Cynulliad Cenedlaethol Cymru

MEMORANDWM GAN LYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU

Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL: DATGANOLI, CYMRU

Dogfen PDF


Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 3) 2007

Cynnig ar gyfer Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yngl.n â Lles Cymdeithasol  

Plant Hawdd eu Niweidio a Thlodi Plant


Rhagarweiniad

1. Cafodd y Memorandwm hwn ei baratoi a'i osod gerbron yn unol â Rheol Sefydlog (RhS) 22.14. Mae'n gosod y cefndir i'r darpariaethau yn y cynnig amgaeedig gan y llywodraeth am Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) a fyddai'n rhoi cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe'i gosodir gerbron yn unol â RhS 22.13 ac mae'n esbonio cwmpas y p.er y gwneir cais amdano.

2. Ceir cyd-destun cyfansoddiadol y cais hwn yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006) a pholisi Llywodraeth y DU. Dangosodd Papur Gwyn Llywodraeth y DU Trefn Lywodraethu Well i Gymru” a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2005 ymrwymiad Llywodraeth y DU i wella pwerau deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel sefydliad a etholwyd yn ddemocrataidd gyda'i weithdrefnau craffu manwl ei hun.

3. Mae adran 95 o Ddeddf 2006 yn rhoi p.er i'w Mawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, i roi'r cymhwysedd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfu drwy Fesur Cynulliad ar faterion penodedig. Caniateir ychwanegu'r materion hyn at feysydd o fewn Atodlen 5 i Ddeddf 2006. Caiff Mesurau Cynulliad wneud unrhyw ddarpariaeth y gallai Deddf Seneddol ei gwneud (ac o'r herwydd gall addasu deddfwriaeth bresennol a gwneud darpariaeth newydd), o ran materion, yn ddarostyngedig i'r terfynau y darperir ar eu cyfer yn Rhan 3 o Ddeddf 2006. Cyfeirir at Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan Adran 95 o Ddeddf 2006 fel Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) yn y memorandwm hwn.

4. Caniateir mewnosod materion i'r meysydd a gynhwysir yn Atodlen 5 i Ddeddf 2006, naill ai drwy Ddeddf Seneddol neu drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, a gymeradwywyd gan y Cynulliad a chan ddau D.'r Senedd. Mae'r ail lwybr yn galluogi'r Cynulliad i gychwyn y broses ar gyfer trosglwyddo cymhwysedd o'r fath drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.

5. Byddai'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a gynigir yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ym maes Lles Cymdeithasol (maes 15, Rhan 1, Atodlen 5 i Ddeddf 2006).

6. Bydd pwerau deddfwriaethol newydd ar gyfer y mater” penodedig yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad, Aelodau'r Cynulliad a Phwyllgorau'r Cynulliad i ddwyn cynigion cydlynol gerbron ar gyfer deddfwriaeth, ar ffurf Mesurau, a seilir ar flaenoriaethau ac amserlenni yng Nghymru. Bydd y Mesurau hyn yn destun craffu trylwyr a chymeradwyaeth gan y Cynulliad.

Y cefndir

7. Mae gan Weinidogion Cymru gyfrifoldebau eang eu hystod sy'n ymwneud â maes Lles Cymdeithasol. Mae gan awdurdodau lleol a'u partneriaid statudol yng Nghymru gyfrifoldeb dros hybu a sicrhau llesiant plant a phobl ifanc hawdd eu niweidio, gan gynnwys rhai mewn angen; plant sy'n derbyn gofal a phlant sy’n gadael gofal.TP1PT Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ceisio, drwy ddarpariaeth benodol i Gymru mewn Mesurau Seneddol a thrwy ddefnyddio ei phwerau is-ddeddfwriaeth, meithrin dull gwahanol o weithredu sy'n ymateb i amgylchiadau Cymru ac anghenion plant yng Nghymru.

8. Wrth wraidd polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc hawdd eu niweidio, plant sy'n derbyn gofal a thlodi plant y mae pedwar cyhoeddiad allweddol a amlinellir isod, ac ymrwymiad yn y maniffesto i ddiwygio'r gyfraith yngl.n â phlant hawdd eu niweidio a phlant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys camau i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn gyfrwng angenrheidiol i gyflawni'r ymrwymiadau hyn.

9. Gweithredu'r Hawliau (1) yw polisi cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Wrth wraidd y polisi hwn y mae saith nod craidd, sef bod plant a phobl ifanc:

  • yn cael dechrau da mewn bywyd
  • yn cael ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysg
  • yn mwynhau’r iechyd gorau posib, yn rhydd o gamdriniaeth, erledigaeth ac ecsploetiaeth
  • yn gallu cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol;
  • yn cael eu trin gyda pharch, yn cael pobl i wrando arnynt, gan gydnabod eu hil a’u hunaniaeth ddiwylliannol;
  • yn byw mewn cartref a chymuned ddiogel sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol;
  • ddim dan anfantais oherwydd tlodi.

Mae'r rhain wedi'u seilio ar nifer o themâu craidd:

  • sylfaen egwyddor yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn;
  • hawliau i gael gwasanaethau ar sail anghenion y plentyn neu'r person ifanc;
  • gwrando ar sylwadau plant, pobl ifanc a theuluoedd a gweithredu’n ôl y sylwadau hynny;
  • rhoi'r flaenoriaeth uchaf i'r rhai y mae'r angen mwyaf arnynt, gan gydnabod bod plant mewn gofal yn gr.p sydd o dan anfantais arbennig; ac
  • ymrwymiad gan wahanol gyrff lleol i weithio mewn partneriaeth fel yr unig ffordd y gellir gwireddu'r dyheadau hyn.

10.Yn y ddogfen Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol (2), strategaeth ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru dros y deng mlynedd nesaf a’r ddogfen Tuag at Fywyd Sefydlog a Dyfodol Gwell (3), nodwyd bwriadau polisi a chamau cynnar Llywodraeth Cynulliad Cymru tuag at wneud diwygiadau graddol i foderneiddio gwaith cyflwyno gwasanaethau i blant hawdd eu niweidio a chyflymu gwelliannau mewn polisïau a chanlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

11.Yn y Cynllun Gweithredu yn erbyn Tlodi ymhlith Plant a cherrig milltir cysylltiedig a’r papur targedau Dileu Tlodi Plant yng Nghymru - Mesur Llwyddiant nodwyd atebion a chamau penodol i integreiddio polisïau a rhaglenni i ddileu tlodi plant yng Nghymru erbyn 2020, gan adeiladu ar y rhaglenni gwrthdlodi presennol sy'n bodoli eisoes megis Dechrau'n Deg, Cymorth a Chymunedau'n Gyntaf. Mae mynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol ymhlith plant a phobl ifanc wrth galon strategaeth ehangach Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella ansawdd bywyd, hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chydraddoldeb cyfle i bob cymuned yng Nghymru.

12. Mae gwahaniaeth cynyddol rhwng Cymru a Lloegr o ran dull gweithredu ym meysydd polisi, cynllunio a chyflenwi gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Yr oedd Deddf Plant 2004 yn arwydd o newid sylweddol i ddull teilwredig o weithredu yng Nghymru i gyflawni’n hagenda neilltuol ar gyfer plant a phobl ifanc. Nid oes unrhyw Ymddiriedolaethau Plant yng Nghymru, a bu’n ofynnol i awdurdodau lleol Cymru greu un cyfarwyddwr dros wasanaethau plant. Yn lle hynny, mae gan gyfarwyddwyr ac aelodau arweiniol mewn llywodraeth leol a’r GIG gyfrifoldeb dros weithio mewn partneriaeth drwy’r Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc. Mae lles plant hawdd eu niweidio yng Nghymru a gwaith darparu gwasanaethau iddynt yn gyfrifoldeb 22 o awdurdodau lleol sy'n gweithio'n gydffiniol â 22 o fyrddau iechyd lleol a 14 o Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) i asesu anghenion lleol ar draws eu priod ardaloedd a chynllunio ar gyfer yr anghenion hynny. Y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddogion Addysg sy'n gyfrifol am gyflenwi gwasanaethau yn eu hardaloedd. Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc (22 ohonynt) yw'r prif gyrff sy'n gyfrifol am gyd-drefnu a goruchwylio gwaith i lunio cynllun sengl strategol ynghylch sut y caiff llesiant plant yn eu hardal ei wella i fod yn sail i'r broses o gyflenwi, comisiynu a chyfuno adnoddau a gwasanaethau ar draws y bartneriaeth. Nid oes gan Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc unrhyw gyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau'n uniongyrchol.

13. Mae polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y ddogfen Tuag at Fywyd Sefydlog” a roddir ar waith o'r mis Gorffennaf hwn ymlaen yn bolisi unigryw ar gyfer plant mewn gofal yng Nghymru sydd wedi'i deilwra i adlewyrchu amgylchiadau ac atebion lleol. Mae'n dangos ymhellach fod angen i Gymru gaffael pwerau i fynd i'r afael â blaenoriaethau Cymru a materion sy'n ymwneud â Chymru. Mae'r cyfyngiadau ar y setliad presennol yn cyfyngu ar ein gallu i gyflwyno’r ystod o ddarpariaethau cydlynol yr hoffem eu gweld ac a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i blant hawdd eu niweidio yng Nghymru, a'r rheini'n ddarpariaethau a fyddai wedi'u seilio ar gamau atal ac ar gymorth i rieni yn ogystal â phlant.

14. Mae i blant hawdd eu niweidio” ddiffiniad eang. Yng nghyd-destun y Gorchymyn hwn mae'n ymwneud ag anghenion ystod amrywiol o blant: unrhyw blentyn mewn angen, sydd ar ymylon gofal, mewn gofal, neu sydd wedi gadael gofal. Mae'r GCD wedi'i ddrafftio yn y fath fodd ag i gynnwys cymorth i rieni y gall fod arnynt angen cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl, camddefnydd o sylweddau, anabledd dysgu, y ffaith eu bod yn byw mewn tlodi neu broblemau eraill a allai effeithio ar gyfleoedd a llesiant y plentyn. Mae awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau uniongyrchol ar hyn o bryd i ryw 24,000 o blant mewn angen a chynorthwyir plant a theuluoedd eraill drwy raglenni megis Dechrau'n Deg a Chynllun Cymorth sydd wedi’u seilio ar ardal. Mae plant sy'n derbyn gofal” yn cynnwys plant yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru (4,800) a phlant sy'n gadael gofal (1,600) y mae gan Lywodraeth y Cynulliad ac awdurdodau lleol gyfrifoldebau unigryw drostynt fel rhieni corfforaethol y gr.p hwn sy'n arbennig o hawdd eu niweidio. Mae rhyw 28% (170,000) o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ar aelwydydd y mae eu hincwm islaw'r canolrif o 60%.

15. Mae swmp mawr o ddeddfwriaeth yn bodoli bellach yngl.n â lles plant hawdd eu niweidio, mae'n dameidiog ac wedi'i diwygio gan lawer o Ddeddfau Seneddol ac amryw Orchmynion a Rheoliadau, a wnaed ar gyfer Cymru a Lloegr neu ar gyfer Cymru yn unig. Mae anghysondebau hefyd rhwng meysydd deddfwriaeth, sy'n golygu bod gwahanol grwpiau o bobl ifanc yn cael gwahanol lefelau o wasanaeth ar sail eu statws yn hytrach na'u hangen. Bydd y Gorchymyn yn caniatáu cydgrynhoi'r ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â phlant hawdd eu niweidio, gan ddod â’r darpariaethau a wnaed dros y blynyddoedd at ei gilydd a'u had-drefnu. Bydd yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau mwy o eglurder i lywodraeth leol a'i phartneriaid yngl.n â'u dyletswyddau tuag at blant hawdd eu niweidio a phobl ifanc a phlant mewn tlodi.

16. Gan adeiladu ar strategaeth 10-mlynedd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, y bwriad yw ymgynghori (yn 2008) ynghylch cynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi strategaeth ar waith ar gyfer plant hawdd eu niweidio a fyddai'n gweithredu yng nghyd-destun y Partneriaethau statudol newydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.(4) Bydd y GCD yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno cynigion cydlynol ar gyfer deddfwriaeth gan wybod y bydd gan y Cynulliad y pwerau angenrheidiol i roi ar waith newidiadau yn y gyfraith yngl.n â lles plant a phobl ifanc, yn enwedig er mwyn sicrhau'r pwyslais cryfach ar gynorthwyo teuluoedd ac ar gamau atal sydd eisoes wedi'u nodi fel thema allweddol.

17. Mae angen pwerau ychwanegol yn y maes hwn er mwyn goresgyn y cyfyngiadau deddfwriaethol presennol a'i gwneud yn bosibl i gyflwyno atebion Cymreig i'r mater o gyflawni'r ymrwymiadau a nodwyd uchod. Mae'r terfynau deddfwriaethol presennol wedi cyfyngu ar y broses o lunio a gwella polisïau ynghylch plant sy'n derbyn gofal i ddiwallu anghenion Cymru; ac mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle nad yw amcanion bob amser yn cael eu gwireddu'n llawn. Bydd y Gorchymyn yn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol ychwanegol i'r Cynulliad i ddiwygio'r gyfraith ynghylch plant hawdd eu niweidio a thlodi plant er mwyn:

(i) ad-drefnu a chydgrynhoi'r darpariaethau presennol ar gyfer plant hawdd eu niweidio; a

(ii) diwygio'r gyfraith er mwyn darparu’r fframwaith cyfreithiol i roi ar waith gydrannau allweddol o bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant hawdd eu niweidio yng Nghymru.

(iii) gwneud taliad atodol i gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, ac os bydd yn angenrheidiol creu hawl statudol i gael gofal plant di-dâl ar gyfer plant dwy flwydd oed y mae'r angen mwyaf arnynt.

18. Bydd y Gorchymyn yn darparu fframwaith cyfreithiol hefyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru fwrw ymlaen â'i chynigion i fynd i'r afael â thlodi plant, yn enwedig i gymryd camau i osod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus i ddangos eu cyfraniad at waith rhoi terfyn ar dlodi plant a threfniadau penodol i awdurdodau lleol Cymru hybu cynilion plant yng Nghymru.

Cwmpas

19. Mae cwmpas y Gorchymyn wedi'i lunio yn y fath fodd ag i alluogi'r Cynulliad i gydgrynhoi'r ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer plant mewn angen, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal a’r rhai sy'n gadael gofal. Byddai'n caniatáu newidiadau i gynnal lles grwpiau ehangach o blant, nid yn unig y rhai sy'n cael eu categoreiddio'n blant sy'n derbyn gofal” neu'n blant mewn angen”. Mae wedi'i lunio hefyd yn y fath fodd ag i gwmpasu cymorth i deuluoedd plant a fyddai mewn perygl o ddod yn blant mewn angen oni bai eu bod wedi cael gwasanaeth. Mae'n cynnwys awdurdodau lleol a dyletswyddau cyffredinol eu partneriaid i ddiogelu a hybu llesiant pob plentyn yn eu hardal gan gynnwys darpariaethau a chamau penodol o ran mynd i'r afael â thlodi plant.

20. Ar y cyfan byddai'r Gorchymyn yn ymdrin â gwasanaethau y darperir ar eu cyfer ar hyn o bryd gan Rannau –2 a 3 ac Atodlen 2 o Ddeddf Plant 1989. Byddai'n ymestyn hefyd i gynnwys cyfrifoldebau awdurdodau lleol dros wasanaethau cyn-ysgol a gwasanaethau eraill o ran gwarchod plant a gofal plant sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd o dan raglenni Dechrau'n Deg a Chynllun Cymorth. Y ddeddfwriaeth arall ynghylch plant hawdd eu niweidio y gellid ei chynnwys yn y pwerau i roi grantiau at ddibenion lles o dan Ddeddf Addysg 2002, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002, Deddfa Safonau Gofal 2000, Deddf Plant 2004 a deddfwriaeth gofal cymunedol i'r graddau y mae ‘r ddeddfwriaeth honno'n ymwneud â swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant anabl a'r rhai sy'n gofalu amdanynt a hefyd plant sydd eu hunain yn ofalwyr oedolion anabl.

21. Mae'r Gorchymyn Cynhwysedd Deddfwriaethol yn ceisio rhoi pwerau i'r Cynulliad wneud Mesurau Cynulliad ynghylch plant a phobl ifanc hawdd eu niweidio a mynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru, drwy ychwanegu materion at Atodlen 5 o Ddeddf 2006 o dan faes lles cymdeithasol, gan sicrhau bod unrhyw ddyletswyddau trawsffiniol mewn perthynas â Chymru a Lloegr yn cael eu cadw.

Materion 15.1, 15.3, 15.5, 15.6 a 15.8

22. Mae'r rhain yn ymwneud â’r dyletswyddau cyffredinol o ddiogelu a hybu llesiant plant a phobl ifanc a rhoi cymorth i'w teuluoedd. Bydd hyn yn ymdrin â chyfrifoldebau eang a phenodol awdurdodau lleol a phartneriaid statudol (ac unigolion) a dyletswyddau i gydweithredu (sydd ar unigolion a chyrff) o ran diogelu a hybu lles pob plentyn yng Nghymru a lleihau anghydraddoldeb i sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt y cyfleoedd bywyd gorau. Yn benodol, mae hyn yn cynnwys y dyletswyddau sydd ar y Bartneriaeth statudol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc i sicrhau bod cynlluniau strategol yn cymryd i ystyriaeth eu dyletswyddau i hybu llesiant a chan gynnwys unrhyw drefniadau newydd i ddiogelu rhag tlodi plant. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau megis gwarchod plant a gofal dydd a dyletswyddau penodol mewn perthynas â phlant mewn gofal sy'n hawdd eu niweidio, gan gynnwys addysg ac iechyd. Mae'r materion yn rhychwantu hefyd waith rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau (sy'n bodoli eisoes neu rai newydd) mewn cartrefi plant, gwasanaethau maethu, a gwasanaethau eraill a ddarperir gan unigolion a chyrff, i sicrhau diogelwch ac ansawdd gofal, h.y. swyddogaethau'r Bwrdd Lleol er Diogelu Plant Hawdd eu Niweidio a'r rhai yr ymgymerir â hwy ar hyn o bryd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chyngor Gofal Cymru.

23. Mae'r materion hyn hefyd yn ymdrin â chymorth lles eang i blant a theuluoedd o dan yr agenda ynghylch atal a lleihau tlodi, pan fo'n bosibl y câi'r plentyn ei ystyried yn blentyn mewn angen pe na bai'r gwasanaeth wedi'i ddarparu i'r teulu neu'r brodyr neu'r chwiorydd. Maent yn cynnwys cymorth awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau gwarchod plant cyn-ysgol, gwasanaethau gofal plant a gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd o dan gynllun Dechrau'n Deg a chynllun Cymorth. Maent yn rhoi cyfle hefyd i awdurdodau lleol roi cymorth ariannol gan gynnwys cyfraniadau at gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant a lleoedd gofal plant am ddim i bawb, neu i gategorïau rhagnodedig o blant yng Nghymru.

Mater 15.2

24. Mae hwn yn ymdrin â phob swyddogaeth o ran trefniadau cyhoeddus a phreifat ar gyfer gwasanaethau maethu a mabwysiadau, gan gynnwys rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau ac unigolion sy'n gweithio yn y gwasanaeth.

25. Mae Materion 15.1, 15.2, 15.3 a 15.4 yn ymdrin â dyletswyddau awdurdodau lleol i'r rhai sydd mewn gofal neu y gofalwyd amdanynt (gan gynnwys plant a letyir dros dro o dan drefniadau cyfiawnder ieuenctid) a/neu y mae llety'n cael ei ddarparu iddynt (ddim o reidrwydd gan awdurdodau lleol: mae hyn yn rhychwantu trefniadau preifat), mewn lleoliadau maeth, lleoliadau gofal preswyl (cartrefi plant, ysgolion etc), lleoliadau gofal diogel a lleoliadau eraill, gan gynnwys y rhai sydd mewn gofal o dan orchymyn llys a/neu drefniadau gwirfoddol. Mae Mater 15.4 hefyd yn ymdrin â dyletswyddau awdurdodau lleol i ddarparu ystod o gymorth a gwasanaethau (gan gynnwys llety) i bobl sy'n gadael gofal gan gynnwys cymorth ariannol a chostau byw i bobl sy'n gadael gofal ac sy’n ceisio cael gwaith cyflogedig neu sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant. Mae gwasanaethau i bobl sy’n gadael gofal yn cynnwys cyfle i weld cynghorydd personol i gadw at gynllun llwybr a chymorth ehangach yngl.n â chyfraniadau at dreuliau a llety i'r rhai sy'n ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant.

26. Mae Mater 15.3 a 15.4 yn ymdrin hefyd â dyletswyddau awdurdodau lleol o dan adran 24 o Ddeddf Plant 1989 i roi cyngor a chymorth i ddosbarth ar blant a phobl ifanc, sy’n gorgyffwrdd â’r rhai sydd wedi bod yn derbyn gofal ond sy’n ddosbarth ehangach, sy’n cynnwys y rhai sydd wedi bod mewn llety awdurdod lleol ond am gyfnod nad oedd yn ddigon hir, y rhai y gofalwyd amdanynt gan neu ar ran cyrff gwirfoddol, y rhai y gofalwyd amdanynt gan nifer o wahanol gyrff iechyd am gyfnod o fwy na thri mis, y rhai a fu’n ddarostyngedig i orchymyn Gwarcheidwadaeth arbennig a’r rhai sydd wedi’u maethu’n breifat.

Mater 15.7

27. Mae Mater 15.7 yn ymdrin â swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru.

Eithriadau

28. Mae’r tabl yn delio â’r swyddogaethau hynny nad ydynt wedi’u datganoli i’r Cynulliad. Mae'r diffiniad o'r materion hyn yn cynnwys eithriadau penodol, a nodir yn y tabl ym mharagraff 3. Mae'r rhain yn egluro nad yw'r materion yn cynnwys cymorth i blant (h.y. trefniadau ar gyfer darparu cynhaliaeth gan ddau riant y plentyn), credydau treth, budd-dal plant, lwfans gwarcheidwad, nawdd cymdeithasol, Motability na Chronfeydd Byw’n Annibynnol. Nid ydynt yn cynnwys ychwaith gynllun cyffredinol cronfeydd ymddiriedolaeth plant ond maent yn cynnwys gwneud taliadau i gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni ymrwymiad a wnaed cyn yr etholiad i wneud mater talu cyfraniadau gan awdurdodau lleol Cymru at gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant plant sy'n derbyn gofal yn ddyletswydd statudol (mae'n gweithredu ar hyn o bryd fel cynllun gwirfoddol, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru); a bydd yn ymdrin hefyd â'r trefniadau sy'n angenrheidiol i gyflawni ymrwymiad yn y maniffesto sy'n ymwneud â chyfraniadau at gynilion hirdymor i blant.

Terfynau daearyddol unrhyw Fesur Cynulliad

29. Mae adran 93 o Ddeddf 2006 yn darparu na fydd unrhyw Fesur Cynulliad yn gyfraith os bydd yn gymwys ac eithrio o ran Cymru, neu os bydd yn gosod, addasu neu dynnu swyddogaethau y gellir eu harfer ac eithrio o ran Cymru (neu'n rhoi p.er i wneud hynny). Mae eithriadau cyfyngedig ar gyfer mathau penodol o ddarpariaethau atodol, er enghraifft, darpariaeth sy'n briodol i wneud darpariaethau'r Mesur yn effeithiol, darpariaeth sy'n galluogi darpariaethau'r Mesur i gael eu gorfodi a darpariaeth sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall.

30. Mae'r cyfyngiad ynghylch swyddogaethau ac eithrio o ran Cymru yn golygu na allai'r Cynulliad roi swyddogaethau nad ydynt yn ymwneud â Chymru i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol Cymru nac unrhyw awdurdod cyhoeddus arall.

Swyddogaethau Gweinidog y Goron

31. Mae nifer o feysydd deddfwriaeth sy'n ymwneud â lles plant hawdd eu niweidio ac sy'n parhau i fod yn gyfrifoldeb Gweinidogion y DU, megis y gofynion bod enwau'r rhai y bernir eu bod yn anffit i weithio gyda phlant yn cael eu rhoi ar restr a gedwir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelu Plant 1999. Yn rhinwedd Rhan 2 o Atodlen 5 i Ddeddf 2006, ni chaiff y Cynulliad drwy Fesur newid unrhyw swyddogaeth sydd gan un o Weinidogion y Goron heb gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol. Hyd yn oed pan nad ydynt yn dod o dan un o'r eithriadau a restrwyd uchod, bydd yn dal yn wir na chaiff y Cynulliad ddeddfu i newid y swyddogaethau hynny heb gydsyniad Llywodraeth y DU.

Y Casgliad

32. Am y rhesymau a amlinellwyd uchod, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dymuno cynnig y dylid rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â phlant hawdd eu niweidio, yn nhermau'r Gorchymyn drafft arfaethedig a atodwyd.

1    Gweithredu'r Hawliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru 2005  

2    Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol – Strategaeth ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru dros y Degawd Nesaf, LlCC (2007).

3    Tuag at Fywyd Sefydlog a Dyfodol Gwell, Llywodraeth Cynulliad Cymru (2007).

4    Adran 25 o Ddeddf Plant 2004 – cyfrifoldeb partneriaethau i gydweithredu ym maes llesiant plant a phobl ifanc.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gorffennaf 2007