelu’r amgylchedd a gwastraff i’w canfod yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, Deddf yr Amgylchedd 1995, Deddfau Llywodraeth Leol 1988 a 1999, a thrwy gyfraith Ewrop. Mae gan Weinidogion Cymru hefyd swyddogaethau o dan y Deddfau Rheoli Llygredd, Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 a Deddf Cymunedau Glân a’r Amgylchedd 2005.
8. Ym Mai 2006, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei strategaeth tymor hir ar gyfer amgylchedd Cymru. Mae’r strategaeth yn gosod y cyfeiriad strategol am yr ugain mlynedd nesaf er mwyn darparu’r fframwaith drwy’r hon y gellir cyrraedd at amgylchedd sy’n lân, yn fioamrywiol, yn iach ac y rhoddir gwerth arno gan bobl Cymru. Caiff y strategaeth ei chynnal gan gyfres o gynlluniau gweithredu sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd a chan fap polisi sy’n gosod y gweithrediadau allweddol a gaiff eu gwneud er mwyn cyflawni’r canlyniadau a geir yn y Strategaeth.
9. Mae’r cais hwn am gymhwysedd deddfwriaethol yn tarddu o’r angen i weithredu ar y pryder cyhoeddus sylweddol a hirymarhous yng Nghymru ynghylch sbwriel a phynciau amgylcheddol lleol eraill, a phryderon cysylltiedig ynghylch rheoli gwastraff cynaliadwy. Cafodd y pryderon hyn eu hamlygu yn ystod y broses ymgynghori ar gyfer Strategaeth yr Amgylchedd.
10. Yn benodol, mae pynciau ansawdd amgylcheddol lleol yn cael eu gweld â rhan ganolog mewn ansawdd bywyd ac mae’n bwysig i’w gwella fel moddion i sicrhau ymwneud pobl â materion amgylcheddol eraill. Mae cyflenwi amgylcheddau byw o ansawdd uchel i bawb yng Nghymru lle nad yw niwsansys amgylcheddol yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
11. Bydd pwerau newydd yn y Maes hwn yn Galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddwyn ymlaen gynigion cydlynol ar gyfer Mesurau, yn seiliedig ar flaenoriaethau Cymru ac ar amserlen fydd yn dod ac ar amserlen fydd yn dod â ni’n nes at yr amcan o gymunedau cynaliadwy.
12. Mae’r cynnig i gael y pwerau hyn hefyd yn cael ei wneud yng nghyd-destun terfynau’r setliad presennol sydd i ryw raddau yn cyfyngu llywodraeth y Cynulliad rhag mynd i’r afael â blaenoriaethau a phynciau Cymru. Mewn nifer o feysydd mae pwerau presennol Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u caethiwo. Y mae, er enghraifft, ystod o ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud â phroblemau ynghylch sbwriel, ond cafodd agweddau ar bolisi sbwriel eu dynodi nad oes modd gweithredu arnynt yn effeithiol drwy ddefnyddio pwerau presennol; enghraifft dda yw sbwriel ysmygu yn casglu mewn mannau penodol fel canlyniad anfwriadol i’r gwaharddiad ar ysmygu. Bydd o fewn cwmpas y Gorchymyn hwn i ni ganfod atebion newydd i rai o’r anawsterau lleol hyn.
13. Mae yna dri maes penodol lle bydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio i ddarparu’r cwmpas i fynd i’r afael â phynciau diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff. Y meysydd hynny yw gwella ansawdd yr amgylchedd yn lleol, lle mae pynciau megis sbwriel a thipio anghyfreithlon yn bryderon beunyddiol, cynyddu ailgylchu a gwella rheoli gwastraff; a chryfhau rheolaeth dros lygredd.
14. Y cynnig yw bod y ddau Fater yn cael eu mewnosod o dan Faes 6: Yr Amgylchedd yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i alluogi’r Cynulliad i ddeddfu ar y pynciau hyn drwy Fesur Cynulliad. Bydd Mater 6.1 yn galluogi’r Cynulliad i ddwyn Mesurau gerbron i gynyddu ailgylchu a gwella rheoli gwastraff cynaliadwy yng Nghymru. Bydd Mater 6.2 yn galluogi’r Cynulliad i ddwyn Mesurau gerbron i wella ansawdd yr amgylchedd yn lleol ac i gryfhau rheolaeth dros lygredd.
15. Gan hynny, prif fwriad y GCD hwn yw rhoi'r p.er i'r Cynulliad wneud Mesurau o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a fydd yn galluogi i becyn o fesurau gael eu gweithredu i wella amgylchedd Cymru.
16. Mae Adran 94 o Ddeddf 2006 yn gwahardd unrhyw Fesur Cynulliad rhag cael effaith ac eithrio o ran Cymru. Mae'n darparu na fydd darpariaeth mewn Mesur Cynulliad yn gyfraith i'r graddau y mae y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae darpariaeth y tu allan i gymhwysedd os bydd yn gymwys ac eithrio o ran Cymru, neu os bydd yn gosod, addasu neu dynnu swyddogaethau y gellir eu harfer ac eithrio o ran Cymru (neu'n rhoi'r p.er i wneud hynny). Mae eithriadau cyfyngedig ar gyfer mathau penodol o ddarpariaethau atodol, er enghraifft, darpariaeth sy'n addas i wneud darpariaethau’r Mesur yn effeithiol, darpariaeth sy'n galluogi darpariaethau'r Mesur i gael eu gorfodi a darpariaeth sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall.
17. Mae'r cyfyngiad ynghylch swyddogaethau ac eithrio o ran Cymru yn rhwystro’r Cynulliad rhag pasio unrhyw Fesur sy’n rhoi i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol Cymru neu unrhyw awdurdod cyhoeddus arall swyddogaethau nad ydynt yn ymwneud â Chymru.
18. Nid yw'r Gorchymyn hwn a gynigir ynddo'i hun yn gwneud cais i addasu neu dynnu unrhyw swyddogaeth gan Weinidog y Goron. Yn rhinwedd Rhan 2 o Atodlen 5 o'r Ddeddf, ni chaiff y Cynulliad drwy Fesur newid swyddogaethau Gweinidog y Goron heb gydsyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru. O ran unrhyw gynigion yn y dyfodol a all effeithio ar swyddogaethau Gweinidog y Goron, ymgynghorir ag Adrannau priodol Llywodraeth y DU a cheisir dod i gytundeb am unrhyw gynigion yn y dyfodol i newid neu addasu'r swyddogaethau hynny.
19. Oherwydd y rhesymau a amlinellir uchod, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig bod cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei ymestyn yn unol â darpariaethau cynnig GCD y llywodraeth y mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn ymwneud ag ef.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig
Mehefin 2007